Dyddiad cau: 1 Mawrth 2023 | Cyflog: £21,655-£24,408 (Gradd 2) |  Lleoliad: Hyblyg yng Nghymru

Math o gontract: Prentisiaeth cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.

Rhifau y swyddi: 203456, 203457, 203458, 203459, 203460, 203461

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae adnoddau naturiol gwych yng Nghymru – mynyddoedd a choetiroedd garw, tirweddau a morlinau hardd, a bywyd gwyllt anhygoel.

Maent yn hanfodol i’n goroesiad ac yn rhoi i ni'r pethau sylfaenol sydd eu hangen arnom i fyw: aer glân, dŵr glân a bwyd. Maent yn creu swyddi i filoedd o bobl fel ffermwyr, coedwigwyr a gweithredwyr twristiaeth, gan greu cyfoeth a ffyniant.

Maent yn rhoi ansawdd bywyd gwell i ni a chyfleoedd i  fwynhau'r awyr agored gyda harddwch a threftadaeth naturiol Cymru yn gefndir i'r cwbl. Mae pobl yn dod o bell i'w profi. Maent wedi’u cysylltu’n gynhenid â diwylliant Cymru a’r Gymraeg.

Ein cyfrifoldeb ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw gofalu am adnoddau naturiol Cymru a’r hyn y maent yn ei ddarparu i ni: i helpu i leihau'r risg o lifogydd a llygredd i bobl ac eiddo;  i ofalu am fannau arbennig ar gyfer llesiant, bywyd gwyllt a phren; ac i weithio gydag eraill i’n helpu ni i gyd i’w rheoli’n gynaliadwy. Mae'r bobl sy'n gweithio yma yn CNC yn meddu ar y wybodaeth, yr arbenigedd a’r brwdfrydedd i helpu i sicrhau ein bod yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ynglŷn â rolau Prentisiaethau Gorfodi

Eleni, mae CNC yn lansio prentisiaeth gorfodi newydd, gyda chwe chyfle ar gael ledled Cymru, sy’n troi o amgylch CNC yn datblygu arbenigwyr amgylcheddol y dyfodol i barhau â gwaith pwysig ein timau ledled Cymru. Os byddwch yn llwyddiannus, gallech gael eich penodi i dimau yn unrhyw un o'r chwe rhanbarth a fapiwyd ledled Cymru. O ganlyniad, gallech yn y pen draw weithio yng Nghymoedd y De, ar draws Parc Cenedlaethol Sir Benfro, ar hyd ffiniau Lloegr, neu yn nyfnderoedd Mynyddoedd Cambria neu odreon Parc Cenedlaethol Eryri.

Ni waeth pa dîm yr ydych yn ymuno ag ef, mae'r cyfle hwn yn rhoi modd i weithio ochr yn ochr â'n timau proffesiynol sy'n gyfrifol am orfodi mewn ystod amrywiol o gyfundrefnau rheoleiddio – yn bennaf y rhai sy'n canolbwyntio ar bysgodfeydd, ond gallai fod cyfleoedd mewn meysydd eraill hefyd, fel gwastraff a dŵr. Mae rhai digwyddiadau neu achosion o dorri gofynion rheoleiddiol yn achosi, neu mae ganddynt y potensial i achosi, difrod amgylcheddol sylweddol. Gall eraill ymyrryd â mwynhad neu hawliau pobl, neu ein gallu i wneud ein gweithgareddau. Ein hymateb cyntaf fydd atal niwed i bobl a'r amgylchedd rhag digwydd neu barhau. Fel rhan o'r rôl, byddwch yn cynnal ymchwiliad effeithiol ac effeithlon i amrywiaeth o droseddau amgylcheddol cymhleth ac yn darparu cymorth gweithredol i'r sefydliad ehangach.

Bydd y cynllun hwn yn eich cyflwyno i ystod amrywiol o gyfleoedd sy’n ein helpu i warchod amgylchedd Cymru a’r cymunedau ledled Cymru. Rydym yn chwilio am rywun sydd â brwdfrydedd ac angerdd dros yr amgylchedd ac a all ddangos cymhelliant i ddysgu a chyflawni ei waith wrth weithio ochr yn ochr â'n timau a chwsmeriaid ehangach, gan gynnwys y cyhoedd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cofrestru ar Brentisiaeth Cadwraeth Amgylcheddol L3 City & Guilds ac yn cael eu cefnogi i gwblhau'r cwrs trwy gydol eu cyflogaeth gydag CNC. Byddwch yn derbyn cyfleoedd dysgu a datblygu i'ch galluogi i warchod a gwella'r amgylchedd naturiol.

Byddwch wedi'ch lleoli yn y timau rheoleiddio gwastraff ond, trwy'r cynllun prentisiaethau, byddwch yn cael cyfle i weld a chymryd rhan mewn gweithgareddau gorfodi (a gweithgareddau CNC ehangach o bosibl) ar draws timau gweithredol eraill.

Trwydded yrru lawn y DU (hanfodol).

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cyfrannu at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
  • Gweithio gyda thimau gweithredol sy’n seiliedig ar le i alluogi CNC i gymryd camau priodol yn unol â’i bolisi gorfodi ac erlyn.
  • Cynorthwyo’r gwaith o gyflawni cynlluniau gwaith, a grëir gan y tîm, sy’n cyfrannu at y gwaith o gyflawni cynlluniau busnes.
  • Byddwch yn cysylltu â thimau mewnol eraill a sefydliadau allanol er mwyn sefydlu ffynonellau o wybodaeth ac er mwyn crynhoi a rhannu cyngor a gwybodaeth fel bod gan yr holl bartïon yr wybodaeth angenrheidiol i berfformio a chyflawni eu gwaith.
  • Cynorthwyo gydag ymweliadau safle ac efallai y bydd angen i chi fynychu’r llys, i gefnogi cydweithwyr CNC eraill ac i gynrychioli a rhoi tystiolaeth ar ran y sefydliad i sicrhau camau gorfodi priodol.
  • Cadw cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaeth a safonau y cytunir arnynt.
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm a chymryd rhan mewn cyfarfodydd allanol gydag aelodau eraill o’r tîm.
  • Rhyngweithio â chymheiriaid yn CNC ar draws CNC i gefnogi gweithgareddau gorfodi ehangach.
  • Gwaith arall yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
  • Mae’n bosibl y byddwch yn rhan o dîm ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Cymhwysedd mewn TGCh (lefel sylfaenol). 
  2. Mae profiad amgylcheddol blaenorol yn ddymunol. 
  3. Gall y rôl fod yn anodd yn gorfforol, felly bydd angen lefel resymol o ffitrwydd.    
  4. Hyderus yn gweithio mewn dŵr ac wrth ymyl dŵr.
  5. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.   
  6. Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelar).
  7. Nid oes angen unrhyw gymwysterau academaidd neu dechnegol penodol arnoch, ond disgwylir eich bod wedi cyflawni safon resymol o addysg sy'n gyfwerth â Lefel 2 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, a allai fod wedi cynnwys rhyw elfen o astudio disgyblaeth cymorth gweinyddol/busnes, neu bydd gennych y lefel gyfwerth o wybodaeth.
  8. Bydd gennych brofiad gwaith ymarferol blaenorol a byddwch wedi ennill lefel resymol o gymhwysedd gweinyddol.
  9. Oherwydd natur y rôl, yr isafswm oedran yw 18 mlwydd oed.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd gwybodaeth a sgiliau wedi'u hennill trwy brofiad gwaith ymarferol blaenorol fel bod gan ddeiliad y swydd lefel resymol o gymhwysedd technegol i gyflawni gofynion y rôl. Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau rhifedd, llythrennedd, TG a chyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Bydd hefyd gan ddeiliad y swydd sgiliau llythrennedd, rhifiadol a chyfathrebu da, a dealltwriaeth o'r gofynion a goblygiadau o safbwynt iechyd a diogelwch sy’n ymwneud â gweithgareddau’r gwaith.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Yn gyffredinol, bydd yr wybodaeth a ddefnyddir at ddibenion gyflawni’r rôl yn syml, yn hawdd ei deall, ac o ffynonellau sy'n hawdd eu cyrchu.
  • Gallai fod elfen o gasglu a chofnodi data sy’n gofyn am rywfaint o gywirdeb.  Gall gwirio a dilysu data/gwybodaeth fod yn nodwedd rolau ar y lefel hon.
  • Mae dogfennau eraill yn debygol o fod yn weddol arferol a safonol o safbwynt eu deall neu eu cwblhau.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Yn gyffredinol, bydd y gwaith yn dilyn cynllun gwaith cytunedig a fydd angen i ddeiliad y swydd ei ddilyn heb lawer o ofyn i wyro oddi arno, heblaw am flaenoriaethu tasgau. Yn gyffredinol, bydd gwaith yn dilyn trefn arferol. Fodd bynnag, efalli y bydd rhai problemau sy'n dod i'r golwg a fydd yn gofyn am rywfaint o flaengaredd neu farn, er y bydd datrysiadau yn seiliedig ar wybodaeth a phrofiad blaenorol a datrysiadau a chanlyniadau hysbys yn gyffredinol. Felly, mae gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth yn eithaf cyfyngedig.

Effaith

  • Mae'r gwaith a wneir yn gyffredinol o fewn maes penodol felly bydd unrhyw effaith yn ei sgil yn effeithio'n bennaf ar eraill yn y tîm. Fodd bynnag, bydd gan rai agweddau ar y gwaith y potensial, os cânt eu gwneud yn anghywir, i gael effaith isel ar drydydd partïon. Byddai'r effaith yn hysbys yn eithaf sydyn a gellid ei chywiro a’i thrin yn gyflym heb i unrhyw faterion tymor hwy godi.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Bydd cyfathrebu gyda chydweithwyr sy'n cyflawni agweddau tebyg ac agweddau gwahanol ar y gwaith. Efallai y bydd hyn yn cynnwys arwain ar rai agweddau ar y gwaith sy'n gofyn am y gallu i roi arweiniad neu gyfarwyddiadau clir i eraill os oes angen.
  • Bydd cyswllt â'r cyhoedd a thrydydd partïon hefyd, a fydd fel arfer yn golygu cyfnewid gwybodaeth.
  • Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn cynnwys cwblhau dogfennau safonol a chadw cofnodion, gan ofyn am sgiliau TG da.

Manteision gweithio i ni

  • Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais 1 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cadarnhau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Fiona Hourahine ar Fiona.hourahine@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk   

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf