Sut i wneud cais am swydd gyda ni

Sut y caiff swyddi eu hysbysebu

Caiff hysbysiadau allanol eu hysbysebu ar y dudalen Swyddi.

Mae’r Crynodeb Swydd yn pennu lleoliad, pwrpas, cyfrifoldebau penodol a gofynion y swydd, a hefyd mae’n cynnwys manylion am y cais, gan gynnwys y dyddiad cau.

Yr hyn y dylid ei wneud os oes gennych ddiddordeb mewn swydd wag

Os oes gennych ddiddordeb mewn swydd wag, ac os credwch eich bod yn bodloni’r gofynion a’ch bod yn addas ar gyfer y swydd, dylech wneud y canlynol: 

Cam 1: Darllen y Canllawiau i Ymgeiswyr 

Cam 2: Llenwi Ffurflen Gais ar gyfer y swydd, lle y bydd yn rhaid ichi ddangos sut y mae eich sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y swydd fel y’u nodir yn yr hysbyseb. 

Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi yn Gymraeg, ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei thrin yn llawi ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Gofalwch eich bod yn:

  • dyfynnu cyfeirnod y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani
  • cynnwys yr holl dystiolaeth berthnasol
  • anfon y ffurflen gais yn electronig i Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad a nodwyd
  • sicrhau eich bod ar gael ar gyfer y cyfweliad ar y dyddiad a hysbysebwyd

Help a chymorth

Bydd y Crynodeb Swydd yn cynnwys manylion e-bost y rheolwr sy’n recriwtio, ynghyd â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cais.

Os byddwch angen unrhyw gymorth, neu os hoffech siarad â rhywun ynglŷn â chyflwyno cais, cysylltwch â’r rheolwr sy’n recriwtio’r swydd neu anfonwch e-bost at y Tîm Recriwtio ar recruitment@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf