Nodiadau canllaw ar gwblhau’r ffurflen gais

Cymerwch ofal mawr wrth gwblhau’r ffurflen gais, caiff penderfyniad y panel i’ch gosod ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ei seilio’n llwyr ar y wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu.

Cyn i chi ddechrau eich cais

  • Mae gan bob un o'n swyddi grynodeb swydd a disgrifiad rôl. Sicrhewch eich bod yn cyfeirio atynt cyn i chi gwblhau’r ffurflen gais.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac ni chaiff ceisiadau a wneir drwy'r Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na'r rheiny a wneir drwy'r Saesneg.
  • Oni bai fod eich cais yn dangos yn glir sut rydych yn bodloni gofynion yr holl gyfrifoldebau sy'n benodol i'r swydd a restrir, efallai na fyddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
  • Os nad oes digon o le ar y ffurflen gais i chi gynnwys eich gwybodaeth, dylech barhau ar daflen ar wahân, gan nodi'n glir pa ran o'r ffurflen y mae'r wybodaeth honno'n berthnasol iddi.
  • Caiff yr holl wybodaeth a ddarperir gennych ei chadw'n hollol gyfrinachol.

Y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani

Nodwch yn glir ar y ffurflen gais deitl a rhif y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani; cewch hyd i’r manylion ar y Crynodeb Swydd. Os na fyddwch yn nodi hyn mae’n bosibl na chaiff eich cais ei ystyried.

Bodloni ein gofynion

Er mwyn eich helpu i gynllunio’r hyn sydd angen ei gynnwys yn eich cais, bydd y cymwyseddau yn y Crynodeb Swydd yn eich helpu i ganolbwyntio ar sut i gyflwyno eich tystiolaeth, gyda'r gofynion manwl a ddangosir yn y Disgrifiad Rôl. Mae'r rhain hefyd yn darparu meini prawf clir i’r panel er mwyn asesu addasrwydd.

Darllenwch y Disgrifiad Rôl yn ei gyfanrwydd i gael gwybod ar ba lefel y mae angen cyflwyno'r wybodaeth hon. Esboniwch sut rydych chi’n bodloni gofynion y rôl, drwy ddarparu’r dystiolaeth gan ddefnyddio’r Cymwyseddau a nodir yn y crynodeb swydd fel penawdau. Bydd y rhain yn cynnwys nifer o’r canlynol:

  • Gwybodaeth a sgiliau hanfodol
  • Ymreolaeth wrth wneud penderfyniadau
  • Cyfathrebu a pherthnasau ag eraill
  • Cyfrifoldeb am adnoddau
  • Gwerthuso gwybodaeth
  • Effaith
  • Cyfrifoldeb am bobl

Gall y math o dystiolaeth y dylech ei darparu gynnwys y canlynol:

  • Enghreifftiau o'ch swydd bresennol neu flaenorol lle mae / bu'n ofynnol i chi ddangos y lefel honno o gymhwysedd
  • Lle rydych yn cyflawni gweithgaredd y tu allan i waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi ddangos y lefel honno o gymhwysedd
  • Lle mae eich gwaith gwirfoddol neu elusennol yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddangos y lefel honno o gymhwysedd
  • Lle yr ydych wedi dilyn cyrsiau hyfforddi i'ch hyfforddi hyd at y lefel honno o gymhwysedd
  • Lle mae gennych gymhwyster addysgol neu broffesiynol sy'n dangos eich bod wedi cyflawni'r lefel honno o gymhwysedd
  • Lle yr ydych yn perthyn i gymdeithas neu gorff proffesiynol sy'n dangos eich bod wedi cyflawni'r lefel honno o gymhwysedd

Gallwch ddefnyddio eich tystiolaeth mwy nag unwaith os yw'n cwmpasu mwy nag un o'r gofynion. Gallwch dynnu ar eich profiad o unrhyw ffynhonnell, nid y gweithle yn unig, os gallwch ddangos yn glir ei fod yn bodloni'r gofyniad.

Ceisiwch roi enghreifftiau penodol ac osgoi cyffredinoli.

Trwydded yrru

Yn aml mae meddu ar drwydded gyrru ceir y DU/UE, sy’n gyfredol a chyflawn, yn ofynnol ar gyfer mwyafrif swyddi CNC. Bydd angen ichi ddangos eich trwydded os dewch am gyfweliad.

Sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg 

Fel mudiad dwyieithog rydym yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein gwaith. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, yn Gymraeg a’r Saesneg, i’r cyhoedd. Mae rhai swyddi ble y bydd dwyieithrwydd yn hanfodol, yn dibynnu ar y lleoliad a lefel y cyswllt â’r cyhoedd. Bydd y Crynodeb Swydd yn nodi gofynion iaith y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Yr iaith a ddewisir ar gyfer cyfweliad  

Fel mudiad dwyieithog byddwn yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein gwaith.

Os dewiswch gael eich cyfweld trwy gyfrwng y Gymraeg fe wnawn ddarparu panel cyfweld dwyieithog. Cynhelir rhan o’r cyfweliad yn Saesneg fel y gallwn brofi eich Saesneg llafar.

Os dewiswch gael eich cyfweld trwy gyfrwng y Saesneg am swydd ble y mae sgiliau Iaith Gymraeg yn hanfodol, cynhelir rhan o’r cyfweliad yn Gymraeg fel y gallwn roi eich Cymraeg llafar ar brawf.

Anabledd

Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 rydym yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol ble y bydd person anabl yn dioddef anfantais sylweddol oherwydd y trefniadau gweithio neu’r amgylchedd gwaith.

Ni fydd y cyfrifoldeb i wneud addasiadau rhesymol yn gymwys, oni bai ein bod yn gwybod bod gennych anabledd. Dyma’r adran ble y gallwch roi gwybod inni.

‘Hyderus o Ran Anabledd’

Logo hyderus o ran anabledd cyflogwr

Trwy ddefnyddio’r symbol yma, rydym wedi cytuno y byddwn yn:

  • cyfweld pob ymgeisydd sydd ag anabledd os ydynt yn bodloni gofynion hanfodol y swydd

Defnyddiwch yr adran yma os ydych am ymgeisio o dan y cynllun hwn. Byddwn yn gwarantu cyfweliad ichi os ydych yn bodloni’r gofynion hanfodol a gytunwyd gan y panel cyn tynnu’r rhestr fer.

Sut i ddychwelyd eich ffurflen gais

Cofiwch ddychwelyd neu e-bostio eich ffurflen gais wedi ei chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau penodedig, gan nodi rhif y swydd fel cyfeirnod.

Cydnabod ceisiadau

Ni fyddwn yn cydnabod derbyn ceisiadau fel arfer, ond mae croeso ichi ffonio’r enw cyswllt ar y Crynodeb Swydd i wneud yn siŵr ein bod wedi derbyn eich ffurflen gais os ydych yn bryderus.

Amserlen ar gyfer reciwtio

Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd sydd ar y rhestr cyfweliadau. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd rhwng un a phedair wythnos wedi’r dyddiad cau. Os oes nifer fawr o ymgeiswyr am swydd yn sgorio’n uchel, mae’n bosibl na chewch eich gwahodd am gyfweliad hyd yn oed os ydych wedi arddangos yr holl gymwyseddau angenrheidiol ar eich ffurflen gais.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch cais neu'r broses recriwtio, cysylltwch â'r tîm recriwtio:

E-bost: recriwtio@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Ffôn: 0300 065 4040 

Post: Recriwtio, Cyfoeth Naturiol Cymru, Maes y Ffynnon, Ffordd Penrhos, Bangor, LL57 2DW

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf