Swyddog Rheoleiddio Gwastraff (Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr)

Dyddiad cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg ond yn ddelfrydol yn rhanbarth De Cymru 

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad.

Rhif swydd: 202793

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi gweithgareddau rheoleiddio, cynllunio ac ymchwilio amgylcheddol ar gyfer y Datganiadau Ardal ac yn arwain ein dull rheoleiddio o ymdrin ag SMNR (Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy) a chyflawni canlyniadau llesiant.

Mae Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr yn y DU yn cynnwys pecynnu, cyfarpar trydanol ac electronig a batris ac yn sicrhau bod busnesau sy'n cynhyrchu, yn mewnforio ac yn gwerthu'r cynhyrchion hyn yn gyfrifol am eu heffaith amgylcheddol ar ddiwedd eu hoes.

Fel swyddog bydd gennych wybodaeth sylweddol o Reoliadau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr yn dilyn profiad o ddarparu rheoleiddio gwastraff nad yw ar y safle. Bydd gofyn i chi asesu cydymffurfiaeth ac ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid mewnol ac allanol, yn ogystal â datrys unrhyw faterion a nodwyd wrth gyflawni dyletswyddau statudol CNC.

Drwy roi ein Hegwyddorion Rheoleiddio ar waith bydd deiliad y swydd yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, yn ymgymryd â chamau gorfodi cymesur ac yn cyflawni manteision lluosog drwy ein hymyriadau rheoliadol.

Yn ogystal, byddwch yn cysylltu â chydweithwyr yn yr adran Tystiolaeth, Trwyddedu a Pholisi, rheoleiddwyr eraill y DU, cyrff diwydiannol a DEFRA er mwyn cefnogi datblygiad polisi a'r newid i gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr.

Mae gwybodaeth a phrofiad o Gyfrifoldeb Cynhyrchwyr naill ai drwy weithio yn y diwydiant gwastraff neu fel rheoleiddiwr yn hanfodol a hefyd gwybodaeth ddigonol o'r technolegau a ddefnyddir a'r methodolegau diogelu'r amgylchedd sy'n berthnasol i'r drefn Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr.

Yn ogystal, dealltwriaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth benodol a Chyfarwyddebau cysylltiedig a sut maen nhw'n ymwneud â'r broses Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Asesu cydymffurfiaeth â rheoliadau gwastraff nad yw'n gysylltiedig â safle, gan gynnwys llwythi gwastraff rhyngwladol, cyfrifoldeb cynhyrchwyr, gwastraff peryglus a'r cynllun lwfansau tirlenwi / targedau adennill awdurdodau lleol.
  • Cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith y tîm.
  • Cynhyrchu dogfennau gofynnol i gefnogi camau cyfreithiol.
  • Ceisio dylanwadu ar gwsmeriaid a sefydlu partneriaethau ac achosion lleol o gydweithio wrth i gyfleoedd godi er mwyn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth a phrofiad o weithio fel rheoleiddiwr.
  2. Dealltwriaeth o brosesau a phwysau busnes masnachol.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.

Gofion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Arbenigedd amlwg mewn maes neu swyddogaeth ddiffiniedig, sy'n galluogi deiliad y swydd i ddarparu cyngor ac arweiniad i eraill.
  • Yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o waith y swyddogaeth ehangach.
  • Sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau datblygedig wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
  • Mae profiad o oruchwylio eraill yn ddymunol.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Yn dangos y gallu i ddeall gwybodaeth, llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a dehongli a chymhwyso'r gofynion i gyflawni ei rôl.
  • Y gallu i ddadansoddi a phrosesu gwybodaeth dechnegol anarferol sy'n cynnwys rhywfaint o gymhlethdod.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, sy'n gofyn am rywfaint o farn a chreadigrwydd a'r angen i newid blaenoriaethau lle mae gofynion sy'n gwrthdaro.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau o natur dechnegol, yn bennaf o gwmpas ei faes gwaith ei hun ond bydd hefyd yn gorgyffwrdd â gwaith eraill.
  • Gall problemau a phenderfyniadau gynnwys rhywfaint o gymhlethdod a gofyn am yr angen i gymhwyso gwahanol dechnegau neu ddulliau.
  • Y gallu i gynnal ymchwil i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys problemau.
  • Y gallu i ddarparu arweiniad i aelodau llai profiadol er mwyn datrys problemau.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Yn dangos y gallu i ryngweithio a chyfathrebu â phobl o amgylch ei faes arbenigedd, ar draws ystod o swyddogaethau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon allanol, gan addasu ei ddull a'i arddull yn briodol.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu sefydledig gyda'r gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da, a allai gynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 19 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Eleanor Davies ar Eleanor.Davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu John Rock ar john.rock@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Diweddarwyd ddiwethaf