Cymorth Technegol, Trwyddedu Rhywogaethau

Dyddiad Cau:  26 Chwefror 2023 | Cyflog: £25,326 – £28,077 (Gradd 3) | Lleoliad: Hyblyg

Math o Gontract: Parhaol

Patrwm Gwaith: Llawn Amser, 37 awr y wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener

Rhif Swydd: 202647

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Dyma gyfle i ymuno â thîm prysur sy'n delio a trwyddedau bywyd gwyllt sy'n gysylltiedig â rhywogaethau a warchodir yn Ewrop a'r DU yn ogystal â rhywogaethau anfrodorol ymledol.  Mae hon yn rôl sy'n wynebu cwsmeriaid sy'n delio â'r cyhoedd, diwydiant ac ymgynghorwyr ecolegol. Mae hon yn rôl gweithio wrth ddesg ac yn gofyn am sylw i fanylion, sgiliau cyfrifiadurol da a'r gallu i reoli llawer iawn o waith i derfynau amser gosodedig, byddai profiad o anfonebu hefyd o fantais. Os oes gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt, bod gennych brofiad cysylltiadau cwsmeriaid, sgiliau Technoleg Gwybodaeth da ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm sy'n delio â cheisiadau cymhleth, byddem yn croesawu eich diddordeb.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cynllunio llwyth gwaith i sicrhau bod trwyddedau rhywogaethau yn cael eu cofnodi a phrosesu yn cael eu cwblhau o fewn terfynau amser deddfwriaethol.
  • Cefnogi ymgeiswyr gyda chyngor cyn ymgeisio ar gyfer gwahanol safleoedd a rhywogaethau.
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer newidiadau i'r broses a'r canllawiau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth trwyddedu effeithlon ac effeithiol, a chynorthwyo i gydlynu'r newid yn ôl yr angen.
  • Ymgymryd â gweithgareddau trwyddedu syml gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, brosesu ceisiadau newid gweinyddol, trosglwyddo a thynnu ceisiadau yn ôl.
  • Datblygu a chynnal perthynas effeithiol â chwsmeriaid er mwyn sicrhau dealltwriaeth dda a chyflawni'r broses drwyddedu yn effeithlon.
  • Sicrhau bod yr holl ddogfennaeth berthnasol yn cael ei storio'n briodol o fewn systemau rheoli dogfennau'r sefydliad.

Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Y gallu i weithio mewn tîm, y gallu i sefydlu a chynnal rhwydweithiau, a'r gallu i gyfathrebu'n glir, yn hyderus ac yn ddarbwyllol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  2. Sgiliau trefnu a gweinyddu rhagorol a'r gallu i gyrraedd targedau a gweithio i derfynau amser.
  3. Y gallu i ddefnyddio prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, e-bost, mewnrwyd CNC a rhyngrwyd mewn amgylchedd Windows.
  4. Dull cyflwyno cryf sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
  5. Gwybodaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth y DU ac Ewrop sy'n ymwneud â rhywogaethau gwarchodedig ac ecoleg rhywogaethau (dymunol).

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad, gwybodaeth a sgiliau o weithio mewn sefydliadau yn y gorffennol, gydag amgyffrediad a dealltwriaeth dda o ystod o egwyddorion, gweithdrefnau a pholisïau gweinyddol a sefydliadol.
  • Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau rhifedd, llythrennedd, TG a chyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd lefel uchel o wybodaeth am CNC. Bydd ganddynt ychydig o wybodaeth dechnegol benodol am y gwaith, wedi'i datblygu mewn amgylcheddau blaenorol, a fydd yn cael ei gwella a'i datblygu trwy'r rôl.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth ardderchog am systemau busnes sy'n cefnogi ei faes, megis cronfeydd data cenedlaethol.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Bydd deiliad y swydd yn ymdrin â dogfennau, negeseuon e-bost, gohebiaeth, amserlenni, recordio digwyddiadau ac ati o ddydd i ddydd gan geisio neu roi gwybodaeth. Cesglir gwybodaeth nad yw'n gymhleth o nifer o ffynonellau, heb yr angen am unrhyw ymchwil fanwl.
  • Gall deiliad y swydd ddefnyddio systemau busnes a chronfeydd data cenedlaethol, a gall ddefnyddio a thrin systemau o'r fath er mwyn darparu gwybodaeth y bydd eraill yn ei defnyddio.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Bydd deiliaid y swyddi yn gwneud penderfyniadau o opsiynau amgen sefydledig neu drwy wybodaeth flaenorol, canlyniadau a datrysiadau hysbys.
  • Bydd deiliaid y swyddi yn gallu gweithio'n annibynnol a threfnu a chyflawni eu cynlluniau gwaith eu hunain yn unol â pharamedrau ac arweiniad y cytunwyd arnynt, wrth lynu at bolisïau a gweithdrefnau.
  • Bydd deiliad y swydd yn cael ei arwain gan amcanion sydd wedi'u diffinio'n glir. Bydd y gwaith yn dilyn yr un drefn arferol, gyda gofyn am rywfaint o fenter.

Effaith

  • Bydd effaith gwaith deiliad y swydd yn ei faes gwaith ei hun neu ei dîm neu swyddogaeth uniongyrchol. Bydd ei fewnbwn ac effeithiolrwydd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni gweithgareddau eraill.
  • Bydd effaith penderfyniadau neu weithgareddau yn gymedrol, ond gall rhai agweddau ar y gwaith, os cânt eu gwneud yn anghywir, effeithio ar drydydd partïon neu'r maes ehangach. Byddai'r effaith yn dod i'r amlwg ar unwaith a gellid cywiro a mynd i'r afael â'r peth yn gyflym heb unrhyw faterion tymor hwy.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu da gyda'r gallu i addasu arddull a chynnwys. Bydd cydberthnasau â phartïon mewnol ac allanol.
  • Bydd cyfathrebu'n cynnwys rhoi a rhannu gwybodaeth, gan ymdrin ag ymholiadau safonol sy'n ymwneud â'r gwaith.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Iwan G Hughes ar iwan.g.hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  neu 03000654814

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf