Uwch Swyddog Cadwraeth
Dyddiad Cau: 13 Chwefror 2023 | Cyflog: £25,208-£27,571 sydd yn pro rata i cyflog llawn amser o £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Llandarcy
Math o Gontract: Cyfnod Penodol hyd at 22 Ionawr 2024
Patrwm Gwaith: Rhan Amser, 25 awr yr wythnos
Rhif Swydd: 202567
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae hon yn swydd Uwch Swyddog o fewn Tîm yr Amgylchedd sy'n gwasanaethu Abertawe. Mae ein ‘ardal’ yn amrywiol a diddorol gan gynnwys dinas ddeinamig, dyfroedd ymdrochi niferus, tirwedd warchodedig o safon fyd-eang, llu o ddynodiadau cadwraeth, aber o bwys rhyngwladol, arfordir agored, a llawer o gyrff dŵr heriol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Mae rôl yr Uwch Swyddog yn eithaf amrywiol yn dibynnu ar y cyd-destun lleol, yr amgylchedd, a chydbwysedd sgiliau o fewn y tîm. Yn yr achos hwn rydym yn chwilio am swyddog cadwraeth profiadol a all arwain ein gwaith cadwraeth a safleoedd gwarchodedig tra'n gallu gwasanaethu fel mentor technegol ar faterion cadwraeth o fewn y tîm a phâr diogel o ddwylo wrth ymdrin â materion cynhennus, ymholiadau a cwynion.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn trafodaethau gyda sefydliadau partner.
- Gweithredu fel mentor technegol a chynghorydd i aelodau'r tîm.
- Cynorthwyo arweinydd y tîm yn agos wrth gynllunio a chyflenwi’r rhaglen gydymffurfio a gwaith gorfodi.
- Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Lle nodir diffyg cydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith.
- Cydlynu datblygiad technegol aelodau o'r tîm.
- Chwarae rôl allweddol o ran nodi cyfleoedd ar gyfer cytundebau rheoli a phrosiectau partneriaeth newydd i gyflenwi blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lle.
- Chwarae rôl uwch wrth gefnogi Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau cadarn a chymwys o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n dilyn prosesau Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau (dymunol).
- Dealltwriaeth gyffredinol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gyda phrofiad wedi'i ganolbwyntio ar faes penodol o gylch gwaith tîm yr amgylchedd.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid a'r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddiol a gorfodi.
- Trwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd Cyfoeth Naturiol Cymru (ceir a faniau).
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml
Dymunol Lefel 3 – gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 12 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 23 Chwefror drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Hamish Osborn ar hamish.osborn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.