Cydlynydd Rheoli Cyfleusterau

Dyddiad cau: 7 Mawrth 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Bwcle neu Y Trallwng

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 1 Chwefror 2024

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 201959

Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae tîm gweithredol Cyfleusterau yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd adeiledig diogel ac iach i staff CNC ac i gontractwyr, gan ganiatáu iddynt gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac fel y gall ein cwsmeriaid fwynhau eu profiad fel ymwelwyr.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r tîm wrth i ni gynnal y cylch gwaith uchod a hefyd rhoi newidiadau ar waith i wella ein hadeiladau fel eu bod yn addas ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol a lleihau ôl troed carbon CNC, gan wneud ein rhan i ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd.

Mae hwn yn gyfle i weithio fel rhan o dîm mawr, gwasgaredig ledled Gogledd Cymru, gan gefnogi swyddogaeth Rheoli Cyfleusterau. Gan adrodd i’r Arweinydd Tîm, byddwch yn goruchwylio'r gwaith o reoli swyddfeydd a depos o ddydd i ddydd ar draws yr ystâd adeiledig. Bydd hyn yn cynnwys cydgysylltu gwaith cynnal a chadw ataliol a gwaith adferol a gynlluniwyd, cysylltu â rheolwyr contractau, a rheoli contractwyr. Drwy gynllunio gwaith yn effeithiol byddwch yn cydlynu llwyth gwaith y Cynorthwywyr a’r Swyddogion Cyfleusterau yn eich ardal. Drwy weithio ar y cyd â’r Goruchwyliwr Rheoli Cyfleusterau bydd gofyn i chi greu a datblygu cynlluniau gwaith cadarn i sicrhau bod rhwymedigaethau cydymffurfio cyfreithiol statudol CNC yn cael eu bodloni.

Bydd eich brwdfrydedd wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'n staff a'n rhanddeiliaid yn rhan annatod o hyn. Mae hon yn rôl ymarferol, sy'n golygu gweithio mewn amgylchedd prysur a deinamig. Byddwch yn cysylltu â staff ac yn cynnal sesiynau ymgynghori i benderfynu sut y gallwn greu amgylchedd gwell a mwy cynhyrchiol i'n staff.

Mae gan CNC achrediad ISO14001 amgylcheddol ac ISO45001 rheoli Iechyd a Diogelwch ac mae llawer o’n tasgau yn cefnogi’r rhain yn uniongyrchol a gall y byddant yn cael eu harchwilio’n fanwl.

Rydym yn chwilio am berson cyfrifol, hyblyg a phragmatig, sy'n gallu blaenoriaethu, cynllunio a chyflwyno gwaith i'r safon uchaf. Rydym hefyd yn disgwyl safonau uchel o ragoriaeth wrth ymdrin â’n cwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol.

Darperir hyfforddiant a cheir cyfleoedd i wneud prentisiaeth IWFM ac ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa o fewn y swyddogaeth Rheoli Cyfleusterau a’r Fflyd.

Trwydded Yrru yn fanteisiol

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach ar gyfer staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rheng flaen ardderchog a magu diwylliant o wella parhaus ym maes cyflenwi gwasanaethau.
  • Cymryd y cyfrifoldeb goruchwylio dros Aelodau Tîm 3 yn y Tîm Cyfleusterau o fewn eich canolfan, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei flaenoriaethu, bod gofynion cyllideb yn cael eu bodloni, a bod gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog yn cael ei gynnal.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Cymhwyster Lefel 4 mewn Rheoli Cyfleusterau neu debyg.
  2. Gwybodaeth ardderchog am waith rheoli iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
  3. Cymhwyster NEBOSH, IOSH neu iechyd a diogelwch tebyg neu’n gweithio tuag at gymhwyster o’r fath.
  4. Profiad o gyflawni gwasanaethau Cyfleusterau caled a meddal o fewn amgylchedd adeiledig, gan gynnwys:
  5. Profiad o gydlynu gwaith o fewn amgylchedd cyfleusterau, gan gynnwys:
  6. Dealltwriaeth dda o ddefnyddio system gyllid a meddalwedd / cymwysiadau eraill i fodloni gofynion eich maes cyfrifoldeb.
  7. Sgiliau trefnu da.
  8. Sgiliau da ar lafar ac yn ysgrifenedig a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus, ynghyd â sgiliau gofal cwsmer rhagorol.
  9. Sgiliau rhyngbersonol da gyda'r gallu i weithio o dan bwysau gan weithredu ar eich pen eich hun i gwrdd â therfynau amser tynn.
  10. Sgiliau TG da a sgiliau mewnbynnu data yn gywir.
  11. Byddai profiad o weithredu newidiadau neu wella prosesau hefyd o fantais.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 - Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml 

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a sgiliau meddal eraill rhagorol, a ddatblygwyd drwy brofiad gwaith blaenorol a all fod ar draws amryw o swyddi a sefydliadau.
  • Mae gwybodaeth dda am systemau busnes hefyd yn hanfodol, gyda sgiliau TG, rhifedd, llythrennedd a threfnu da.
  • Datblygu a dangos dealltwriaeth dda o waith CNC.
  • Dangos dawn am ddysgu a datblygu parhaus.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Creu amryw o ddogfennau busnes a allai gynnwys casglu gwybodaeth o amryw o ffynonellau a gallu dehongli a dadansoddi gwybodaeth.  Efallai y bydd angen rhywfaint o feddwl yn wreiddiol yn rhai agweddau ar y swydd.
  • Rheoli contractau, gan olygu ei bod yn ofynnol i ddeiliad y swydd allu deall ac amgyffred gofynion contractau yn llwyr.
  • Gwybodaeth ragorol am brosesau busnes a'r gallu i goladu gwybodaeth.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Yn gyffredinol, caiff y gwaith ei lywio gan ganlyniadau disgwyliedig ond efallai y bydd deiliad y swydd yn gallu penderfynu ar y ffordd orau o gyflawni'r rhain, o fewn paramedrau diffiniedig.
  • Gall eraill ddarparu canllawiau ond mae'n debygol y bydd angen rhywfaint o farn neu greadigrwydd.
  • Datrys problemau'n uniongyrchol a gwneud penderfyniadau ar sut i ddelio â’r rhain.  Gall yr ystod o atebion amrywio, gan ofyn am rywfaint o waith ymchwilio a dadansoddi cyn dod i gasgliad, er mai cyfyngedig fydd yr ystod o opsiynau fel arfer.
  • Gallu ymaddasu ac yn hyblyg, gan allu rheoli llif gwaith a dangos lefel uchel o hunan-drefnu.

Effaith

  • Effaith gymedrol ar y busnes, gan gael effaith yn y tymor byr i ganolig, o bosibl. Bydd canlyniadau cymryd camau/gwneud penderfyniadau a allai fod yn anghywir yn gymedrol i fawr, ac mae’n debygol y bydd angen mynd i’r afael â’r rhain er mwyn osgoi effaith tymor hwy.
  • Yn gyfrifol ac yn atebol am y gwaith y mae’n ei wneud ac yn ei gyflawni, er y byddai unigolyn uwch yn atebol yn y pen draw am reoli'r effaith dros gyfnod hwy.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Cyfathrebu ar draws amryw o swyddogaethau o fewn CNC, yn ogystal â chyda phartïon allanol.
  • Mae’n debygol y bydd cydberthnasau’n barhaus o ran eu natur, a gallant gynnwys rhywfaint o ddylanwadu. Fel arfer, bydd y cyfathrebu’n cynnwys rhyw lefel o gyngor ac arweiniad i eraill.

Cyfrifoldeb dros bobl

  • Dim cyfrifoldeb rheoli llinell ffurfiol ond gall oruchwylio neu reoli llifau gwaith a chydlynu gwaith pobl eraill.

Cyfrifoldeb dros adnoddau

  • Yn gyfrifol am weithredu’n ddiogel y cyfarpar a’r data y mae’n eu defnyddio er mwyn cyflawni gofynion ei swydd.
  • Mae’n annhebyg y bydd yn ddeiliad cyllideb ond gall fod yn rhan o'r gwaith o brosesu neu wirio gwybodaeth ariannol.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 7 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Hayley Evans ar Hayley.Evans@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf