Cymorth Technegol, Prosiect Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Dyddiad cau: 1 Mawrth 2023 | Cyflog: £28,403-£32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Hyblyg

Math o Gontract: Parhaol 

Patrwm Gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif Swydd: 201356

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Cefnogi’r tîm Adnoddau Naturiol a Llesiant i ddarparu cymorth arbenigol ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau), y Datganiad Ardal Cenedlaethol ac ar wreiddio Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) i dimau mewnol o fewn CNC, i’n partneriaid BGCau ac i gwsmeriaid eraill CNC gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cefnogi a chydweithio ag eraill i ddatblygu asesiadau technegol effeithlon a chyson gan ddefnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth a data.
  • Cefnogi’r gwaith o baratoi deunydd i lywio dogfennau polisi a chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru, a chynghori Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru.
  • Helpu i ddarparu gwybodaeth gywir a rheolaidd ar gynnydd i reolwyr, i addasu a sicrhau y caiff gwaith ei gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
  • Prosesu ymholiadau sy'n ymwneud â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, y Datganiadau Ardal Cenedlaethol a Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy gan dimau mewnol, Llywodraeth Cymru a chwsmeriaid, a chymryd cyngor gan staff gweithredol a rheoleiddio i sicrhau datrysiadau.
  • Darparu cymorth ysgrifenyddiaeth i grwpiau llywodraethu perthnasol neu gyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru a sectorau.
  • Darparu cymorth gyda thasgau gweinyddol technegol, megis monitro cyllideb a sefydlu logiau risg a phroblemau.
  • Cefnogi cydweithwyr wrth ymgysylltu â sefydliadau partner a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd drwy'r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi Cynllun datblygu personol Sgwrs cytunedig.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Deddf yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy; Ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a’r DU ar gyfer Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, Datganiadau Ardal, amcanion Llesiant a chynlluniau a baratowyd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad o: ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol a dadansoddi setiau data mawr.
  3. Profiad o wneud penderfyniadau gan ddefnyddio meddalwedd dechnegol a rhaglenni modelu.
  4. Gweithio gyda/o fewn Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, Parciau Cenedlaethol.
  5. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad o reoli prosiectau a chymwysterau yn y maes hwn.
  6. Profiad o: gymorth gweinyddol a thechnegol i reolwyr a thimau, gan gynnwys monitro cyllidebau a rheoli risgiau a phroblemau.
  7. Sgiliau gweinyddol a threfnu ardderchog a’r gallu i gyrraedd targedau a chyflawni terfynau amser.
  8. Dyhead i ddod yn aelod proffesiynol o sefydliad perthnasol.
  9. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob Pennaeth Busnes yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Y gallu i ymgymryd ag ystod o dasgau ymarferol neu dechnegol sy’n gofyn am rywfaint o wybodaeth arbenigol.  Bydd deiliaid y swyddi wedi ennill profiad mewn amgylcheddau gwahanol, a all fod yn CNC neu mewn sefydliadau partner. Bydd gan ddeiliad y swydd y gallu i ddatblygu ei wybodaeth ddamcaniaethol a thechnegol sylfaenol yn barhaus.
  • Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor i eraill mewn perthynas â'i faes arbenigedd. Bydd yn cadw'n gyfredol gyda'r amgylchedd gweithredu allanol gan gynnwys o ran sut y gallai effeithio ar waith CNC.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth dechnegol arbenigol technegol, a bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, llythrennedd a TG ynghyd â sgiliau trefnu a chynllunio da.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli a deall amrediad o wybodaeth, gan gynnwys data technegol, gan dynnu pwyntiau ac egwyddorion allweddol a fydd yn sylfaen i’r blociau adeiladu ar gyfer datblygu polisi, strategaeth a chynlluniau mewnol.
  • Y gallu i lunio dogfennau â chynnwys technegol/arbenigol a all ofyn am rywfaint o feddwl gwreiddiol, creadigrwydd a dealltwriaeth.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Yn gyffredinol, caiff gwaith ei lywio gan ganlyniadau a ddisgwylir, ond efallai bydd deiliad y swydd yn gallu penderfynu ar y ffordd orau o’u cyflawni, o fewn paramedrau diffiniedig.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau a allai fod yn gymhleth i ryw raddau, er y bydd yr amrediad o opsiynau yn gyfyngedig fel arfer. Bydd y gwaith yn cynnwys tasgau safonol ac ansafonol.
  • Caiff deiliaid y swyddi rywfaint o ddylanwad yn sgil y penderfyniadau y maent yn eu gwneud, a chânt effaith sy’n ehangach na'u swyddogaeth neu dîm uniongyrchol.
  • Er y bydd rhywfaint o ymreolaeth ac angen i farnu, bydd amcanion yn cael eu gosod gan eraill fel arfer.

Effaith

  • Bydd gwaith deiliad y swydd yn ymestyn y tu hwnt i'r tîm uniongyrchol a bydd yn llywio gwaith pobl eraill ac yn dylanwadu arno.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Cynhelir cydberthnasau a chyfathrebir ag amrywiaeth o bobl a swyddogaethau, a bydd hyn yn digwydd yn fewnol ac yn allanol.
  • Bydd deiliad y swydd â’r gallu i gyfathrebu materion eglur sy'n ymwneud â pholisi, strategaeth a chynlluniau, a all gwmpasu arwain rhaglenni gwaith,  a darparu cymorth ac arweiniad technegol i'r tîm.
  • Bydd deiliad y swydd yn meddu ar y gallu i lunio dogfennau ysgrifenedig mewn perthynas â pholisi a strategaeth a fydd yn gofyn am sgiliau ysgrifennu da. Bydd ganddo'r gallu i ymgymryd â gwaith ymchwil, crynhoi gwybodaeth a’i throsi’n gyngor polisi ystyrlon.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 1 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Fen Turner ar fen.turner@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu Helga Dixon ar helga.dixon@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf