Cynghorydd Dŵr Cynaliadwy

Dyddiad Cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos neu Rhan Amser

Rhif swydd: 201329

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae ansawdd dŵr o ddiddordeb sylweddol i randdeiliaid ar hyn o bryd. Mae'r tîm Cynllunio Dŵr integredig yn cymryd golwg gyfannol ar reolaeth yr amgylchedd dŵr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â gweithgareddau amrywiol ynghyd ar draws y Grŵp Dŵr Cynaliadwy a hefyd yn darparu ffocws ar gyfer cyfathrebu mewnol ac allanol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu deunydd cyfathrebu, trefnu gwasanaethau cyfieithu a gwefannau, cefnogi grwpiau llywodraethu, a datblygu meysydd gwaith eraill yn ôl yr angen. Mae cefndir mewn rheoli dŵr yn well a sgiliau dadansoddi tystiolaeth da yn bwysig. Mae'r swydd yn cynnwys gweithio ar draws amrywiaeth o staff ar draws CNC sy'n gofyn am gyfathrebu da.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu asesiadau technegol, gan ddefnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth a data.
  • Helpu i baratoi deunydd i lywio dogfennau Polisi a Chanllawiau CNC, a chyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru.
  • Helpu i ddarparu gwybodaeth gywir a rheolaidd ar gynnydd i reolwyr, i addasu a sicrhau y caiff gwaith ei gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
  • Prosesu ymholiadau yn ymwneud â Chynllunio Dŵr Integredig gan dimoedd mewnol, Llywodraeth Cymru a chwsmeriaid, a chymryd cyngor gan staff gweithredol a rheoliadol er mwyn sicrhau datrysiad.
  • Darparu cymorth ysgrifenyddiaeth i grwpiau llywodraethu perthnasol neu gyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru a sectorau.
  • Cynorthwyo ymgysylltiad gyda sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, SEPA a NIEA ac unrhyw gyrff Amgylcheddol eraill yn y DU; a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen a gomisiynwyd drwy’r Byrddau Busnes i baratoi cynhyrchion pendant yn ôl yr angen.
  • Cydweithio gydag Arweinydd y Tîm i ddatblygu a chyflenwi Cynllun Datblygu Personol cytunedig.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE yn ymwneud â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr; yr hyn sy’n arwain polisi Llywodraeth Cymru a’r DU yn ymwneud â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad o’r canlynol: dadansoddi a dehongli amrediad o wybodaeth a data amgylcheddol mewn modd technegol, a dadansoddi setiau data mawr.
  3. Gweithio gyda/mewn cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, a Pharciau Cenedlaethol.
  4. Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad a/neu gymwysterau Rheoli Prosiect.
  5. Gweithio tuag at aelodaeth broffesiynol neu uchelgais i fod yn aelod proffesiynol o sefydliad perthnasol.
  6. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob Pennaeth Busnes yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.

Gofion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Y gallu i ymgymryd ag ystod o dasgau ymarferol neu dechnegol sy’n gofyn am rywfaint o wybodaeth arbenigol.  Bydd deiliaid y swyddi wedi ennill profiad mewn amgylcheddau gwahanol, a all fod yn CNC neu mewn sefydliadau partner. Bydd gan ddeiliad y swydd y gallu i ddatblygu ei wybodaeth ddamcaniaethol a thechnegol sylfaenol yn barhaus.
  • Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor i eraill mewn perthynas â'i faes arbenigedd. Bydd yn cadw'n gyfredol gyda'r amgylchedd gweithredu allanol gan gynnwys o ran sut y gallai effeithio ar waith CNC.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth dechnegol arbenigol technegol, a bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, llythrennedd a TG ynghyd â sgiliau trefnu a chynllunio da.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli a deall amrediad o wybodaeth, gan gynnwys data technegol, gan dynnu pwyntiau ac egwyddorion allweddol a fydd yn sylfaen i’r blociau adeiladu ar gyfer datblygu polisi, strategaeth a chynlluniau mewnol.
  • Y gallu i lunio dogfennau â chynnwys technegol/arbenigol a all ofyn am rywfaint o feddwl gwreiddiol, creadigrwydd a dealltwriaeth.

Effaith

  • Bydd gwaith deiliad y swydd yn ymestyn y tu hwnt i'r tîm uniongyrchol a bydd yn llywio gwaith pobl eraill ac yn dylanwadu arno.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Cynhelir cydberthnasau a chyfathrebir ag amrywiaeth o bobl a swyddogaethau, a bydd hyn yn digwydd yn fewnol ac yn allanol.
  • Bydd deiliad y swydd â’r gallu i gyfathrebu materion eglur sy'n ymwneud â pholisi, strategaeth a chynlluniau, a all gwmpasu arwain rhaglenni gwaith,  a darparu cymorth ac arweiniad technegol i'r tîm.
  • Bydd deiliad y swydd yn meddu ar y gallu i lunio dogfennau ysgrifenedig mewn perthynas â pholisi a strategaeth a fydd yn gofyn am sgiliau ysgrifennu da. Bydd ganddo'r gallu i ymgymryd â gwaith ymchwil, crynhoi gwybodaeth a’i throsi’n gyngor polisi ystyrlon.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 19 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Mark Charlesworth ar Mark.Charlesworth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 0300 065 3878

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf