Peiriannydd Perfformiad Asedau x2

Dyddiad cau: 21 Chwefror 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Cross Hands

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhifau y swyddi: 200844, 202748

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm sy’n datblygu a chyflawni cynlluniau rheoli asedau perygl llifogydd dros y tymor hir. Mae'r cynlluniau hyn yn helpu i nodi'r angen a'r cyfleoedd am asedau newydd ac yn sicrhau bod asedau perygl llifogydd critigol presennol yn cael eu rheoli'n briodol yn awr ac yn y dyfodol. Mae asedau perygl llifogydd yn cynnwys amddiffynfeydd arfordirol a llanwol a muriau llifogydd ac argloddiau ar lannau afonydd, yn ogystal â fflodiardau, llifddorau a gorsafoedd pwmpio.

Rydym yn chwilio am unigolion â chymwysterau addas i gasglu a dadansoddi data asedau a gwybodaeth perygl llifogydd er mwyn cynhyrchu nodiadau briffio, achosion busnes, adroddiadau a chontractau i lywio camau gweithredu a phrosiectau a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd i gymunedau ledled De Cymru.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol wedi ennill profiad perthnasol mewn nifer o rolau a/neu sefydliadau ac wedi datblygu dealltwriaeth dda o natur dechnegol y swyddogaeth yn ogystal â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol.

Bydd y swydd wedi'i lleoli yn y swyddfa yn bennaf ond gall olygu teithio rhwng lleoliadau gwahanol CNC, yn ogystal â gweithio mewn sefydliadau partner ac adeiladau eraill. Hefyd, bydd gofyn i chi weithio allan yn y maes, gan weithio mewn gwahanol safleoedd a lleoliadau, a bydd gofyn i chi fynd ag offer perthnasol gyda chi ar gyfer hyn.

Mae CNC yn ymatebwr Categori 1 o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae hyn yn golygu efallai y bydd gofyn i'r holl staff ymgymryd â gweithgareddau, ar lefel sy’n gymesur â'r sgiliau a'r profiad sy’n ofynnol yn eu rôl, i gynorthwyo wrth sicrhau bod y ddyletswydd hon yn cael ei chyflawni.

Mae'r rôl hon yn addas ar gyfer unigolyn technegol sydd ag angerdd am weithio gyda'r amgylchedd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn Ne Cymru.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Rheoli'r System Rheoli Asedau Cenedlaethol (AMX) a data cysylltiedig, gan gynnwys casglu data arolygon.
  • Dadansoddi gwybodaeth am asedau a data perygl llifogydd er mwyn pennu'r angen i reoli asedau perygl llifogydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
  • Cefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth yn weithredol a sicrhau’r ddarpariaeth o arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cynorthwyo'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun Tymor Canolig.
  • Cynnal astudiaethau cyn-ddichonoldeb o Gynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd a Chynlluniau Rheoli Traethlin.
  • Cynnal asesiadau peirianneg.
  • Rheoli prosiectau cyllid a chyfalaf o werth bach/canolig (hyd at £100,000).
  • Dylunio, cost a budd, blaenoriaeth risg, cwmpasau prosiectau, gwerthuso tendrau, ac adrodd ar gyfer prosiectau. Gweithredu fel uwch-ddefnyddiwr hefyd.
  • Monitro cydymffurfiad â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975.
  • Goruchwylio ymgynghorwyr a chontractwyr ar fframweithiau.
  • Bod yn gynrychiolydd fel partner proffesiynol ar grwpiau llifogydd, grwpiau arfordirol a digwyddiadau cymunedol.
  • Cynorthwyo awdurdodau rheoli risg, cymunedau a rhanddeiliaid eraill a rhoi cyngor iddynt.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Addysg hyd at lefel gradd mewn peirianneg sifil neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol.
  2. Gwybodaeth dda am TGCh, gan gynnwys Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a Chynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) (e.e. ARCGIS, AutoCAD). Byddai gwybodaeth dda am gronfeydd data AMX yn fanteisiol.
  3. Ymwybyddiaeth dda o iechyd a diogelwch a rheoliadau perthnasol, e.e. Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015.
  4. Gwybodaeth am ddylunio ym maes peirianneg sifil ac arferion contractau adeiladu.
  5. Aelod o gorff proffesiynol perthnasol fel ICE/CIWEM neu fodlonrwydd i weithio tuag at aelodaeth ohono.
  6. Byddai profiad o reoli prosiectau a PRINCE 2 yn ddymunol.
  7. Mae angen trwydded yrru lawn y DU.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Dymunol Lefel 3 – gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Arbenigedd amlwg mewn maes neu swyddogaeth ddiffiniedig, sy'n galluogi deiliad y swydd i ddarparu cyngor ac arweiniad i eraill.
  • Yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o waith y swyddogaeth ehangach.
  • Sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau datblygedig wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
  • Mae profiad o oruchwylio eraill yn ddymunol.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Yn dangos y gallu i ddeall gwybodaeth, llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a dehongli a chymhwyso'r gofynion i gyflawni ei rôl.
  • Y gallu i ddadansoddi a phrosesu gwybodaeth dechnegol anarferol sy'n cynnwys rhywfaint o gymhlethdod.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, sy'n gofyn am rywfaint o farn a chreadigrwydd a'r angen i newid blaenoriaethau lle mae gofynion sy'n gwrthdaro.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau o natur dechnegol, yn bennaf o gwmpas ei faes gwaith ei hun ond bydd hefyd yn gorgyffwrdd â gwaith eraill.
  • Gall problemau a phenderfyniadau gynnwys rhywfaint o gymhlethdod a gofyn am yr angen i gymhwyso gwahanol dechnegau neu ddulliau.
  • Y gallu i gynnal ymchwil i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys problemau. 
  • Y gallu i ddarparu arweiniad i aelodau llai profiadol er mwyn datrys problemau.

Effaith

  • Mae'r gwaith a wneir yn gyffredinol o fewn ardal arwahanol felly bydd yn effeithio'n bennaf ar yr amgylchedd uniongyrchol, ond gall hefyd ymestyn ar draws meysydd pwnc a gwaith eraill.
  • Efallai y bydd gan agweddau o'r gwaith y potensial, os cânt eu gwneud yn anghywir, i effeithio ar drydydd partïon ac ardal ehangach.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Yn dangos y gallu i ryngweithio a chyfathrebu â phobl o amgylch ei faes arbenigedd, ar draws ystod o swyddogaethau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon allanol, gan addasu ei ddull a'i arddull yn briodol.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu sefydledig gyda'r gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da, a allai gynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 21 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Gareth Richards ar Gareth.richards@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf