Aelod Tîm Gweithlu Integredig

Dyddiad cau: 26 Chwefror 2023 | Cyflog: £25,326 - £28,077 (Gradd 3) | Lleoliad: Y Trallwng

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: 37 awr, pythefnos 9 diwrnod

Rhif swydd: 200504

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Byddwch yn rhan o’r Gweithlu Integredig, Canolbarth Cymru, sydd â chyfrifoldeb am gyflawni gwaith uniongyrchol ar asedau amddiffyn rhag llifogydd, mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac yn Ystad Coetir Llywodraeth Cymru.

Byddwch yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw ac yn cyflwyno rhaglen waith cyfalaf ar gyfer asedau CNC a fydd yn cynnwys asedau perygl llifogydd a Thir a reolir gan CNC. Byddwch yn darparu ymateb brys priodol a fydd yn ofynnol i fod yn rhan o rota wrth gefn a darparu gwasanaeth y tu allan i oriau arferol a'r gallu i weithredu offer megis offer llaw a all gynnwys llifiau cadwyn a thorwyr brwsh. Bydd gennych y gallu i weithredu fel bancwr a slinger/signalwr a deall cynlluniau technegol a chyfleustodau, gan weithredu yn unol â'r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu.

Rhaid bod gennych drwydded yrru lawn y DU.

Bydd gofyn i chi weithredu peiriannau a all gynnwys HGV’s, peiriannau ac offer trwm ac arbenigol o werth uchel a bydd gennych y drwydded briodol i wneud hynny. (CPCS, LANTRA neu gymhwyster cydnabyddedig cyfatebol)

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Efallai y byddwch yn gweithredu peirianwaith, a fydd o bosibl yn cynnwys cerbydau nwyddau trwm ac offer a chyfarpar arbenigol a thrwm o werth uchel.
  • Bydd yn ofynnol i chi gyflwyno'r holl waith yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau lles, iechyd a diogelwch Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Bydd gennych y gallu i weithio o luniadau technegol manwl a chynlluniau cyfleustodau gan ddarparwyr gwasanaeth.
  • Byddwch yn cynghori'r uwch-oruchwyliwr a'r goruchwyliwr ar yr offer a chyfarpar mwyaf addas ar gyfer darparu gwaith, gan gynnwys ymateb mewn argyfwng a'r tu allan i oriau.
  • Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod arferion gwaith diogel yn cael eu dilyn wrth ddefnyddio cyfarpar, peiriannau ac offer ac yn gyfrifol am oruchwylio aelodau o’r tîm ar y safle wrth iddyn nhw ddefnyddio cyfarpar ac offer o’r fath.
  • Bydd yn ofynnol i chi sicrhau bod cyfarpar ac offer sydd o dan eich cyfrifoldeb chi yn cael eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â'r holl reoliadau perthnasol, er enghraifft trwydded ‘O’, Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 (LOLER), a Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998 (PUWER).
  • Bydd yn ofynnol i chi gyfathrebu'n effeithiol â thrydydd partïon, a fydd yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd a thirfeddianwyr.
  • Mae'n bosibl y bydd angen i chi weithredu rhaglen rheoli cynefinoedd a gynlluniwyd ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, gan gynnwys cynnal a gwirio seilwaith Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
  • Byddwch yn rhan o dîm ymateb i argyfyngau y bydd gofyn iddo ddefnyddio cyfarpar, peiriannau ac offer wrth ymateb i ddigwyddiadau llifogydd i alluogi gweithrediad effeithiol asedau perygl llifogydd.
  • Fel uwch-aelod o'r tîm, byddwch yn aml yn arwain ar y safle ac yn mentora aelodau o'r tîm sy'n llai profiadol neu gontractwyr.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Sawl blwyddyn o brofiad gweithredol perthnasol.
  2. Diploma NVQ Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu gyfwerth.
  3. Un neu fwy o'r canlynol (i gynnwys tystiolaeth fel llyfr log, llyfr gwaith wedi'i gwblhau, cynlluniau arbenigol ac ati).
  4. Gweithiwr llif gadwyn ganolradd, gan gynnwys coed lluosog wedi'u chwythu i lawr (dylid cynnwys CS34 ac ati).
  5. Gweithrediadau winsio.
  6. Gweithredwr cyfarpar a pheiriannau arbenigol trwm. CPCS neu drwydded gydnabyddedig arall.
  7. Gwybodaeth a dealltwriaeth ym maes rheoli cadwraeth.
  8. Profiad sylweddol o reoli digwyddiadau: Llifogydd/tanau diwydiannol/arllwysiadau olew/rheoli silt ac ati
  9. Sgiliau TGCh canolradd E.e. AMX.
  10. Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B+E (tynnu trelars).
  11. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Profiad ymarferol blaenorol amlwg mewn disgyblaeth dechnegol ddiffiniedig ar lefel sy'n galluogi deiliad y swydd i ddarparu arweiniad a goruchwyliaeth i eraill.
  • Sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu da, gyda dealltwriaeth o'r gofynion a'r goblygiadau iechyd a diogelwch mewn perthynas â'r gwaith. 
  • Dangos y wybodaeth a'r sgiliau i reoli materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd.
  • Tebygol o fod â sgiliau Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, ynghyd â sgiliau defnyddio cronfeydd data a phecynnau MS Office.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddeall a dehongli llawlyfrau gweithdrefnau a chodau statudol.
  • Y gallu i ddeall cyfrifoldebau mewn dogfennaeth gontractiol.
  • Y gallu i ddogfennu gweithgareddau gwaith, cynhyrchu gohebiaeth sylfaenol ac ysgrifennu adroddiadau.
  • Deall gofynion iechyd a diogelwch ac yn gallu rheoli risg mewn perthynas â'i weithgaredd gwaith.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ddarparu arweiniad i unigolion iau neu lai profiadol.
  • Bydd deiliad y swydd hefyd yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd, perchnogion tir a/neu drydydd partïon eraill a all gynnwys sgyrsiau ynghylch gofynion cytundebol neu ddigwyddiadau amgylcheddol a chyswllt cyffredinol ynghylch gweithgareddau gwaith.
  • Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn cynnwys cwblhau dogfennaeth sylfaenol a chadw cofnodion y gallai fod angen i eraill eu hadolygu a'u llofnodi.

Cyfrifoldeb dros Bobl

  • Y gallu i ddarparu help neu arweiniad i weithwyr newydd neu dros dro, a chymryd cyfrifoldeb dros ei hun a'r rhai y gallai ei waith effeithio arnynt. 

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Cyfrifol am yr offer a'r cyfarpar a ddefnyddir i gyflawni ei rôl, a all gynnwys cerbydau a/neu beiriannau mawr. 
  • Bydd angen cymryd cyfrifoldeb personol dros ddefnyddio offer yn ddiogel ac yn gyfreithiol yn y maes, a allai fod o werth uchel.

Manteision gweithio i ni

  • Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 26 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cadarnhau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Keith Jenkins ar Keith.Jenkins@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf