Swyddog Gweithrediadau Coedwig x2
Dyddiad Cau: 12 Mawrth 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg (yn ardal Gogledd y Canolbarth)
Math o Gontract: Parhaol
Patrwm Gwaith: Llawn amser, 37 awr y wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener
Rhif Swydd: 200462, 203462
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Bydd deiliad y swydd yn rhan o Dîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd y Canolbarth. Mae Gogledd y Canolbarth yn cynnwys cymysgedd amrywiol o goedwigoedd ar yr ucheldir a’r iseldir, gan gynnwys Dyfi, Machynlleth, Cwm Einion, Nant y Moch, Nant yr Arian, Hafren, Dyfnant, Maesyfed a Cheri.
Mae’r Tîm Gweithrediadau Coedwig yn gyfrifol am gynllunio a chyflawni rhaglenni cynaeafu ac ailstocio blynyddol CNC ar gyfer yr ardal. Mae'r rhaglenni hyn yn cyfrannu at darged incwm blynyddol CNC. Mae'r Tîm yn gweithio'n agos gyda chontractwyr allanol a chwmnïau prosesu coed i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni ar amser ac yn unol â'u contractau. Mae rôl y Swyddog yn gymysgedd o waith yn y swyddfa ac ymweliadau â safleoedd i baratoi ac yna rheoli contractau gweithrediadau coedwig, gan gynnwys iechyd a diogelwch. Bydd y swyddog yn gweithio'n agos gyda chwsmeriaid, contractwyr, timau eraill yn CNC a'r cyhoedd. Cefnogir y Swyddog gan oruchwylwyr safleoedd ar gontractau cynaeafu ac ailstocio gweithredol.
Mae’n bosib y bydd gofyn i’r Swyddog weithio y tu allan i oriau naill ai fel rhan o rota dyletswydd neu os bydd angen ymateb i ddigwyddiadau na ragwelwyd ar y safleoedd.
Bydd y Swyddog yn uniongyrchol atebol i Arweinydd y Tîm Gweithrediadau Coedwig.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cefnogi cyngor technegol ar gyfer sector penodol neu faterion technegol.
- Rhoi cynlluniau gwaith tîm ar waith, a chyflawni camau gweithredu y cytunwyd arnynt i gyfrannu at gynllunio busnes.
- Cymryd rhan yn agweddau technegol CNC neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol fel cynrychiolydd technegol.
- Rhyngweithio â chydweithwyr yn CNC i hyrwyddo diwydiant cyson ac arferion pwnc arbenigol.
- Bod yn gyfrifol am gyflwyno rhaglenni dirprwyedig yn uniongyrchol a rheolaeth gyllidebol ddirprwyedig y cytunwyd arni, gan gynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a chadw at y broses gaffael.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
- Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, UKWAS a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
- Profiad o weithgareddau cyswllt cymunedol ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
- Gwybodaeth a phrofiad o safleoedd dynodedig, a phob agwedd ar arferion coedwigaeth, gan gynnwys rhwymedigaethau tir, cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwig.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 12 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn swyddfa’r Trallwng
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Elaine Harrison ar Elaine.Harrison@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.