Swyddog Gweithrediadau Coedwig x2

Dyddiad Cau: 12 Mawrth 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg (yn ardal Gogledd y Canolbarth)                

Math o Gontract: Parhaol

Patrwm Gwaith: Llawn amser, 37 awr y wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener

Rhif Swydd: 200462, 203462

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Bydd deiliad y swydd yn rhan o Dîm Gweithrediadau Coedwig Gogledd y Canolbarth. Mae Gogledd y Canolbarth yn cynnwys cymysgedd amrywiol o goedwigoedd ar yr ucheldir a’r iseldir, gan gynnwys Dyfi, Machynlleth, Cwm Einion, Nant y Moch, Nant yr Arian, Hafren, Dyfnant, Maesyfed a Cheri.

Mae’r Tîm Gweithrediadau Coedwig yn gyfrifol am gynllunio a chyflawni rhaglenni cynaeafu ac ailstocio blynyddol CNC ar gyfer yr ardal. Mae'r rhaglenni hyn yn cyfrannu at darged incwm blynyddol CNC. Mae'r Tîm yn gweithio'n agos gyda chontractwyr allanol a chwmnïau prosesu coed i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni ar amser ac yn unol â'u contractau. Mae rôl y Swyddog yn gymysgedd o waith yn y swyddfa ac ymweliadau â safleoedd i baratoi ac yna rheoli contractau gweithrediadau coedwig, gan gynnwys iechyd a diogelwch. Bydd y swyddog yn gweithio'n agos gyda chwsmeriaid, contractwyr, timau eraill yn CNC a'r cyhoedd. Cefnogir y Swyddog gan oruchwylwyr safleoedd ar gontractau cynaeafu ac ailstocio gweithredol.

Mae’n bosib y bydd gofyn i’r Swyddog weithio y tu allan i oriau naill ai fel rhan o rota dyletswydd neu os bydd angen ymateb i ddigwyddiadau na ragwelwyd ar y safleoedd.

Bydd y Swyddog yn uniongyrchol atebol i Arweinydd y Tîm Gweithrediadau Coedwig.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Cefnogi cyngor technegol ar gyfer sector penodol neu faterion technegol.
  • Rhoi cynlluniau gwaith tîm ar waith, a chyflawni camau gweithredu y cytunwyd arnynt i gyfrannu at gynllunio busnes.
  • Cymryd rhan yn agweddau technegol CNC neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol fel cynrychiolydd technegol.
  • Rhyngweithio â chydweithwyr yn CNC i hyrwyddo diwydiant cyson ac arferion pwnc arbenigol.
  • Bod yn gyfrifol am gyflwyno rhaglenni dirprwyedig yn uniongyrchol a rheolaeth gyllidebol ddirprwyedig y cytunwyd arni, gan gynnwys yr holl gydymffurfiaeth berthnasol a chadw at y broses gaffael.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
  2. Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, UKWAS a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
  3. Profiad o weithgareddau cyswllt cymunedol ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
  4. Gwybodaeth a phrofiad o safleoedd dynodedig, a phob agwedd ar arferion coedwigaeth, gan gynnwys rhwymedigaethau tir, cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwig.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Dymunol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Profiad perthnasol amlwg wedi'i ennill mewn nifer o amgylcheddau neu ystod o rolau, gyda gafael a dealltwriaeth dda o bolisi a gweithdrefnau sefydliadol.
  • Meddu ar brofiad blaenorol o reoli prosiectau / rheoli contractau mewn maes technegol a’r gallu i gyflawni'r ystod lawn o dasgau sy'n gysylltiedig â rheoli prosiectau.
  • Y gallu i ddangos lefel dda o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu.
  • Yn nodweddiadol, bydd deiliad y swydd wedi cael profiad o oruchwylio eraill/contractwyr.
  • Y gallu i ddangos lefel uchel o wybodaeth am faes iechyd, diogelwch a llesiant, a phrofiad ohono, ynghyd â diogelwch cyhoeddus ac atebolrwydd cyhoeddus. 

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddeall a dehongli llawlyfrau gweithdrefnau technegol a chodau statudol a ddefnyddir wrth gyflawni'r rôl. 
  • Y gallu i gynhyrchu achosion busnes, adroddiadau, nodiadau briffio a chontractau, a fydd yn cael eu cymeradwyo gan eraill fel rhan o brosesau mewnol y cytunwyd arnynt.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, sy'n gofyn am farn wrthrychol.
  • Y gallu i newid blaenoriaethau lle mae gofynion neu weithgareddau gwaith sy'n gwrthdaro.
  • Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd wneud penderfyniadau o natur dechnegol yn seiliedig ar gwmpas y gwaith, gydag arweiniad gan eraill os oes angen.
  • Bydd amcanion a thargedau yn cael eu cyflawni yn unol â gweithdrefn lywodraethu ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
  • Bydd deiliad y swydd yn atebol i swyddog gweithredol ar y prosiect.
  • Y gallu i ddefnyddio gwybodaeth flaenorol i ddatrys problemau yn seiliedig ar ganlyniadau hysbys, gydag arweiniad gan swyddog gweithredol y prosiect os oes angen.
  • Yn deall y bydd effaith ei benderfyniadau yn ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac yn effeithio ar yr amgylchedd a'r dirwedd dros yr hirdymor.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu â rolau eraill ar draws y busnes, gan feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith a rhwydweithiau da i ymgysylltu â'r sefydliad wrth ddarparu polisïau a chynlluniau gwaith yn y ffordd fwyaf effeithlon.
  • Sgiliau cyfathrebu a pherswadiol effeithiol, a all gynnwys hwyluso a chyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi cyngor a chyfrannu yn ôl yr angen. 
  • Y gallu i reoli cydberthnasau ag ystod eang o randdeiliaid a thrydydd partïon sy'n ymwneud â chyflawni prosiectau, a allai gynnwys rhywfaint o ddylanwadu.
  • Y gallu i gynhyrchu dogfennau technegol, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati yn cynnwys cyngor, arweiniad neu farn a allai arwain at ganlyniadau niweidiol a goblygiadau ariannol os ydynt yn anghywir neu wedi'u drafftio'n wael.
  • Y gallu i ddod o hyd i wybodaeth a data o sawl lleoliad, sy'n gofyn am ymchwil allanol a barn broffesiynol i benderfynu sut y dylid dehongli'r wybodaeth.
  • Hyder i ryngweithio â phobl yn allanol ar bob lefel.
  • Er bod hon yn rôl sy'n wynebu tuag allan, bydd y gwaith a wneir yn effeithio'n allanol ac yn fewnol ar ystod o lefelau, yn dibynnu ar natur y prosiect.

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Yn gyfrifol am ddefnyddio a chadw offer arbenigol a ddefnyddir yn y maes yn ddiogel ac yn gyfreithiol.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb dirprwyedig am gyllideb sy'n debygol o fod yn rhan o gyllideb lawer mwy a bydd ganddo gyfrifoldeb o ran y gadwyn gyflenwi / gweithgarwch caffael sy'n gysylltiedig â chontractau yn unol â'r gweithdrefnau.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 12 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn swyddfa’r Trallwng

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Elaine Harrison ar Elaine.Harrison@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf