Prosiect Carbon Bositif

Ariennir y Prosiect Carbon Bositif gan Lywodraeth Cymru i ddangos sut y gall y sector cyhoeddus leihau ei effaith carbon er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae ein Prosiect Carbon Bositif yn defnyddio dull uchelgeisiol i ddeall ein heffaith carbon ac i nodi cyfleoedd i fynd i’r afael ag e.

Trwy rannu ein profiadau, ein nod yw annog datgarboneiddio pellach yng Nghymru.

 

Byddwn yn helpu i ledaenu arfer gorau mewn rheoli carbon ar draws sector cyhoeddus Cymru

Mae gan y Prosiect ddull cynhwysfawr o reoli carbon sydd â phum cam allweddol

Rydyn ni’n ystyried allyriadau nwyon tŷ gwydr a dal a storio ar draws y stad sy’n cael ei rheoli gennyn ni ac sy’n berchen inni

Rydyn ni’n chwilio am gyfleoedd lliniaru er mwyn lleihau ein heffaith carbon fel sefydliad

Rydyn ni’n cyflawni prosiectau i ddangos y mesurau lliniaru

Bydd y prosiect hefyd yn creu cynllun i roi mesurau lliniaru ar waith yn y dyfodol a chynnwys rheoli carbon ar draws y sefydliad

Cysylltwch â thîm y prosiect

Edrychwch ar y newyddion diweddaraf am y prosiect