Mae gan y Prosiect ddull cynhwysfawr o reoli carbon sydd â phum cam allweddol:
1. Cyfrifo gwir statws carbon CNC
- Cyfrifo allyriadau nwy tŷ gwydr o ddefnyddio adeiladau, trafnidiaeth, rheoli ein stad a nwyddau a gwasanaethau sydd wedi cael eu prynu
- Amcangyfrif graddfeydd dal a storio carbon cynefinoedd ein stad
- Amcangyfrif stociau carbon sydd yng nghynefinoedd ein stad
Ewch i Cyfrifo ein gwir statws carbon
2. Gwerthuso cyfleoedd lliniaru
- Gwerthuso opsiynau i leihau allyriadau, cyfoethogi dal a storio a diogelu stociau carbon
- Blaenoriaethu opsiynau cyflawni drwy drafod costau, arbedion carbon, buddion ehangach a dichonoldeb
Ewch i Gwerthuso opsiynau lliniaru
3. Prosiectau arddangos
- Cyflawni prosiectau arddangos cychwynnol, opsiynau lliniaru posibl ac arfer gorau
Ewch i Prosiectau arddangos
4. Cyfathrebu a chydweithio gydag eraill
- Cydweithio gyda, a dysgu gan, fudiadau blaengar sy’n rheoli eu heffaith carbon mewn ffyrdd uchelgeisiol ac arloesol
- Ymgysylltu â staff a chydweithio ar draws CNC i gynnwys rheoli carbon enghreifftiol yn ein gweithgareddau
- Hwyluso ac annog camau positif i reoli carbon ar draws sector cyhoeddus Cymru drwy rannu ein dull a lledaenu arfer gorau
Ewch i Cynnwys Carbon Bositif yn CNC a Rhannu ein dull
5. Cofnodi profiadau a chynllunio gweithredu ar gyfer y dyfodol
- Creu adroddiadau i gynllunio a rhannu ein profiadau a’n dull
- Datblygu cynllun i roi opsiynau lliniaru ar waith yn y dyfodol o fewn CNC i gynnal gweithredu a datblygu CNC ymhellach fel enghraifft dda o reoli carbon
Ewch i Cynnwys Carbon Bositif yn CNC a Rhannu ein dull
