Nodi Cyfleoedd

Gan ddatblygu’r blaenoriaethau a nodwyd wrth gyfrifo’r gwir statws carbon, rydyn ni'n gwerthuso opsiynau lliniaru allyriadau, gan ddiogelu stociau carbon a chynyddu dal a storio carbon mewn pedwar maes allweddol: Adeiladau, Trafnidiaeth, Tir ac Asedau, a Chaffael.

Adeiladau

  • Cyflenwad trydan - Newid cyflenwad trydan ein sefydliad i dariff/cyflenwr sy’n 100% cynaliadwy

  • Adeiladu effeithlonrwydd - Gwerthuso’r potensial am effeithlonrwydd egni a chynhyrchu egni adnewyddol yn ein hadeiladau. Gallai gosod LED a PV solar yn adeiladau CNC arbed 94 tunnell o CO₂e, gyda photensial mewn adeiladau eraill hefyd

Trafnidiaeth

  • Adolygiad strategol o’r fflyd carbon - Adolygu ein fflyd gyfredol a nodi cyfleoedd i ddibynnu’n llai ar ddisel ac allyriadau cysylltiedig, a rhoi gwerth am arian ar yr un pryd. Gallai hyn gynnwys: cerbydau allyriad isel (e.e. cerbydau trydan) , opsiynau tanwydd (e.e. biodanwydd) a datrysiadau meddalwedd (e.e. telemateg). Gallem ni arbed hyd at 27% o allyriadau o’n fflyd ac arbed 5% o gostau drwy ddefnyddio technolegau allyrru isel

  • Cynllunio trafnidiaeth gynaliadwy - Datblygu cynllun trafnidiaeth cynaliadwy, gan ehangu ac adeiladu ar yr arfer gorau sy'n cael ei ddefnyddio yn y sefydliad er mwyn lleihau allyriadau o deithio busnes a chymudo, gan gynnwys hyrwyddo teithio llesol

Tir ac asedau

  • Cynhyrchu egni adnewyddol - Asesu’r potensial am gynhyrchu egni adnewyddol (h.y. hydro bychan/canolig, egni gwynt a solar) ein stâd fel ffordd o leihau pa mor ddibynnol yw ein sefydliad ar drydan o’r grid, sy’n gallu lleihau ein hallyriadau a’n costau

  • Ôl-ffitio asedau - Lleihau’r allyriadau sy’n cael eu cysylltu â gweithredu ein hasedau (e.e. Gorsafoedd pwmpio, gorsafoedd medryddu), gan gynnwys opsiynau ar gyfer pympiau sy’n effeithlon o ran egni, pŵer solar a CCTV. Gallai’r mesurau hyn leihau faint o drydan rydyn ni’n ei ddefnyddio, cynhyrchu pŵer a lleihau’r amser mae’r staff yn ei dreulio’n rheoli asedau, gan gadw’r prif swyddogaethau (e.e. rheoli perygl llifogydd). Gall ôl-ffitio gorsaf bwmpio gyda phŵer sy’n effeithlon o ran ynni a PV solar leihau allyriadau o dros 50%

  • Gwarchod a chyfoethogi’r tir rydyn ni’n ei reoli neu sy’n berchen inni - Cynnal ac ehangu cynefinoedd (e.e. mawndir a choetir) ar y stâd er mwyn gwarchod a chyfoethogi’r carbon sydd wedi ei storio

Caffael

  • Caffael nwyddau a gwasanaethau - Trafod pa fesurau all gael eu hintegreiddio i’r polisi caffael er mwyn gwella cymwysterau carbon y nwyddau a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu caffael, gan gynnwys sut y gall ein staff ystyried effaith carbon yn well wrth ddrafftio manylion. E.e., mae allyriadau sefydliadau a chontractwyr eraill wedi lleihau 40% drwy fframweithiau peirianneg sifil gan ddefnyddio offeryn cynllunio carbon sy’n cael ei dreialu yn CNC

Tystiolaeth

Mae darparu tystiolaeth gadarn am opsiynau wedi bod yn allweddol. Rydyn ni wedi gweithio gydag arbenigwyr y diwydiant gan gynnwys Carbon Trust, Cenex a Regen er mwyn deall yn well ein hopsiynau am effeithlonrwydd egni, newid ymddygiad, technolegau allyrru isel i’n fflyd a’r posibilrwydd o gynhyrchu egni adnewyddol.

Gwerthuso a Blaenoriaethu

Rydyn ni wedi gwerthuso’r opsiynau lliniaru sydd ar gael o CNC ac wedi deall y costau, yr arbedion carbon, y buddion ehangach a dichonoldeb (e.e. faint y gallwn ei dderbyn ar draws y sefydliad). Byddwn yn ceisio defnyddio’r wybodaeth hon i flaenoriaethu pa opsiynau i’w cyflawni.

Rhaglennu

Bydd yr opsiynau a nodwyd yn cael eu rhoi i mewn i raglen ar gyfer CNC yn y dyfodol.

Gweler Ar Waith yn y Dyfodol am ragor o wybodaeth.

#ByddGarbonBositif

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf