Mae’r prosiect wedi datblygu’n llwyddiannus a bu cyfres o brosiectau arddangos ar draws CNC.
Mae'r prosiectau’n dangos cyfleoedd i leihau allyriadau, cynyddu storio carbon a diogelu stociau carbon er mwyn gweithredu ar effaith carbon y sefydliad nawr.
Rydyn ni’n creu astudiaethau achos i gofnodi ein profiad a’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu ar gyfer pobl eraill a bydd ar gael fel rhan o rannu ein dull.
Adeiladau
Trafnidiaeth
- 3 cherbyd cyfan gwbl drydan Nissan Leaf yn y fflyd, (ym Maes-y-Ffynnon, Bwcle a Llandarcy), yn ogystal â gosod mannau gwefru yn y swyddfeydd hyn ac yn Hwlffordd. Bu sesiynau arddangos i staff a chanllawiau clir ar sut i’w defnyddio yn allweddol yn y lansiad llwyddiannus, ac mae’r cerbydau wedi cael eu defnyddio 73% yn fwy yn ystod y mis cyntaf
- Gosod mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer ymwelwyr mewn dwy ganolfan ymwelwyr allweddol – Coed y Brenin a Bwlch Nant yr Arian. Darllenwch astudiaeth achos seilwaith ar gyfer ceir trydan a gwefru
Tir ac asedau
Caffael
- Datblygu Polisi Rheoli Carbon yn CNC ar gyfer caffael
- Treialu offerynnau asesu newydd
- Dylanwadu ar gytundebau allweddol, gan gynnwys treialu offeryn cynllunio carbon newydd i fynd i’r afael â charbon yn ein fframwaith peirianneg sifil. Mae sefydliadau eraill wedi allyrru dros 40% yn llai o garbon wrth adeiladu cynlluniau mawr i amddiffyn rhag llifogydd gan ddefnyddio’r offeryn. Mae staff allweddol yn nhimoedd caffael a chyflawni prosiectau CNC bellach wedi cael eu hyfforddi i’w ddefnyddio. Darllenwch yr astudiaeth achos
- Gweithio gyda staff gweithredu coedwigoedd i fireinio amcangyfrifon o allyriadau contractwyr a ddaw o gynaeafu coedwigaeth a chludo, gan ddarparu tystiolaeth gadarn y gellid nodi cyfleoedd oddi wrthi i leihau allyriadau. Darllenwch yr astudiaeth achos