Mewnblannu Carbon Bositif yn CNC

Mae mynd i’r afael ag effaith garbon ein sefydliad yn gofyn am gamau sy’n mynd y tu hwnt i’r Prosiect ei hun, e.e. gan ein staff a’n contractwyr.

Gobaith y prosiect Carbon Bositif yw mewnblannu arfer gorau rheoli carbon ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau cymaint o ddatgarboneiddio ag sydd bosibl.

Newid ein ffordd o weithio

Bydd ‘mewnblannu’ Carbon Bositif yn CNC yn golygu ymgorffori’r arfer gorau o ran rheoli carbon i’r ffordd yr ydym yn cyflawni ein gwaith – newid ein harferion, ein prosesau a’n diwylliant pan fo angen i weithredu ein gwaith heb effaith carbon.

Drwy weithio gyda staff allweddol ar draws y sefydliad byddwn yn nodi ac yn rhoi grym i swyddogion cyflawni i fewnblannu Carbon Bositif ar draws y sefydliad a sbarduno ein huchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio.

Cynllunio cyflawni i’r dyfodol

Fel rhan o’r gwaith mewnblannu hwn, bydd canlyniadau’r gwaith o werthuso opsiynau lliniaru yn cael eu defnyddio i ddatblygu cynllun mewnol wedi ei gostio a’i flaenoriaethu er mwyn cyflawni opsiynau lliniaru ar gyfer y dyfodol a glustnodwyd ar gyfer CNC.

Bydd yr adroddiad ar werthuso opsiynau lliniaru yn amlinellu sut yr ydym yn adeiladu ein cynllun ar gyfer gweithredu’r camau a nodwyd.

 

#ByddGarbonBositif

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf