Cyfrifo ein gwir statws carbon

Cam cyntaf y Prosiect Carbon Bositif oedd cyfrifo gwir statws carbon ein sefydliad. Hwn yw’r gweddill rhwng faint o nwy tŷ gwydr sy’n cael ei allyrru gan weithrediadau’r sefydliad a faint o garbon sy’n cael ei ddal a’i gadw yng nghynefinoedd y stâd sy’n cael ei rheoli gan CNC, ac sy’n berchen inni.

Ein dull

Roedd dau gam i gyfrifo ein gwir statws carbon:

1. Datblygu stocrestr allyriadau nwy tŷ gwydr i CNC, gan fesur allyriadau oedd yn dod o asedau a gweithrediadau

Cyfrifon ni allyriadau ein sefydliad ar draws pob gweithgaredd a gweithrediad, gan gynnwys adeiladau, trafnidiaeth, tir, asedau, a chaffael nwyddau a gwasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys casglu data am ein gweithgareddau a’i gyfuno â data allyriadau safonol DEFRA/DECC i amcangyfrif ein hallyriadau, e.e.: oriau cilowat o drydan a ddefnyddiwyd mewn swyddfeydd a gorsafoedd pwmpio; litrau o ddisel a ddefnyddiwyd mewn ceir a faniau sy’n berchen inni; ac arian a wariwyd ar ddeunyddiau. Roedd ein cyfrifiadau yn dilyn canllawiau a geir yn Safon Corfforaethol Protocol Nwy Tŷ Gwydr, ac yn ystyried y chwe nwy a enwir ym Mhrotocol Kyoto mewn unedau cyffredin o bethau cyfatebol i garbon deuocsid (CO2e).

2. Amcangyfrif y carbon sy’n cael ei storio yn llystyfiant a phriddoedd cynefinoedd ar y stâd sy’n cael ei rheoli gan CNC, ac sy’n berchen inni, sydd hefyd yn cael ei alw’n CO2e

Yn ogystal â cholledion a chynnydd mewn carbon, cafodd y stociau carbon cyfredol ym mhob math o gynefinoedd hefyd eu hamcangyfrif er mwyn darparu dealltwriaeth lawn o statws carbon y stâd. Rydyn ni'n gweithio gydag arbenigwyr y diwydiant gan gynnwys Ymchwil y Goedwig a’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg i roi’r amcangyfrifon gorau posibl o storio carbon mewn cynefinoedd coetir a mawndir. Bydd gwell dealltwriaeth o storio carbon yn y cynefinoedd a’r priddoedd gwerthfawr hyn yn ein helpu i gynllunio sut i’w rheoli orau er mwyn diogelu stociau carbon cyfredol a chyfoethogi dal a storio carbon.

O ble mae ein hallyriadau carbon yn dod?

Mae casgliadau’r prosiect yn dangos pa mor bwysig yw defnyddio dull cynhwysfawr wrth amcangyfrif gwir statws carbon sefydliad. Mae canlyniadau cychwynnol yn dangos bod CNC wedi allyrru nwyon tŷ gwydr gwerth 41,234 tunnell o CO₂e yn 2015/6.

Mae'r canlyniadau’n dangos mai dim ond canran fechan o gyfanswm yr allyriadau oedd allyriadau uniongyrchol, tra bod rhan helaeth o allyriadau tŷ gwydr CNC yn anuniongyrchol, e.e., o gaffael nwyddau a gwasanaethau (55%), staff yn cymudo a gweithio o gartref (7%).

Mae ffigyrau dal a storio carbon bron yn barod ac yn awgrymu bod y sefydliad yn storio mwy o garbon bob blwyddyn nag y mae’n ei ryddhau drwy ei weithredoedd.

NRW carbon footprint 2015 - 16

Cwmpas 1 - Allyriadau uniongyrchol i’r amgylchedd o weithgareddau sy’n cael eu rheoli gan CNC ac sy'n berchen inni e.e. hylosgi tanwydd mewn boeleri a cherbydau sy’n berchen inni.

Cwmpas 2 - Allyriadau anuniongyrchol i’r amgylchedd wrth gynhyrchu trydan a brynwyd gan CNC h.y. trydan sydd wedi cael ei brynu.

Cwmpas 3 - Allyriadau anuniongyrchol eraill sy’n digwydd tu allan i CNC ond sydd o ganlyniad i’n gweithgareddau e.e. deunyddiau sydd wedi cael eu prynu, gwasanaethau contractwyr, gweithwyr yn cymudo.

 

#ByddGarbonBositif

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf