Anfon eich cynllun adfer gwastraff atom
Bydd angen i chi anfon eich cynllun adfer gwastraff atom pan fyddwch yn gwneud y canlynol:
- cyflwyno cais am drwydded i ddodi gwastraff i'w adfer
- eisiau newid eich cynllun adfer gwastraff
Rydym yn codi £800 i asesu cynllun adfer gwastraff newydd neu ddiwygiedig. Mae'r tâl hwn ar wahân i unrhyw dâl gwneud cais am drwydded.
Ceisiadau am drwyddedau newydd
Rydym yn argymell eich bod yn anfon eich cynllun adfer gwastraff atom cyn i chi wneud cais am drwydded. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym yn cytuno bod eich gwaith dodi arfaethedig yn weithgaredd adfer gwastraff.
Os byddwch yn anfon cynllun adfer gwastraff atom ar yr un pryd â'ch cais am drwydded a'n bod yn penderfynu nad yw eich gweithgaredd yn waith adfer, byddwch yn colli’r ffi am eich cais am drwydded a’r ffi am asesu eich cynllun adfer gwastraff.
Newid eich cynllun adfer gwastraff
Os oes angen i chi newid eich cynllun adfer gwastraff, rhaid i chi anfon eich cynllun diwygiedig atom i'w asesu a thalu'r ffi o £800.
Os ydym eisoes wedi rhoi trwydded i chi ddodi gwastraff i'w adfer, efallai y bydd angen i chi hefyd gyflwyno cais i amrywio (newid) trwydded ar gyfer gweithrediadau gwastraff, yn enwedig os ydych yn bwriadu gwneud y canlynol:
- derbyn gwahanol fathau o wastraff
- newid faint o wastraff yr ydych am ei ddodi
- newid ble neu sut y caiff y gwastraff ei ddodi
- newid eich cynllun oherwydd newidiadau yn eich caniatâd cynllunio
Rhaid i chi aros i ni gytuno i'ch cynllun adfer gwastraff newydd a'ch trwydded wedi’i hamrywio cyn i chi newid eich gweithgaredd neu bydd risg y byddwch yn torri amodau eich trwydded.