Y caniatâd sydd ei angen arnoch i ddodi gwastraff i'w adfer
Dodi gwastraff i’w adfer yw pan fyddwch yn defnyddio deunydd gwastraff yn lle deunydd diwastraff ar gyfer y canlynol:
- adeiladu
- adfer
- adfer neu wella tir
Mae diben defnyddiol i'r deunydd gwastraff oherwydd ei fod yn disodli deunyddiau diwastraff. Yn lle cael gwared ar y gwastraff, mae'n cael ei adfer.
Oni bai eich bod yn gallu gweithredu o dan esemptiad, bydd angen trwydded gennym ni i ddodi gwastraff.
Cael caniatâd cynllunio
Fel arfer, mae angen caniatâd cynllunio arnoch i ddefnyddio tir i ddodi gwastraff i'w adfer. Dylech gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol am gyngor. Dylech wneud hyn ymhell cyn i chi ddechrau eich gweithgaredd.
Rhaid i chi ddweud wrthym os daw eich caniatâd cynllunio i ben neu os caiff ei dynnu’n ôl neu ei newid gan yr awdurdod cynllunio oherwydd y gallai hyn effeithio ar eich trwydded a’ch cynllun adfer gwastraff.
Gwirio'r trwyddedau sydd ar gael
Gallwch wneud cais am drwydded rheol safonol os ydych yn gallu bodloni’r meini prawf canlynol:
Os oes gennych y drwydded hon, dim ond y mathau o wastraff sy’n bodloni’r canlynol y gallwch eu derbyn:
- sydd yn unol â’r disgrifiad yn y set o reolau safonol
- sy’n cael eu cynnwys yn eich cynllun adfer gwastraff cymeradwy
- sydd o fewn y cyfanswm cyfaint a thunelledd sydd wedi'u cynnwys yn eich cynllun adfer gwastraff cymeradwy
Os na allwch fodloni'r meini prawf, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.
Trin gwastraff yn ogystal â’i ddodi
Os ydych yn bwriadu cynnal gweithgaredd trin gwastraff i, er enghraifft, gymysgu gwastraff neu weithgynhyrchu amnewidyn pridd, bydd angen i chi wneud cais am drwydded sy'n caniatáu hyn. Gallwch naill ai wneud cais amdani fel gweithgaredd ar wahân o fewn eich trwydded dodi gwastraff i’w adfer, neu fel trwydded ar wahân.
Mae trwyddedau rheolau safonol ar gyfer trin gwastraff yn cynnwys:
SR2008 Rhif 11: Gorsaf drosglwyddo ar gyfer gwastraff anadweithiol a chloddio â thriniaeth
SR2009 Rhif 6: Gorsaf drosglwyddo ar gyfer gwastraff anadweithiol a chloddio â thriniaeth
SR2010 Rhif 12: Trin gwastraff i gynhyrchu pridd, amnewidion pridd ac agregau
Safleoedd tirlenwi
Os ydych am adfer gwastraff mewn safle tirlenwi, gan gynnwys gwneud gwaith adfer i safleoedd tirlenwi, rhaid i'r gweithgaredd hwnnw gael ei awdurdodi ar wahân naill ai yn eich trwydded tirlenwi neu fel trwydded ar wahân.
Rydym yn ystyried mai adfer safle tirlenwi yw gosod haen wastad o bridd ar ben y safle tirlenwi (fel arfer uwchben y cap peirianyddol) i ddychwelyd y tir i ddefnydd buddiol. Gallwch ddefnyddio gwastraff mewn unrhyw adeiledd peirianyddol os yw'n bodloni'r safonau peirianneg gofynnol. Gallwch ddarganfod mwy yn dylunio ac adeiladu eich safle tirlenwi.
Mynnwch gyngor cyn ymgeisio ar drwyddedau tirlenwi.
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu mewn cais am drwydded
Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth wahanol ar gyfer y ddau fath o drwydded: rheolau safonol a phwrpasol.
Trwydded rheolau safonol
I wneud cais am drwydded rheolau safonol i ddodi gwastraff i’w adfer, dylech ddarganfod:
- sut i baratoi cynllun adfer gwastraff
- sut i baratoi system rheolaeth amgylcheddol
- pa wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu ar ffurflenni Rhan A, Rhan B1 a Rhan F1
Trwydded bwrpasol
I wneud cais am drwydded bwrpasol i ddodi gwastraff i’w adfer, dylech ddarganfod:
- sut i baratoi cynllun adfer gwastraff
- sut i baratoi system rheolaeth amgylcheddol
- sut i gynnal asesiad risg
- pa wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu ar ffurflenni Rhan A, Rhan B2, Rhan B4 a Rhan F1
Mynnwch gyngor
Cyn i chi wneud cais am drwydded, gallwch gael dwy awr o gyngor am ddim.