Gwneud cais am drwydded cwympo coed
Gall unrhyw un wneud cais am drwydded cwympo coed, ond caiff y drwydded ei chyhoeddi yn enw'r perchennog neu lesddeiliad y tir (os yw ei les yn rhoi'r hawl iddo gwympo coed).
Mae unrhyw waith cwympo coed heb drwydded neu ganiatâd arall yn drosedd, oni bai ei fod dan esemptiad.
Fel arfer, mae trwydded cwympo coed yn ddilys am ddwy flynedd ar gyfer llwyrdorri neu bum mlynedd ar gyfer teneuo.
Gall perchnogion neu reolwyr coetir ystyried cynllun rheoli coedwig ar gyfer cynigion cwympo coed tymor hir am hyd at ddeng mlynedd.
Gwiriwch a oes angen trwydded arnoch
Nid oes angen trwydded cwympo coed am bob prosiect cwympo coed.
Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch a chanfod yr hyn sydd angen ei ystyried cyn dechrau ar unrhyw waith cwympo coed.
Gwneud cais am drwydded cwympo coed
Cwblhewch y ffurflen gais am drwydded cwympo coed.
Cyn marcio’r map(iau), gwiriwch y canlynol:
- Ei fod yn gyfredol, ac yn deillio o arolwg Ordnans
- Fod ganddo raddfa addas yn ddelfrydol 1:10,000, 1:5,000 neu 1:2,500
- Fod graddfa’r map yn y golwg, ac nad oes manylion perthnasol wedi cael eu cuddio gan blygiadau, labeli neu farciau
- A fod ganddo o leiaf ddwy linell grid lorweddol a dwy linell grid fertigol Arolwg Ordnans, oni bai eich bod wedi defnyddio map rhyngweithiol CNC
Marcio’r map(iau):
- marciwch yr ardal fydd yn cael ei chwmpo yn eglur
- rhaid i unrhyw liw a ddefnyddir beidio â dileu manylion y map sylfaen
- mae angen i gyfeirnod grid yr ardal fydd yn cael ei chwympo gael ei ddangos yn glir
- os na yw’r fynedfa i’r ardal fydd yn cael ei chwympo yn amlwg, marciwch hon hefyd ar y map
- dylech gynnwys teitl, graddfa ac allwedd i nodi’n glir beth ydych wedi ei farcio ar y map
- peidiwch â defnyddio map a ddefnyddiwyd mewn cais blaenorol
- rhaid iddo gael ei lofnodi neu ei awdurdodi a’i ddyddio gan yr ymgeisydd
Cyflwyno cais i gwympo coed llarwydd yn y gaeaf
Mae coed llarwydd yn agored i glefyd o'r enw Phytophthora ramorum, sy'n gallu lledaenu'n hawdd, gan fygwth planhigion a rhywogaethau eraill.
Rydym yn archwilio pob rhan o'r llarwydd cyn cymeradwyo trwydded cwympo coed, ond nid yw symptomau P. ramorum yn weladwy yn y gaeaf.
Os ydych yn ystyried cwympo coed llarwydd rhwng 30 Medi ac 1 Ebrill mae angen i chi ystyried un o'r opsiynau ganlyn:
- gofyn am gais symud Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol, a elwir hefyd yn SPHN(mr)
- ddileu'r coed llarwydd o'ch ffurflen gais os ydych yn cwympo cymysgedd o rywogaethau
- neu oedi'r cais nes bod modd archwilio'r coed llarwydd
Cael mwy o gymorth gyda'ch cais
Rydym yn cynnig gwasanaeth cynghori cyn gwneud cais i'ch helpu i sicrhau bod eich cais yn gywir y tro cyntaf. Mae'r lefel sylfaenol yn darparu dwy awr o gyngor am ddim, gan gynnwys gwybodaeth am y ffurflenni i'w cwblhau, canllawiau, arfer gorau / safonau'r diwydiant, a sut i nodi elfennau amgylcheddol sensitif.
Os oes angen cymorth mwy dwys arnoch, rydym yn cynnig cyngor unigryw, cyn gwneud cais am dâl fel rhan o'n gwasanaeth cynghori yn ôl disgresiwn.
Sut rydym yn ymdrin â cheisiadau
- Caiff cydnabyddiaeth ei hanfon atoch o fewn pum niwrnod gwaith.
- Os oes angen, caiff ymweliad safle ei drefnu o fewn tair wythnos.
- Caiff manylion y cais eu rhoi ar y cofrestr trwyddedau cwympo (oni bai fod y cais ar gyfer teneuo yn unig neu goed llarwydd yn bennaf) am bedair wythnos – nid oes modd cyhoeddi'r drwydded cwympo coed nes bod cyfnod y gofrestr wedi dod i ben.
- Gallwn hefyd ymgynghori ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.
Sut i apelio yn erbyn ein penderfyniad
Os caiff eich cais am drwydded cwympo coed ei gwrthod ddwywaith:
- am yr un ardal a'r un cynigion gwaith
- ac mae o leiaf tair blynedd wedi mynd heibio rhwng ein gwrthodiad cyntaf a dilynol
- neu os nad ydych yn cytuno â'r amodau ailstocio ar eich trwydded cwympo coed
yna gallwch wneud cais i Weinidogion Cymru adolygu ein penderfyniad.
Gallai'r Gweinidog ofyn i bwyllgor cyfeirio annibynnol ddarparu cyngor cyn penderfynu a ddylid cadarnhau neu ddiwygio ein penderfyniad.