Mae'r drwydded cwympo coed yn cwmpasu'r tir, waeth pwy yw'r perchennog. Mae'r caniatâd ac amodau'r drwydded yn parhau mewn grym ar ôl i'r tir gael ei werthu.

Os ydych chi'n gwerthu tir sydd â thrwydded cwympo coed, e-bostiwch fellinglicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i roi gwybod i ni ac i ddweud wrthym pwy yw'r perchennog newydd.

Dylech hefyd ddweud wrth y perchennog newydd am y drwydded ac unrhyw amodau sy'n berthnasol, p'un a ydych wedi cwympo'r coed neu beidio.

Os byddwch yn gwerthu'r tir ar ôl cwympo coed ond cyn ailstocio, dylech hysbysu'r darpar brynwr ynglŷn â'r rhwymedigaeth hon. Byddwn yn dal i ofyn i chi ailstocio ar ôl cwympo coed, gan gynnwys unrhyw waith ailstocio y cytunwyd arno trwy ganiatâd cwympo coed a ddarparwyd trwy gynllun grant.

Diweddarwyd ddiwethaf