Diweddariad Coronafirws

 

Ceisiadau trwyddedau cwympo coed a Sgrinio Effeithiau Amgylcheddol

 

Rydym yn prosesu ceisiadau am drwyddedau cwympo coed a Cheisiadau Sgrinio Effeithiau Amgylcheddol fel arfer. Ein nod yw cwblhau'r rhain o fewn yr amseroedd safonol. Os bydd oedi gyda'ch cais, byddwn yn gadael ichi wybod a gall y byddwn yn gofyn am amser ychwanegol i wneud ein penderfyniad.

 

Nid ydym yn ymweld â safleoedd ar gyfer y ceisiadau hyn oni fydd rheswm hanfodol dros wneud hynny h.y. pryder amgylcheddol sylweddol. Os bydd ymweliad â safle yn ofynnol, byddwn yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Ni fyddem yn disgwyl cwrdd â rheolwyr safleoedd, ond byddwn yn cysylltu â hwy ymlaen llaw i sicrhau ein bod yn gallu ei gynnal yn ddiogel.

 

Mae ein staff trwyddedu yn gweithio gartref a gellir cysylltu â hwy drwy e-bost fellinglicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Darganfyddwch fwy yn ein hymateb i’r pandemig coronafirws

Cyn dechrau cynllunio i gwympo coed, gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch.

Mae hefyd angen i chi wirio a oes angen y canlynol arnoch:

  • trwydded rhywogaeth
  • caniatâd gan eich awdurdod lleol
  • neu ganiatâd gan Cadw

Rhaid i bawb sy'n ymwneud â chwympo coed (y perchennog, asiant, a masnachwr pren neu gontractiwr) yn sicrhau bod y drwydded neu ganiatâd cywir wedi'i roi cyn bod unrhyw waith cwympo coed yn cael ei wneud.

Esemptiadau i'r angen am drwydded cwympo coed

Nid oes angen trwydded arnoch i gwympo coed yn y lleoliadau canlynol:

  • gardd
  • perllan
  • mynwent eglwys
  • man agored cyhoeddus fel tir sydd wedi'i osod fel gardd gyhoeddus

neu i docio a brigdorri coed, megis:

  • brigdocio
  • tocio
  • codi corun
  • lleihau corun

Nid oes angen trwydded cwympo coed ar gyfer y canlynol:

  • i gwympo llai na phum metr ciwbig mewn chwarter calendr cyn belled nad oes mwy na dau fetr ciwbig yn cael eu gwerthu
  • ar gyfer coed sydd â'r diamedrau canlynol wrth eu mesur 1.3 metr o'r ddaear:
    • 8 cm neu lai
    • 10 cm neu lai, ar gyfer teneuo
    • 15 cm neu lai, ar gyfer torri coedlan
  • os oes gennych ganiatâd dilys, a roddwyd yn unol â chaniatâd cynllunio (yn ôl y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref)
  • i gydymffurfio â Deddf Seneddol, megis hysbysiad a roddwyd gan awdurdod priffyrdd
  • i'ch galluogi i wneud gwaith fel ymgymerwr statudol, er enghraifft gwasanaethau nwy, trydan a dŵr
  • os ydym wedi cyhoeddi Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN)

Coed peryglus

Nid oes arnoch angen trwydded gwympo i gwympo coed peryglus. 

Coeden beryglus yw un sy’n achosi perygl gwirioneddol ac uniongyrchol, yn hytrach na pherygl canfyddedig. Os bydd rhywun yn eich cwestiynu, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth fod y coed yn beryglus, er enghraifft drwy gyflwyno adroddiad gan dyfwr coed achrededig neu dystiolaeth ffotograffig.

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop

Efallai y bydd angen cael trwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 os gallai gweithrediadau cwympo coed gael effaith niweidiol ar unrhyw Rywogaeth a Warchodir gan Ewrop.

Bydd y mwyafrif o weithrediadau cwympo coed yn gallu parhau heb drwydded hyd yn oed os oes Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop yn bresennol, ar yr amod fod canllawiau arfer da yn cael eu dilyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi ymchwilio i ba gofnodion o rywogaethau sydd ar gael, cynnal arolwg o’ch coetir am dystiolaeth o rywogaethau, a rheoli eich coetir yn unol â hynny.

Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i wirio am bresenoldeb Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop neu chwiliwch trwy NBN Atlas Cymru cyn dechrau ar unrhyw waith cwympo coed.

Defnyddiwch restr wirio Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop pan ydych yn dechrau cynllunio pa waith rydych am ei wneud. Mae hyn ar gyfer eich cofnodion chi yn unig. Bydd yn eich helpu i ddarparu rhywfaint o dystiolaeth eich bod wedi ystyried bywyd gwyllt a warchodir os bydd eich gweithrediadau yn cael eu herio'n ddiweddarach.

Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â chyfyngiadau Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop a sut i wneud cais am drwyddedau bywyd gwyllt fel y gallwch weithredu mewn coetiroedd a choedwigoedd yn ôl y gyfraith.

Cwympo coed ger safleoedd gwarchodedig

Mae gan rai safleoedd statws arbennig fel ardaloedd neu dir a môr gwarchodedig oherwydd eu pwysigrwydd naturiol a diwylliannol.

Mae'r safleoedd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
  • Safleoedd Ramsar

Dylech ddweud wrthym o fewn eich cais am drwydded i gwympo coed os bydd eich gwaith arfaethedig:

  • yn digwydd o fewn safle gwarchodedig
  • neu'n cael effaith ar safle gwarchodedig

hyd yn oed os yw'r coetir ei hun y tu allan i'r safle.

Os nad ydych yn dweud wrthym, ni fydd eich trwydded cwympo coed yn cwmpasu'r agwedd hon o'ch gwaith a gallwch fod yn cyflawni trosedd.

Gallwch ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ardaloedd o dir gwarchodedig. Neu os nad ydych yn siŵr os bydd eich gweithrediadau arfaethedig yn gallu cael effaith ar safle gwarchodedig, e-bostiwch fellinglicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk er mwyn i ni drafod hyn gyda chi.

Gorchmynion Diogelu Coed (TPO)

Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded cwympo coed, rhaid i chi ddweud wrthym os yw'r coed y bwriedir eu cwympo yn cael eu cwmpasu gan Orchymyn Diogelu Coed (TPO) neu os ydynt o fewn ardal gadwraeth.

Byddwn yn ymgynghori'n uniongyrchol â'r awdurdod cynllunio lleol ynglŷn â'ch cais. Os na fyddwch yn dweud wrthym fod Gorchymyn Diogelu Coed neu ardal gadwraeth yn bresennol, ni fydd eich trwydded yn cwmpasu'r gwaith cwympo coed a gallwch fod yn cyflawni trosedd.

Gwneir Gorchmynion Diogelu Coed gan yr awdurdod cynllunio lleol, y cyngor lleol fel arfer, i ddiogelu coed a choetir penodol rhag difrod a dinistr bwriadol.

Os nad oes angen trwydded cwympo coed gennym oherwydd bod eich gwaith wedi'i esemptio, bydd angen i chi ymgynghori â'ch awdurdod cynllunio lleol cyn dechrau ar y gwaith.

Dewch o hyd i wybodaeth bellach am Orchmynion Diogelu Coed ac ardaloedd cadwraeth neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.

Gweithio ar wrychoedd

Bydd angen i chi ymgeisio am drwydded cwympo coed os ydych yn cynllunio cwympo coed o fewn gwrych ac nad yw eich gwaith wedi'i gwmpasu gan esemptiadau cwympo coed.

Bydd angen i chi ymgynghori â'ch awdurdod cynllunio lleol os ydych yn bwriadu cael gwared â'ch gwrych. Mae hyn yn ofynnol o dan Reoliadau Gwrychoedd 1997.

Os ydych yn derbyn unrhyw gymorthdaliadau amaethyddol, gall gweithrediadau penodol ar wrychoedd arwain at doriad trawsgydymffurfio a chosb ariannol. Dylech drafod hyn gyda'ch cynghorydd coetir Glastir os oes gennych un a chysylltu'n uniongyrchol â'r awdurdod cynllunio lleol yn ôl y gofyn.

Henebion cofrestredig

Os ydych yn cynllunio cwympo coed a allai gael effaith ar heneb gofrestredig, gwiriwch a oes angen cael caniatâd gan Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) cyn i chi ddechrau.

Os ydych yn gwneud cais am drwydded cwympo coed, dylech ddweud wrthym os ydych wedi bod mewn cysylltiad â Cadw.

Cynllun rheoli coedwig

Fel perchennog neu reolwr coetir, efallai yr hoffech ystyried creu cynllun rheoli coedwig sy'n disgrifio sut rydych chi'n bwriadu rheoli'ch coedwig neu goetir yn gynaliadwy.

O fewn y cynllun hwn, gallwch fanylu ar gynigion cwympo coed hirdymor dros gyfnod o ddeng i ugain mlynedd a defnyddio'r cynllun cymeradwy i wneud cais am drwydded cwympo coed am hyd at ddeng mlynedd.

Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i greu cynllun rheoli coedwig i reoli'ch coetir yn gynaliadwy.

Cwympo coed o fewn cynllun Glastir

Os ydych chi'n cynnig cwympo coed neu deneuo coed fel rhan o gynllun Glastir, eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud cais am drwydded cwympo coed os oes angen un arnoch.

Cosbau ar gyfer cwympo coed heb drwydded

Mae'n drosedd cwympo coed trwyddedadwy heb gael trwydded neu ganiatâd dilys arall.

Gall hyn olygu, ar ôl euogfarn, ddirwy o hyd at £2,500 neu ddwywaith gwerth y coed, p'un bynnag yw'r uchaf. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy'n cymryd rhan mewn cwympo coed – er enghraifft, y perchennog, yr asiant, y gwerthwr pren neu'r contractiwr.

Os ydym yn fodlon fod y perchennog neu'r lesddeiliad wedi cyflawni trosedd, mae gennym y pŵer i gyflwyno hysbysiad ailstocio yn mynnu bod y tir o dan sylw yn cael ei ailblannu â choed. Mae gennym y pŵer hefyd i erlyn y troseddwr.

Mae hysbysiadau ailstocio yn ei gwneud yn ofynnol i goed newydd gael eu cynnal i safon dderbyniadwy am hyd at ddeng mlynedd. Os nad ydych yn cydymffurfio ag amodau eich trwydded cwympo coed neu hysbysiad ailstocio, mae gennym y pŵer i gyflwyno hysbysiad gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi gymryd camau gweithredu i fodloni'r amodau.

Mae'n drosedd peidio ag ufuddhau i hysbysiad gorfodi a gall arwain at gosb ddiderfyn.

Mae cwympo coed yn anghyfreithlon yn doriad trawsgydymffurfio a gall arwain at gosb ariannol yn cael ei gosod ar eich taliadau uniongyrchol. Mae ceisio marchnata pren a gafodd ei gwympo yn anghyfreithlon yn drosedd o dan Reoliadau Pren a Chynhyrchion Pren (Rhoi ar y Farchnad) 2013.

Diweddarwyd ddiwethaf