Caiff yr holl adar gwyllt, eu nythod a'u hwyau gwarchodaeth o dan Adran 1 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd). Mae'n drosedd i wneud y canlynol, yn fwriadol neu’n ddi-hid:

  • Lladd, niweidio neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt;
  • Cymryd, difrodi neu ddifa nyth unrhyw aderyn gwyllt tra bod y nyth honno dal mewn defnydd neu'n cael ei hadeiladu. Gwarchodir nythod yr eryr euraid, yr eryr môr a gwalch y pysgod drwy gydol y flwyddyn;
  • Cymryd neu ddifa wy aderyn gwyllt;
  • Meddu ar unrhyw aderyn gwyllt byw neu farw neu wy unrhyw aderyn gwyllt, neu unrhyw ran o aderyn byw neu farw.

Rhoddir gwarchodaeth ychwanegol i'r adar prin a restrir yn y Ddeddf lle mae'n drosedd i wneud y canlynol, yn fwriadol neu'n ddi-hid:

  • Aflonyddu ar aderyn sydd wedi'i restru yn Atodlen 1 wrth iddo adeiladu ei nyth, neu pan y bydd yr aderyn ar neu yn y nyth neu'n agos at nyth sy'n cynnwys wyau neu adar bach; neu
  • Aflonyddu ar aderyn ifanc sy’n ddibynnol ar aderyn sydd wedi'i restru yn Atodlen 1

Ceir nifer o eithriadau i'r troseddau a greuwyd gan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, gan gynnwys gweithredu o dan drwydded.

Trwyddedau cyffredinol a thrwyddedau penodol

Gallwn roi trwyddedau ar gyfer dibenion penodol, er mwyn i chi ymgymryd â'r weithred berthnasol heb dorri'r gyfraith. Rydym yn argymell y dylech wirio a yw'ch sefyllfa wedi'i chwmpasu gan drwydded gyffredinol cyn gwneud eich cais. Os nad yw trwydded gyffredinol yn cwmpasu eich sefyllfa, ystyriwch ddiben eich gweithgareddau a drwyddedir a chwblhewch y ffurflen gais berthnasol.

Wrth wneud cais i reoli adar gwyllt mae’n rhaid ichi ddarparu tystiolaeth fanwl o’r broblem sy’n codi, neu sy’n debygol o godi, sy’n golygu fod angen gweithredu. Os oes modd, dylid darparu tystiolaeth ar ffurf ffotograffau a fideo. Os na fedrwch chi ddarparu tystiolaeth o’r fath bydd arnoch angen rhoi rheswm pam.

Dibenion gwyddonol, ymchwil neu addysgol

Os oes angen trwydded arnoch at ddibenion gwyddonol, ymchwil neu addysgol, bydd angen i chi gwblhau un o'r ffurflenni cais hyn.

Ffurflen gais newydd
Adnewyddu - ffurflen gais
Ffurflen gais i ddiwygio trwydded
Ffurfen dempled ar gyfer canolwyr

Gosod modrwyon neu farciau

Os ydych yn modrwyo neu'n marcio adar, neu'n archwilio modrwyon neu farciau, ceir dau opsiwn yma:

Os oes angen trwydded arnoch ar gyfer modrwyo neu farcio adar gwyllt, bydd angen i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain.

Ar gyfer unrhyw brosiectau modrwyon neu farciau eraill:

Ffurflen gais newydd
Ffurfen dempled ar gyfer canolwyr
Ffurflen gais i ddiwygio trwydded

Rheoli adar

Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer rheoli adar gwyllt at ddibenion a restrir yn Adran 16 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Rhoddir y trwyddedau hyn ar gyfer y canlynol:

  • Gwarchod adar gwyllt
  • Gwarchod unrhyw gasgliad o adar gwyllt
  • Diogelu Iechyd y cyhoedd, diogelwch y cyhoedd, diogelwch yn yr awyr
  • Atal clefyd rhag lledaenu
  • Atal difrod difrifol i dda byw, bwydydd i dda byw, cnydau, llysiau, ffrwythau, tyfu coed, pysgodfeydd neu ddyfroedd mewndirol - oni bai eich bod yn ceisio rheoli adar sy'n bwyta pysgod.
  • Gwarchod fflora a ffawna

Os ydych am wneud cais am drwydded i reoli adar gwyllt, bydd angen i chi gwblhau un o'r ffurflenni cais hyn:

Ffurflen gais newydd AFB01

Ffurflen gais am wneud diwygiad (ffurflen ar ffurf dogfen Word)

Ailboblogi neu ailgyflwyno adar gwyllt

Os ydych yn ailboblogi neu'n ailgyflwyno adar gwyllt, gan gynnwys unrhyw waith bridio angenrheidiol, bydd angen i chi gysylltu â ni i geisio cyngor.

Heboga a magu adar 

Os hoffech wneud cais am drwydded ar gyfer heboga a magu adar, dylech lenwi a chyflwyno’r ffurflen ganlynol - FAL01 – Ffurflen Gais ar gyfer Heboga

Arddangosfa neu gystadleuaeth gyhoeddus

Cysylltwch â ni i geisio cyngor am unrhyw sefyllfa nad yw trwydded gyffredinol yn ei chwmpasu. 

Tacsidermi

Cyfeiriwch at y ddogfen, meddu ar a gwerthu rhywogaethau a warchodir

Cysylltwch â'r tîm trwyddedu rhywogaethau am gyngor ar unrhyw sefyllfa na chwmpesir

Ffotograffiaeth

Os ydych am wneud cais am drwydded i amharu ar adar Atodlen 1 ar nyth neu'n agos iddi at ddibenion ffotograffiaeth, bydd angen i chi gwblhau un o'r ffurflenni cais canlynol:

Ffurflen gais newydd
Adnewyddu - ffurflen gais
Ffurflen gais i ddiwygio trwydded

Pysgodfeydd ac adar sy'n bwyta pysgod

I wneud cais am drwydded i reoli adar sy'n bwyta pysgod, i atal difrod difrifol i bysgodfeydd, mae angen i chi gwblhau ffurflen gais ar gyfer adar sy'n bwyta pysgod

Cyn gwneud eich cais, bydd angen i chi gasglu data ar amlder ysglyfaethu pysgod a nifer yr adar sydd ynghlwm. 

Ar gyfer dyfroedd llonydd bach (o dan 20 hectar) casglwch ddata ategol gan ddefnyddio'r cofnod arsylwi adar ar gyfer dyfroedd llonydd bach. Bydd angen casglu’r data rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror bob blwyddyn a rhaid cynnwys deg neu fwy o ymweliadau safle wedi'u dyddio o leiaf d ridiau ar wahân.

Ar gyfer afonydd a dyfroedd llonydd mawr (dros 20 hectar), casglwch ddata ategol gan ddefnyddio'r cofnod arsylwi adar ar gyfer afonydd a dyfroedd llonydd mawr.

Diogelwch yn yr Awyr

Ceisiadau gan weithwyr meysydd glanio neu feysydd awyr i reoli adar gwyllt er mwyn sicrhau diogelwch yn yr awyr.

  • Ffurflen Gais ASB01 – ar gyfer meysydd awyr / meysydd glanio sydd heb dderbyn trwydded yn y flwyddyn ddiwethaf
  • Ffurflen Gais ASB02 – ceisiadau adnewyddu – ar gyfer meysydd awyr / meysydd glanio sydd wedi derbyn trwydded yn y flwyddyn ddiwethaf

Canllawiau

 Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i'ch helpu gyda'r testunau canlynol:

Ffurflenni adrodd diwedd trwydded

Amod unrhyw drwydded a roddir yw bod rhaid cwblhau ffurflen adrodd diwedd trwydded o fewn pedair wythnos i'r drwydded ddod i ben.

Rheoli Adar - ffurflen adrodd diwedd trwydded – ffurflen adrodd ar gyfer trwyddedau i reoli adar gwyllt at ddibenion gwarchod adar gwyllt, gwarchod fflora a ffawna, gwarchod unrhyw gasgliad o adar gwyllt, diogelu iechyd/diogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch yn yr awyr, atal clefyd rhag lledaenu neu atal difrod difrifol i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau, ffrwythau, tyfu coed, pysgodfeydd neu ddyfroedd mewndirol.

Adar sy'n bwyta pysgod – ffurflen adrodd diwedd trwydded – ffurflen adroddiad ar gyfer trwyddedau i reoli adar sy'n bwyta pysgod.

Adar: ffurflen adroddiad ffurflen adroddiad ar gyfer trwyddedau a roddir ar gyfer dibenion gwyddonol, ymchwil neu addysgol, neu ar gyfer modrwyo neu farcio adar gwyllt neu at ddiben ffotograffiaeth.

Ymddiriedolaeth adareg prydain cynllun cofnodi nythod – cyflwyno eich cofnodion i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain.

Cyngor pellach

Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni trwy e-bost, neu trwy ffonio 0300 065 3000.

Diweddarwyd ddiwethaf