Gwarchodir pob rhywogaeth o adar gwyllt yng Nghymru. Rydym yn cyflwyno trwyddedau cyffredinol er mwyn rhoi caniatâd i chi gynnal gweithgareddau a fyddai'n anghyfreithiol fel arall, heb yr angen i wneud cais am drwydded benodol. Caiff trwyddedau cyffredinol ond eu cyflwyno at ddiben penodol ac mae’r rhan fwyaf yn gyfyngedig i rai rhywogaethau.

Os ydych yn bwriadu defnyddio trwydded gyffredinol, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gweithredu o fewn darpariaethau'r drwydded gyffredinol honno. Eich cyfrifoldeb chi yw deall a dilyn amodau'r drwydded. Gall methiant i gydymffurfio â'r amodau hyn fod yn drosedd.

Trwyddedau Cyffredinol i 2023

Trwydded Gyffredinol 001 - Trwydded i ladd neu gymryd rhai adar gwyllt i atal difrod difrifol i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau neu i atal clefyd rhag lledaenu i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau. 

Trwydded Gyffredinol 002 - Trwydded i ladd neu gymryd rhai adar gwyllt at ddibenion gwarchod iechyd y cyhoedd ac atal clefyd rhag lledaenu i bobl.

Trwydded Gyffredinol 004 - Trwydded i ladd neu gymryd rhai adar gwyllt at ddibenion cadwraeth adar gwyllt.

Trwydded Gyffredinol 005 - Trwydded i ganiatáu lladd neu gymryd neu ddinistrio wyau hwyaden goch.

Trwydded Gyffredinol 006 - Trwydded i gymryd wyau adar o flychau nythu wedi eu gadael.

Trwydded Gyffredinol 007 - Trwydded i gadw adar gwyllt yn rhestredig ar atodlen 4 at ddiben eu hadfer.

Trwydded Gyffredinol 008 - Trwydded i gymryd wyau hwyaden wyllt i fagu a rhyddhau.

Trwydded Gyffredinol 009 - Trwydded i ryddhau adar ar atodlen 9 sydd wedi bridio yn y gwyllt.

Trwydded Gyffredinol 010 - Trwydded i ganiatáu gwerthu rhai adar byw a fagwyd mewn caethiwed.

Trwydded Gyffredinol 011 - Trwydded i ganiatáu gwerthu ac arddangos llinos flodiog.

Trwydded Gyffredinol 012 - Trwydded i werthu adar marw.

Trwydded Gyffredinol 013 - Trwydded i ganiatáu arddangos adar gwyllt byw penodol sydd wedi’u bridio mewn caethiwed mewn sioe gystadleuol ac i ganiatáu cadw adar penodol mewn cawellau arddangos at ddibenion eu hyfforddi.

Trwydded Gyffredinol 014 - Trwydded i ganiatáu deori wyau adar sy’n atodlen 4 a chadw’r cywion sy’n deillio ohonynt am hyd at 15 niwrnod heb eu cofrestru.

Trwydded Gyffredinol 015 - Trwydded i labordai gadw gwaed a samplau meinwe a gymerwyd yn ystod ymchwiliad troseddau.

Trwydded Gyffredinol 016 - Trwydded i gymryd adar gwyllt penodol o safleoedd bwyd at ddiben diogelu iechyd a diogelwch cyhoeddus.

Trwydded Gyffredinol 018 - Trwydded i feddu ar sbesimenau marw at ddibenion gwaith ymchwil ac addysgol ac at ddibenion unrhyw arddangosfa gyhoeddus.

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy e-bost, neu trwy ffonio 0300 065 3000.

Trwyddedau Adar Eraill

Gall bwrw ymlaen â gweithgareddau sy'n effeithio ar adar gwyllt fod yn drosedd os nad oes caniatâd yn y drwydded gyffredinol. Os ydych am gynnal unrhyw un o'r gweithrediadau hyn, dylech wneud cais am drwydded benodol. Mae gwybodaeth bellach ynghylch trwyddedau adar ar gael ar ein tudalen ar-lein.

Diweddarwyd ddiwethaf