Cyflwyniad

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn croesawu ymweliadau wedi’u rheoli’n dda, hunan-dywysedig gan grwpiau ac unigolion o bob oed a gallu. Mae dysgu yn yr amgylchedd naturiol yn darparu llawer o fanteision, gan gynnwys gwell lles meddyliol a chorfforol, gan ddod â phynciau cwricwlwm yn fyw a darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau, ymchwil a gwaith prosiect. Rydym am annog dysgu am yr amgylchedd naturiol a rheolaeth gynaliadwy o’n hadnoddau naturiol. Yma, rydym wedi amlinellu sut y gallwn gyflawni hyn.

Diffiniad

Mae ymweliadau dysgu a sgiliau â thir a reolir gan CNC gan unigolion neu grwpiau, sy’n cynnwys gweithgareddau lle mae dysgu neu astudio yn digwydd yn yr amgylchedd naturiol, neu am yr amgylchedd naturiol, i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau pellach. Mae'r rhain wedi'u categoreiddio fel a ganlyn:

  • Astudiaeth neu waith prosiect unigol - Astudiaeth, ymchwil a gwaith prosiect – naill ai ymweliad unigol neu fynych
  • Teithiau cerdded addysgol - Teithiau cerdded tywysedig ar dir a reolir gan CNC,  yn cynnwys teithiau cerdded noddedig a theithiau cerdded dan arweiniad
  • Dysgu awyr agored - Defnyddio’r amgylchedd naturiol fel adnodd dysgu – yn cynnwys gweithgareddau fel astudiaethau maes a chwarae naturiol
  • Rhaglenni a digwyddiadau wedi’u trefnu - Gweithgareddau fel adeiladu tân, coginio yn yr awyr agored, torri a symud deunydd naturiol

Nodwch: Nid yw mesur tir na monitro’n cael ei gwmpasu gan y datganiad hwn

Lle gallwch fynd heb ein caniatâd

Mae hawl gyfreithiol gan ymwelwyr i gyflawni gwaith prosiect neu astudio unigol, teithiau cerdded addysgol a dysgu awyr agored ar Hawliau Tramwy neu Dir Mynediad Agored, oni bai bod hyn am fuddion masnachol. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol bod ein safleoedd yn boblogaidd iawn ac oherwydd bod llawer yn weithredol, gellir eu cau weithiau ar fyr rybudd neu fawr o rybudd. Er mwyn sicrhau ymweliad diogel a llawn mwynhad, mae'n well cysylltu â ni ymlaen llaw fel y gellir archebu’ch ymweliad ar y safle.

Drwy gysylltu, gallwn hefyd eich arwain at adnoddau dysgu a gwybodaeth iechyd a diogelwch sy’n benodol i safle ar gyfer eich ymweliad. Gall darparwr dysgu hefyd weithredu ar y safle a gallant arwain eich ymweliad am dâl.

Pryd y byddwch angen caniatâd gennym

  • Bydd angen ein caniatâd arnoch os ydych yn cyflawni unrhyw weithgaredd addysgol ar gyfer buddion masnachol - boed i chi neu sefydliad. Gallai hyn beri tâl hefyd
  • Ar gyfer unrhyw weithgaredd addysgol lle rydych yn bwriadu defnyddio ardal warchodedig, neu lefydd lle nad oes gennych hawl mynediad
  • Os oes angen allwedd rhwystr arnoch i gael mynediad i safle
  • Mae rhaglenni a digwyddiadau wedi’u trefnu angen ein caniatâd bob amser

Sut rydym yn cefnogi ymweliadau dysgu a sgiliau

  • Byddwn yn dilyn ein Hegwyddorion Arweiniol ar gyfer cynnwys y gymuned gyda thir rydym yn ei reoli
  • Mae ein gwefan yn darparu gwybodaeth fanwl am ein holl brif safleoedd i gefnogi ymweliadau addysgol
  • Os oes angen ein caniatâd neu os ydym yn ymwybodol o’ch ymweliad, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael gwybod am unrhyw beryglon hysbys a all fod yn berthnasol ar ddiwrnod eich ymweliad. Byddwn hefyd yn rhoi copi i chi o nodyn gwybodaeth y safle ar gyfer eich asesiad risg
  • Rydym yn rheoli ein tir i ddarparu safleoedd diogel a hygyrch ar gyfer dysgu a datblygu sgiliau, wrth gydymffurfio â Safon Sicrwydd Coetiroedd y Deyrnas Unedig. Gallai hyn gynnwys tynnu strwythurau adeiledig, deunyddiau, lleiniau neu eitemau eraill sydd wedi'u sefydlu fel rhan o'ch prosiect neu ymweliad. Rhowch wybod i ni os ydych chi'n bwriadu gadael unrhyw beth ar y safle fel y gallwn fod yn ymwybodol ohono

Beth fydd angen i chi ei wneud

  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad, gan gymryd gofal yn arbennig i beidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad – mae hyn yn cynnwys mynd â’ch holl sbwriel gartref ac osgoi llygru tir a chyrsiau dŵr
  • Cymerwch nodyn o Ganllaw Ymweliadau Addysg Llywodraeth Cymru
  • Bod â chymwysterau ac yswiriant addas i arwain eich gweithgaredd addysgol; efallai y byddwn yn gofyn i chi roi tystiolaeth i ni o hyn
  • Trefnwch gynlluniau lles, iechyd a diogelwch perthnasol i sicrhau diogelwch eich grŵp. Gall mannau awyr agored fod yn amgylcheddau peryglus os nad yw ymweliadau wedi’u cynllunio’n briodol, felly bydd angen i chi ystyried dillad ymwelwyr, darpariaeth cymorth cyntaf a chymhareb oedolyn cyfrifol i gyfranogwr
  • Cadwch at ein holl arwyddion. Mae tir a reolir gan CNC yn aml yn amgylchedd gwaith a gall methu â dilyn arwyddion diogelwch fod yn beryglus i’r grŵp a rheolwyr tir. Dylech osgoi ardaloedd lle mae gwaith ar y gweill a chadw’r grŵp gyda’i gilydd bob amser
  • Ymgeisiwch mewn da bryd os ydych yn meddwl bod angen ein caniatâd. Ar gyfer rhaglenni a digwyddiadau a drefnir, bydd angen mwy o amser ymlaen llaw
  • Dilynwch ganllawiau CNC ar oleuo tân, gweler y Datganiad Sefyllfa Tanau Agored. Rhaid rheoli tanau yn ofalus er mwyn cyfyngu ar eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol
  • Os ydych yn meddwl am dorri a thynnu deunydd naturiol, gweler ein Datganiad Sefyllfa Ffeuau, Rhaffau a Siglenni i atal difrod i gynefinoedd ac aflonyddu ar rywogaethau
  • Dilynwch ein canllawiau Cadwch ef yn Lân i ddiogelu rhywogaethau ymledol rhag lledaenu a bygythiadau bioddiogelwch. Gall codi a chludo sylwedd planhigion gynyddu'r risg o halogiad yn fawr
  • Gofalwch nad ydych yn difrodi llystyfiant. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd sensitif fel coetir hynafol lled-naturiol, twyni tywod a chynefinoedd cors. Cofiwch fod rhai rhywogaethau yn cael eu hamddiffyn rhag casglu, dadwreiddio, difrodi a gwerthu
  • Byddwch yn ofalus bob amser i beidio ag aflonyddu ar adar neu anifeiliaid. Maent yn arbennig o agored i niwed yn ystod y tymor bridio, pan fyddant gyda’u cywion ac yn y gaeaf

Sut y gallwch ymgeisio am ganiatâd

Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.

Gwneud cais ar gyfer ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir

Pwy i gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth

Diweddarwyd ddiwethaf