Cŵn ar ein Tir
Cyflwyniad
Mae cerdded cŵn yn cyfrif am bron i hanner yr holl ymweliadau â’r awyr agored a hyd at 40% o ymweliadau â’n stad coetir. Rydym yn deall y manteision iechyd a lles a roddir i bobl yng Nghymru. Rydym am annog cerdded cŵn yn gyfrifol ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac rydym wedi amlinellu, yma, sut y gallwn gyflawni hyn.
Diffiniad
Yma, eglurwn y mathau o weithgareddau y mae ymwelwyr gyda chŵn yn eu gwneud ar dir a reolir gan CNC. Mae hyn yn cynnwys:
- Unigolion a grwpiau bach yn cerdded cŵn - Unigolion yn cerdded neu’n rhedeg gyda chŵn, neu’n cynnal hyfforddiant anffurfiol dysgu cŵn
- Digwyddiadau ffurfiol neu gerdded cŵn yn fasnachol - Rhedeg trawsgwlad gyda chŵn, hyfforddiant cŵn ac ystwytho, cerdded cŵn yn fasnachol neu ymarfer corff cŵn diogelwch
- Rasio cŵn neu hyfforddi â slediau - Rasio / hyfforddiant sled â chŵn
Nodwch: Nid yw’r datganiad hwn yn cynnwys hela gyda chŵn neu ymarfer corff i gnud o gŵn hela.
Lle gallwch fynd heb ein caniatâd
Mae gan unigolion a grwpiau bychain sy’n cerdded cŵn hawl i ddefnyddio'r holl hawliau tramwy cyhoeddus a phob ardal a ddynodir fel Tir Mynediad Agored. Fodd bynnag, mae hyn ar yr amod bod cŵn bob amser dan reolaeth agos ar dir mynediad ac yn parhau i fod ar dennyn o amgylch da byw (1 Mawrth tan 31 Gorffennaf) neu fel arall yn agos at dda byw. Gall cyfyngiadau ac is-ddeddfau hefyd ei gwneud yn ofynnol i gŵn fod ar dennyn neu eu heithrio o’r safle ar adegau sensitif o’r flwyddyn neu at ddibenion rheoli tir.
Pryd y byddwch angen caniatâd gennym
- Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd os hoffech gynnal digwyddiad neu weithgaredd cerdded cŵn yn fasnachol ar ein tir.
- Bydd rasio neu hyfforddi cŵn â slediau angen ein caniatâd bob amser.
Sut rydym yn cefnogi ymwelwyr â chŵn
- Byddwn yn dilyn ein Hegwyddorion Arweiniol (dolen gyswllt) ar gyfer cynnwys y gymuned gyda thir rydym yn ei reoli.
- Yn ogystal, rydym yn rheoli gweithgareddau cerdded cŵn yn unol â’n cytundeb gyda’r Clwb y Cytiau Cŵn a’r Comisiwn Coedwigaeth.
- Rydym yn gwneud ymwelwyr â chŵn yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r llefydd sy’n addas i’w hanghenion a’u croesawu i’n canolfannau ymwelwyr
- Rydym yn anelu at alluogi gweithgareddau a chwaraeon sy’n gysylltiedig â chŵn wrth gydbwyso anghenion eraill.
- Rydym yn cefnogi anghenion cŵn cymorth a’u partneriaid dynol.
- Rydym yn rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i gŵn gael ymarfer corff heb fod ar dennyn ar dir a reolir gan CNC, cyn belled â’u bod yn cael eu cadw o dan reolaeth effeithiol.
- Weithiau, am resymau rheoli tir neu gadwraeth, mae angen i ni gyfyngu mynediad gyda chŵn ar rai o’r safleoedd a reolwn, ond rydym yn rhoi arwyddion clir o hyn ac yn ceisio nodi llwybrau amgen.
Beth fydd angen i chi ei wneud
- Byddwch yn gyfrifol wrth ymweld â’n tir, gan ddilyn y Cod Cefn Gwlad a’r Cod Cerdded Cŵn bob amser.
- Dilynwch ein canllawiau Cadwch ef yn Lân i atal rhywogaethau ymledol rhag lledaenu ac achosi bygythiadau bioddiogelwch.
- Peidiwch â gadael i'ch ci fynd at fywyd gwyllt neu dda byw, neu fynd ar eu holau. Ar adegau a llefydd penodol, mae cŵn yn gallu achosi niwed sylweddol i adar ac anifeiliaid eraill. Maent yn arbennig o agored i niwed yn ystod y tymor bridio ac yn y gaeaf.
- Parchwch ddefnyddwyr eraill ar ein tir bob amser. Mae rhai ymwelwyr yn anghyfforddus gyda chŵn a gall hyn effeithio'n negyddol ar eu mwynhad. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer y beicwyr neu’r rhai sy’n marchogaeth, lle gall ymddygiad ci drafferthu'r un sydd ar feic neu geffyl, neu achosi aflonyddwch yn ystod digwyddiadau mawr neu weithgaredd masnachol.
- Cadwch at ein holl arwyddion. Mae tir a reolir gan CNC yn aml yn amgylchedd gwaith a gall methu â dilyn arwyddion diogelwch fod yn beryglus i chi, eich ci a’r rheolwr tir.
- Rhowch faw eich ci mewn bag a biniwch ef bob tro, fe wnaiff unrhyw fin. Mae baw cŵn yn annymunol i ddefnyddwyr eraill, yn gallu cludo clefyd ac yn achosi bod maeth yn cyfoethogi mewn rhai safleoedd sensitif. Mae baw cŵn yn broblem ger ardaloedd parcio a mynedfeydd i'r safle.
- Os ydych yn trefnu digwyddiad, rhowch ddigon o rybudd i ni a pheidiwch â chyhoeddi dyddiadau a lleoliadau nes eu bod wedi eu cadarnhau gyda ni.
Sut y gallwch ymgeisio am ganiatâd
Fel arfer bydd yn cymryd hyd at 12 wythnos i asesu cais a chwblhau ymgynghoriad mewnol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich gweithgaredd neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac na fydd yn effeithio ar eraill sy’n defnyddio neu’n gweithio ar ein tir.
Gwneud cais ar gyfer ffilmio, trefnu digwyddiad neu gynnal prosiect ar ein tir
Pwy i gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch wybod mwy ar y dolenni canlynol: