Manylion e-werthiannau

  • Bydd CNC yn cyflwyno nifer o Lotiau sydd ar gael ar gyfer gwerthiant tendr agored, yn un o bedwar digwyddiad eWerthu drwy gydol y flwyddyn, fel Lotiau Contract Coed ar Ochr y Ffordd, neu fel Lotiau Contract Gwerthu Coed sy’n Sefyll.   
  • Bydd cynigion, sy’n cael eu mynegi fel pris y dunnell, yn cael eu cyflwyno ar gyfer y cyfanswm cyfan a amcangyfrifir ym mhob lot.
  • Bydd pob lot ar gyfer contract unigol, ar gyfer cyfanswm a amcangyfrifir o bren a fynegir mewn tunelli. Bydd gwybodaeth am lotiau yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen er mwyn i gynigydd lunio cynnig (mapiau, amodau penodol).
  • Mae disgwyl i gwsmeriaid newydd fod yn gymwys i wneud cais drwy Ffurflen Cymhwyster Gwerthu Coed, a fydd yn cynnwys holiadur ar arferion Iechyd a Diogelwch. Bydd cynigion gan gwsmeriaid anghymwys yn cael eu diystyru.
  • Ni fydd ceisiadau amodol neu amrywiol yn cael eu derbyn. Mae'r amodau penodol sy'n berthnasol i bob lot yn cael eu cyflwyno yn y manylion gwerthu.
  • Byddwn ni'n dyfarnu contractau i'r cynigydd uchaf, sy’n bodloni'r meini prawf cymhwyso.
  • Ni fydd y contractau hyn yn para am fwy na 12 mis fel arfer. Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod gofyn ymestyn oes contract i mewn i ail flwyddyn. Gallai hyn fod oherwydd bod maint y contract neu gyfyngiadau safle-benodol sy’n effeithio ar amseru gweithrediadau/cynhyrchu pren. Byddai estyniad i gontract trwy gytundeb y ddau barti.

Pren caled

Bydd unrhyw gontractau gwerthu pren caled sy’n sefyll a chontractau pren caled ar ochr y ffordd yn debygol o gael eu cynnig trwy eWerthiant. Mae’r pren hwn fel arfer yn cael ei farchnata fel cynnyrch pren caled penodol (boncyffion, sglodion coed, tanwydd coed).

Pren crwn bach

Ar gyfer tendr contract coed ar ochr y ffordd, mae pren crwn bach yn cael ei ddiffinio fel pren â diamedr ei frig yn ddim llai na 6cm o dan y rhisgl.

Fel arfer, caiff ei ddefnyddio ar gyfer mwydion papur, sglodion pren, gwasarn anifeiliaid, deunydd i orchuddio pridd, tanwydd coed biomas. Bydd unrhyw ddeunydd posib sy’n addas ar gyfer ffensio wedi'i dynnu i ffwrdd eisoes a'i werthu ar wahân.

Pren ar gyfer marchnadoedd arbenigol

Mae’r tîm Gwerthu a Marchnata yn gweithio i ddatblygu cronfa o gwsmeriaid sydd â diddordeb mewn:

  • Cynhyrchu cynhyrchion pren sy'n cael eu marchnata fel rhai o darddiad Cymreig
  • Mân rywogaethau o goed conwydd, er enghraifft Ffynidwydd Douglas, Hemlog y Gorllewin a’r Gochwydden
  • Boncyffion diamedr mawr gyda diamedr y bôn yn fwy na 70cm
  • Polion pren hir wedi’u torri i hydoedd ar hap, gyda diamedr y brig yn fwy na 30cm. Ar hyn o bryd, rydym yn marchnata pren megis boncyffion hir (3.7m - 13.5m) o Ffynidwydd Douglas
  • Tocion neu sglodion ar gyfer y farchnad biodanwydd
  • Unrhyw gynhyrchion arbenigol penodol (ffyn chwarae hyrli, cynhyrchion adeiladu cychod, cabanau pren ac ati)

I drafod eich gofynion, cysylltwch â’r ddesg gymorth eWerthiant Coed.  

Tanwydd coed

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn llawer o ymholiadau ynglŷn â chyflenwi pren ar gyfer tanwydd coed a choed tân, yn arbennig o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Nid ydym ar hyn o bryd yn gallu cynnig coed tân i'w werthu at ddibenion domestig a dim ond trwy lotiau a gynigir yn ystod ein digwyddiadau eWerthiant y gellir prynu unrhyw barseli Tanwydd Coed. Bydd angen prosesu pellach ar y parseli pren hyn cyn eu gwerthu ymlaen i farchnadoedd cyfanwerthu neu ddomestig. Mae manylion y digwyddiadau hyn i'w gweld ar y tudalennau gwe eWerthiant.

Diweddarwyd ddiwethaf