Buddion plannu coed a chreu coetir

Mae plannu coed yn gallu cynnig buddion ar gyfer eich tir neu’r gymuned leol ac ar gyfer bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Nid oes rhaid i chi fod yn berchen ar fferm neu ardal eang o dir i blannu coed. Gall un goeden neu grŵp bach o goed wneud gwahaniaeth positif i’ch gweithle, cartref, ysgol neu gymuned.

Buddion coetir i’ch fferm ac i’ch busnes

Gall plannu coed gynnig buddion i’ch fferm a’ch tir gan gynnwys:

  • ynysu rhag sŵn
  • darparu preifatrwydd
  • creu cysgod ar gyfer da byw ac adeiladau
  • gwella systemau cynhyrchu da byw
  • lleihau effaith y gwynt
  • rheoli perygl llifogydd
  • lleihau eich ôl troed carbon
  • darparu cynnyrch pren fel pyst ffensio, giatiau a thanwydd
  • lleihau erydiad pridd
  • helpu i atal tir rhag mynd yn ddwrlawn

Os ydy'ch fferm hefyd yn fusnes, gall creu coetir hefyd gynnig cyfleoedd newydd trwy:

  • werthu pren, cynnyrch pren neu goed tân
  • saethu adar hela / anifeiliaid hela
  • twristiaeth ar y fferm

Y Cod Carbon Coetiroedd

Safon wirfoddol ar gyfer prosiectau creu coetiroedd yw’r Cod Carbon Coetiroedd. Os gallwch ddangos eich bod yn bodloni’r safon, gallwch werthu carbon eich coetir ar ffurf Unedau Carbon Coetiroedd.

Buddion coetir i’ch cymuned leol

Mae coetiroedd yn gallu helpu i wella iechyd a lles. Maen nhw’n cynnig lleoliadau ar gyfer chwarae, addysg a dysgu, gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau cymunedol. Mae prosiectau coetir cymunedol yn ffordd wych i bobl a busnesau lleol ddod at ei gilydd i greu coetir yn eu hardal leol.

Buddion coetir i fywyd gwyllt

Mae coetiroedd yn darparu cynefin cyfoethog ar gyfer planhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys peillwyr a rhywogaethau prin.

Buddion coetir i’r amgylchedd

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw plannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030 a 180,000 hectar erbyn 2050 i helpu Cymru i gyflawni targedau lleihau allyriadau carbon. Mae hwn yn cyfateb i blannu o leiaf 5,000 hectar y flwyddyn. 

Mae coetiroedd yn gwella ansawdd yr amgylchedd gan eu bod yn:

  • helpu i ddiogelu ansawdd cyflenwadau dŵr yfed
  • rheoli llifogydd
  • amsugno llygryddion niweidiol a gwella ansawdd yr aer
  • cynnig cysgod ac yn amsugno sŵn
  • sefydlogi priddoedd, lleihau erydiad a thirlithriadau

Plannwch goed i greu coetir

Gallwn eich helpu i ddechrau plannu coed a chreu’ch coetir eich hun. Gall Llywodraeth Cymru a Coed Cadw hefyd ddarparu grantiau a rhagor o gymorth.

Diweddarwyd ddiwethaf