Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru - 24 i 30 Ebrill 2023

 

Ymunwch â ni i ddathlu gofod chwarae a dysgu gorau Cymru – ein hamgylchedd naturiol! 

Ers 2019, bob gwanwyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn dod at ei gilydd i drefnu #WythnosDysguAwyrAgoredCymru, sy’n gyfle gwych i ddangos sut y gallwn ni i gyd elwa o ddysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer. 

Y thema eleni yw dysgu egnïol yn yr awyr agored, gan annog dysgwyr o bob oed i ddod yn unigolion iach, hyderus. 

Pwy all ymuno? 

Gall unrhyw un gymryd rhan!  P’un a ydych chi’n addysgwr, gofalwr, rhiant, aelod o’r teulu, aelod o’r gymuned, person ifanc neu blentyn, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cynllunio i fynd allan a mwynhau treulio amser yn archwilio byd natur yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.  

Pam ddylwn i gymryd rhan? 

Mae ymchwil o bob rhan o'r byd yn dangos fod bod allan yn yr amgylchedd naturiol a chysylltu â natur yn dda i ni.  Nod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yw cefnogi pobl o bob oed i ddatblygu ymddygiadau dysgu, iechyd a lles cadarnhaol a fydd yn para gydol eu hoes.  Rydyn ni wedi cynhyrchu set o bosteri i ddangos manteision niferus cysylltu â byd natur i’ch helpu i ddarganfod mwy: 

Beth ddylwn i ei wneud?  

Does dim rhaid iddo fod yn gymhleth nac yn gostus.  Ewch ati i ddefnyddio eich synhwyrau neu ddysgu rhywbeth newydd.  Rhowch y sgrin i gadw ac ewch â'ch hun neu'ch teulu allan ar y penwythnos, arafwch a chanolbwyntiwch ar yr hyn sy'n tyfu'n lleol.  Gallech fesur uchder neu oedran coeden fel rhan o wers mathemateg.  Os ydych chi’n mynd allan i'r arfordir beth am edrych ar ffurfiant twyni tywod neu roi cynnig ar ychydig o fowlio ar y traeth?  P'un a ydych chi'n edrych ar yr hyn sy'n byw yn eich gardd neu'ch pwll, neu'n gwneud darn o gelf naturiol, mae'r amgylchedd naturiol yn lle gwych ar gyfer chwarae a dysgu egnïol.  

Edrychwch ar ein syniadau syml sy'n addas i deuluoedd ar gyfer gweithgareddau, sydd ar gael yma, neu edrychwch ar ein tudalennau gwe sy'n llawn gweithgareddau a syniadau dysgu trawsgwricwlaidd yma.    

Mae gennym ni amrywiaeth o fideos byr i brocio’ch dychymyg ac i roi ychydig o ysbrydoliaeth i chi: 

Cofiwch ofalu am ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr ac ymddwyn yn gyfrifol wrth fwynhau treulio amser yn yr amgylchedd naturiol, dilynwch God Cefn Gwlad Cymru. 

Ble dylwn i fynd? 

Mae’n syml, gallwch gymryd rhan yn #WythnosDysguAwyrAgoredCymru yn eich gardd, parc lleol, coetir, traeth, cae chwarae, ystafell ddosbarth awyr agored, gwarchodfa natur, tir comin, mawndir, cae neu fan natur. Mae'r dewisiadau yn ddiddiwedd. Gallwch aros yn lleol neu gynllunio antur ymhellach i ffwrdd, efallai.

Ddim yn siŵr ble i fynd? Edrychwch ar ein tudalen we Ar Grwydr neu ewch i MapDataCymru am ysbrydoliaeth 

Pryd mae’n digwydd eto? 

Cliriwch eich dyddiadur a nodwch y dyddiadau, bydd Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn cael ei chynnal rhwng 24 a 30 Ebrill 2023.  Digon o amser i feddwl am sut y byddwch yn ymuno. 

Sut alla i rannu fy antur ac ymuno â'r dathliadau? 

Waeth pa mor fawr neu fach, pa mor lleol, cenedlaethol neu fyd-eang fydd eich antur, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n rhannu eich gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored!  Defnyddiwch yr hashnod #WythnosDysguAwyrAgored i ledaenu'r llawenydd!  

Diweddarwyd ddiwethaf