Casglwch hadau o goed i godi arian i’ch grŵp addysg

Bob blwyddyn rydym yn cynnal ein hymgyrch Miri Mes er mwyn amlygu pwysigrwydd casglu hadau a helpu i dyfu rhagor o goed o hadau sydd wedi’u casglu’n lleol.

Bydd y mes a gesglir yn ein helpu i dyfu coed brodorol o hadau o stoc goed iach, lleol, ac annog dysgwyr mawr a bach i fynd allan yn yr awyr iach yn yr hydref a chysylltu ag amgylchedd naturiol arbennig Cymru.

Miri Mes 2022 – y canlyniadau!

Diolch enfawr i’r 22 lleoliad addysg a gymerodd ran yn ein hymgyrch Miri Mes 2022. Casglwyd ychydig dros 3/4 tunnell o fes gan gasglu £3316.16 er budd y lleoliadau addysg aeth ati i dorchi eu llewys, cofleidio'r awyr iach a sgwrio'r tir am fes!

Llongyfarchiadau i Ysgol Pant Pastynog, o Brion yn Sir Ddinbych sydd wedi ennill y Wobr Fesen Ddigidol gyntaf erioed. Cyflwynir y wobr hon i'r lleoliad addysg sy'n rhannu'r blog fideo amgylcheddol gorau yn dogfennu eu hantur Miri Mes. Mae'r ysgol wedi derbyn taleb o £150 am ei hymdrechion. Llongyfarchiadau i Ysgol Maesglas, Treffynnon, Sir y Fflint ac Ysgol Calon y Dderwen, Y Drenewydd, Powys sydd wedi cyd-ennill Gwobr y Fesen Aur. Ansawdd nid nifer; dyfarnwyd y wobr hon i'r ddau leoliad (roedd yn amhosib dewis rhyngddyn nhw!) gan fod y feithrinfa goed wedi penderfynu bod y ddwy Ysgol wedi casglu mes o'r ansawdd gorau.

Sut ydw i’n cymryd rhan ym Miri Mes?

Mae croeso i grwpiau addysg yng Nghymru neu unrhyw un sy’n codi arian ar gyfer grwp addysg Cymraeg lleol gymryd rhan. 

Ailedrychwch ar y dudalen hon yn yr hydref 2023 i gofrestru.

Ydych chi’n chwilio am adnoddau dysgu am goed a choetiroedd? 

Er mwyn cael cynifer o gyfleoedd dysgu ag y bo modd wrth gymryd rhan yn ein hymgyrch Miri Mes, edrychwch ar ein tudalen we Coed a choetiroedd, lle ceir adnoddau a chynlluniau gweithgaredd sy’n addas i ddysgwyr o bob oedran, gan gwmpasu popeth o sut i fesur taldra coeden i gyfarwyddiadau ynglŷn â thyfu mesen.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf