Adolygiad Llifogydd Arfordirol Cymru (2014)
Amcangyfrifir bod gwerth £8.1m o ddifrod wedi’i achosi i amddiffynfeydd arfordirol Cymru yn ystod stormydd mis Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014. Nid yw hyn yn cynnwys difrod i strwythurau sy’n eiddo preifat, fel y rhai sy’n eiddo i Network Rail.
Yn 2014 cyhoeddwyd adroddiad gennym ar y llifogydd, gan ddefnyddio gwybodaeth gan bob awdurdod lleol ar hyd arfordir Cymru, yn ogystal â sefydliadau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r arfordir ac undebau'r ffermwyr.
Roedd yr adolygiad dau gam o Lifogydd Arfordirol Cymru yn edrych ar yr effeithiau (Cam 1) a'r gwersi a ddysgwyd (Cam 2) yn sgil y stormydd a drawodd Cymru ar 5 Rhagfyr 2013 a rhwng 3 a 6 Ionawr 2014. Roedd yn nodi 47 o argymhellion unigol er mwyn helpu i ddarparu gwasanaeth rheoli llifogydd ac erydu arfordirol cadarnach i Gymru.
Effaith y stormydd
Adroddiad Cam 1 – asesiad o effeithiau a nodwyd:
- Dioddefodd 315 o gartrefi lifogydd uniongyrchol ac effeithiwyd ar 575 o gartrefi eraill gan nad oedd pobl yn gallu cael mynediad i’w heiddo gan eu bod wedi eu hamgylchynu â llifddwr.
- Achosodd y stormydd ddifrod i amddiffynfeydd arfordirol mewn tua 175 o leoliadau ar hyd a lled Cymru.
- Dioddefodd tua 360 hectar o dir ffermio o ganlyniad i lifogydd, gan gynnwys 200ha yn ardal Llanbedr yng Ngogledd Cymru.
- Er bod yr effeithiau uniongyrchol ar y rhai dan sylw yn ddifrifol ac yn ofidus iawn, a’r costau atgyweirio yn sylweddol, gallent fod wedi bod yn llawer gwaeth.
- Mae buddsoddiad sylweddol mewn amddiffynfeydd arfordirol, gwelliannau yn y gallu i ragweld llifogydd a rhybuddio rhag llifogydd, a gwelliannau yn y modd y mae sefydliadau a chymunedau yn gweithio gyda’i gilydd wedi helpu i leihau effeithiau’r stormydd hyn.
- Amcangyfrifwyd bod amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi cadw 74,000 o gartrefi’n ddiogel, gan olygu fod llai na 1% o’r eiddo a allai fod wedi dioddef llifogydd wedi dioddef llifogydd mewn gwirionedd.
- Roedd amddiffynfeydd hefyd wedi helpu i gadw 34,000 hectar o dir ffermio, sef oddeutu hanner maint Ynys Môn, rhag cael ei foddi.
Yn ogystal cynhaliwyd archwiliad gennym a oedd yn edrych ar yr effaith ar fywyd gwyllt ac ar safleoedd cadwraeth arfordirol. Mae hyn yn nodi'r gwaith ychwanegol sydd ei angen i wella ein hymateb i effeithiau stormydd arfordirol yn y dyfodol a'n dealltwriaeth ohonynt.
Argymhellion yr Adolygiad
Bu stormydd mis Rhagfyr 2013 a dechrau mis Ionawr 2014 yn brawf gwirioneddol ar amddiffynfeydd, yn ogystal ag ymatebion i'r stormydd a gwydnwch ardaloedd arfordirol Cymru. Mae Cymru'n arbennig o agored i stormydd o'r math hwn ac mae amcanestyniadau newid hinsawdd yn dangos y bydd y risgiau'n cynyddu, oherwydd tywydd mwy eithafol yn y dyfodol.
Nododd adroddiad cam 2 (argymhellion yr adolygiad) 47 o argymhellion unigol wedi’u rhannu yn chwe maes blaenoriaeth:
- Buddsoddiad parhaus mewn rheoli risgiau arfordirol
- Gwell gwybodaeth am systemau amddiffyn rhag llifogydd arfordirol
- Mwy o eglurder cysylltiedig â rolau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau
- Asesu sgiliau a chapasiti
- Mwy o gefnogaeth i helpu cymunedau fod yn fwy gwydn
Sut i weithredu’r argymhellion
Mae’r cynllun cyflawni hwn yn cynnwys dwy ran:
- Cynllun cyflawni ar gyfer argymhellion cam 2
- Cynllun cyflawni ar gyfer argymhellion cam 2 – dogfennau ategol
Gyda’i gilydd mae’r rhain yn nodi sut y gellir gwneud cynnydd o safbwynt yr argymhellion hyn gan ystyried:
- sut y gellir bwrw ymlaen â’r argymhellion (methodoleg)
- gan bwy (pa sefydliadau a phartneriaid sydd angen cymryd rhan)
- ar gyfer cyflawni beth (gwelliannau parhaus neu ganlyniad penodol)
- amserlenni dangosol
Adroddiad cynnydd
Lluniwyd adroddiad cynnydd i nodi’r ymdrech a fuddsoddwyd wrth weithredu'r cynllun cyflawni yn ystod yr ugain mis yn dilyn ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2015 hyd at ddiwedd mis Awst 2016.
Mae nifer o atodiadau ar gael fel dogfennau ar wahân i ddarparu manylion a gwybodaeth ategol i adroddiad cynnydd mis Awst 2016:
- Adroddiad Prosiect 1 – Argymhelliad 7
- Adroddiad Prosiect 2 – Argymhellion 11 a 12
- Adroddiad Prosiect 3 – Argymhellion 13,14,15,16 ac 17
- Adroddiad Prosiect 4 – Argymhellion 19
- Adroddiad Prosiect 5 – Argymhellion 25 a 26
- Adroddiad Prosiect 6 – Argymhellion 31 a 32
- Adroddiad Prosiect 7a – Argymhelliad 37
- Adroddiad Prosiect 7b – Argymhelliad 38
- Adroddiad Prosiect 8 – Argymhelliad 39
- Adroddiad Prosiect 10 – Argymhellion 18, 43, 44, 45, 46 ac 47
Ni cheir adroddiad Prosiect 9 ar gyfer Argymhellion 41 a 42 oherwydd natur hirdymor a pharhaus Argymhelliad 41. Mae’r tudalennau crynhoi priodol yn yr adroddiad cynnydd yn cydnabod y cynnydd hyd yn hyn a’r cyhoeddiadau allanol cysylltiedig.
Terfynu Adolygiad Llifogydd Arfordirol Cymru
Cafodd 42 o’r 47 argymhelliad eu cwblhau mewn tair blynedd.
Mae'r holl bartneriaid yn parhau i fanteisio ar brofiad dysgu Adolygiad Llifogydd Arfordirol Cymru a'i fuddion amrywiol er mwyn ceisio sicrhau’n ymarferol fod sector rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol cadarnach Nghymru. Mae hon yn dasg barhaus, ac yn un na fydd byth yn cael ei chwblhau mewn gwirionedd.