Adolygiad o lifogydd mis Chwefror 2020 (Storm Ciara a Dennis)
Daeth Stormydd Ciara, Dennis a Jorge yn sgil gaeaf gwlyb iawn. Cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd mai dyma’r mis Chwefror gwlypaf a gofnodwyd erioed. Cyrhaeddodd sawl afon eu lefelau uchaf erioed, effeithiodd llifddwr ar 3,130 eiddo a bu rhaid i bobl adael eu cartrefi.
Adolygwyd ein hymateb i’r stormydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar ein gweithrediadau digwyddiadau llifogydd a sut rydym yn rheoli ystad CNC i helpu i leihau perygl llifogydd.
Cyhoeddwyd yr adolygiad ar 22 Hydref 2020:
- Llifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru: Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru
- Llifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru: Crynodeb o Ddata Digwyddiadau Llifogydd
- Llifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru: Adolygiad Rheoli Digwyddiadau Llifogydd
- Llifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru: Adolygiad Rheoli’r Ystad Dir
- Llifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru: Adroddiad Adfer yn sgil Llifogydd
Mae ein Map Stori yn adrodd stori’r stormydd eithriadol ym mis Chwefror a chanlyniadau ein hadolygiadau.
Ysgrifennodd ein Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau flog yn myfyrio ar un o’r stormydd mwyaf dinistriol sydd wedi bwrw Cymru mewn hanes diweddar.
Diweddarwyd ddiwethaf