Yr hyn rydyn ni’n ei wneud

Cyfoeth Naturiol Cymru ydy’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru – mae’n cyflogi 1,900 o staff ledled Cymru, a’i gyllideb yn £180 miliwn. Fe’n ffurfiwyd ym mis Ebrill 2013.

Ein gwaith morol

Fel hyrwyddwr yr amgylchedd naturiol yng Nghymru, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gennym foroedd glân, iach, cynhyrchiol a diogel sy'n llawn bywyd gwyllt.

Rydym yn gyfrifol am y 12 milltir forol o'r arfordir. Mae'r arwynebedd hwn o 15,000 cilomedr sgwâr (5,800 milltir sgwâr) bron yn dyblu maint Cymru!

Mae ein timau morol yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid ledled Cymru i gynnal iechyd amgylcheddau’r môr ac arfordir

Mae eu gwaith yn fuddiol i gymunedau a diwydiannau sy'n dibynnu ar yr amgylcheddau morol ac arfordirol hyn.

Darganfyddwch fwy

Gwrandewch ar naw o'n harbenigwyr morol yn siarad am eu gwaith a'r hyn y gall pob un ohonom ei wneud i gadw ein harfordir a môr yn iach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

*Mae’r fideo yma yn Saesneg gydag isdeitlau Cymraeg.

Gofalu am ansawdd dŵr ymdrochi Cymru*

Hamish Osborn, Arweinydd Tîm, Rheoli Adnoddau Naturiol, Abertawe

Rheoli Parth Cadwraeth Forol Ynys Sgomer*

Phil Newman, Uwch Swyddog Cadwraeth Morol, Parth Cadwraeth Morol Sgomer

Mapio llyngyr diliau yn Aber Afon Hafren*

Natasha Lough, Ecolegydd Morol (Is-lanw)

Monitro dolffiniaid a llamidyddion

Ceri Morris, Arbenigwr Mamaliaid Môr

Monitro morloi llwyd yn Sir Benfro*

Kate Lock, Swyddog Cadwraeth Morol, Parth Cadwraeth Morol Sgomer

Monitro adar môr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ystangbwll*

Paul Culyer, Uwch Reolwr Gwarchodfa, Sir Benfro

Monitro cynefinoedd a rhywogaethau’r draethlin*

Paul Brazier, Ecologydd Rhynglanwol

Defnyddio technoleg arloesol i gynhyrchu mapiau o wely’r môr*

Dr Kirsten Ramsay, Arweinydd y Tim Ecosystemau Islanwol a Chreaduriaid Asgwrn Cefn Morol

 

Diweddarwyd ddiwethaf