Ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau

Cyfoeth Naturiol Cymru ydy’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru – mae’n cyflogi 1,900 o staff ledled Cymru, a’i gyllideb yn £180 miliwn. Fe’n ffurfiwyd ym mis Ebrill 2013, a bu i ni gymryd drosodd y mwyafrif o swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, yn ogystal â rhai swyddogaethau o eiddo Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n derbyn Llythyr Cylch Gwaith ar ddechrau pob blwyddyn ariannol. Mae hwn yn nodi beth y mae Llywodraeth Cymru am i ni ei gyflawni yn ystod y flwyddyn honno.

Mae dogfen fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ar gael ar gais. Cysylltu â ni.​

Ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau

  • Cynghorydd: prif gynghorydd Llywodraeth Cymru, a chynghorydd diwydiant a’r sector cyhoeddus a gwirfoddol ehangach, ynghyd â chyfathrebwr ar faterion yn ymwneud â’r amgylchedd a’i ffynonellau naturiol
  • Rheoleiddiwr: yn gwarchod pobl a’r amgylchedd, gan gynnwys y diwydiannau morol, coedwigaeth a gwastraff, ac yn erlyn y rhai sy’n torri’r rheoliadau rydyn ni’n gyfrifol amdanynt
  • Dynodwr: ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – ardaloedd sydd o werth neilltuol oherwydd eu bywyd gwyllt neu eu daeareg, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a Pharciau Cenedlaethol, yn ogystal â chyhoeddi Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Ymatebwr: i tua 9,000 o ddigwyddiadau amgylcheddol y ceir gwybod amdanynt bob blwyddyn, fel ymatebwr argyfwng Categori 1
  • Ymgynghorai statudol: i tua 9,000 o geisiadau cynllunio y flwyddyn
  • Rheolwr/Gweithredwr: yn rheoli saith y cant o dir Cymru, sy’n cynnwys coetiroedd, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, amddiffynfeydd dŵr a llifogydd, ac yn gweithredu ein canolfannau ymwelwyr, ein cyfleusterau hamdden, ein deorfeydd a labordy
  • Partner, Addysgwr a Galluogwr: y prif gydweithredwr gyda’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn darparu cymorth grant, ac yn helpu amrywiaeth eang o bobl i ddefnyddio’r amgylchedd fel adnodd dysgu; yn gweithredu fel catalydd ar gyfer gwaith eraill
  • Casglwr tystiolaeth: monitro’n hamgylchedd, comisiynu a gwneud gwaith ymchwil, datblygu’n gwybodaeth, a bod yn gorff cofnodion cyhoeddus
  • Cyflogwr: bron i 1,900 o staff, yn ogystal â chefnogi swyddi eraill trwy waith contract

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ein dull ni o weithio drwy reoli adnoddau naturiol.

Diweddarwyd ddiwethaf