Niwbwrch - gweithio tuag at gynllun adnoddau naturiol
Dilynwch y ddolen yma er mwyn cael dweud eich dweud ar Gynllun Adnoddau Coedwig Niwbwrch: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/forest-planning-cynllunio-coedwig/cynllun-adnoddau-coedwig-niwbwrch
Yn Niwbwrch, mae hyn yn dechrau gyda datblygu’r ffordd ymlaen, sy’n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd. Bydd y weledigaeth yn cael ei chefnogi gan gyfres o amcanion. Wedyn, bydd cynlluniau manylach a phrosiectau’n cael eu drafftio’n unol â’r amcanion yma a’r adnoddau fydd ar gael.
Tirwedd sy’n newid
Mae Niwbwrch, a’r ardal gyfagos, yn system gymhleth a dynamig. Gwelir yma newidiadau naturiol a rhai a reolir, a bydd hyn yn parhau i’r dyfodol.
Caiff y gwaith o reoli’r newidiadau hyn ei seilio ar brofi dulliau newydd, defnyddio tystiolaeth newydd ac adolygu ein gwaith. Ond caiff hyn oll ei gydbwyso â gwerthoedd a phryderon pobl. Fel hyn, byddwn yn ymdrechu i warchod a chyfoethogi’r hyn sy’n gwneud Niwbwrch a’r ardal gyfagos yn arbennig, gan hefyd ateb dyheadau ac anghenion pobl. Byddwn hefyd yn ystyried bod Niwbwrch yn un elfen o gyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol.
Brwdfrydedd pobl am Niwbwrch yw ein caffaeliad mwyaf ar gyfer y dyfodol. Mae CNC yn cydnabod hyn a byddwn yn parhau i drin a thrafod â phobl leol ac ymwelwyr er mwyn deall eu gwerthoedd a’u pryderon. Byddwn yn egluro ein gwaith rheoli yng nghyd-destun oblygiadau polisi a chyfreithiol, a dealltwriaeth wyddonol gyfredol. Ar safle mor gymhleth â hwn, mae’n wirioneddol heriol i ateb yr holl ddiddordebau a defnyddiau. Ond byddwn wastad yn ceisio taro cydbwysedd rhwng y rhain, ble bynnag y bo modd.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein diffiniad o’r safle a fersiwn drafft o’n ffordd ymlaen ar gyfer Niwbwrch. DIFFINIAD O’R SAFLE
Er mwyn datblygu Cynllun Cyfoeth Naturiol Niwbwrch rydym wedi rhannu’r safle’n bedair haen:
- Ardal sy’n berchen i ac / neu sy’n cael ei rheoli’n uniongyrchol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) trwy brydles, cytundeb ac yn y blaen
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn (yn cynnwys Traeth Cefni a Thraeth Melynog)
- Coedwig Niwbwrch – Ystâd Goed Llywodraeth Cymru
- Cob Malltraeth
- Ardaloedd sy’n gyfagos i, neu sy’n cael eu hystyried fel rhan annatod o ecosystem Niwbwrch, sy’n berchen i / cael eu rheoli gan eraill, ond ble mae gan CNC gyfrifoldeb cyfreithiol i weithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr tir – e.e. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
- Y Twyni o Abermenai i Aberffraw (yn cynnwys Tywyn Aberffraw a Morfa Dinlle)
- Cors Heli Glannau Môn
- Glantraeth
- Yr ardal y tu hwn i ffiniau 1 a 2, ble y gall fod cyfleoedd i CNC weithio gyda thirfeddianwyr, rheolwyr tir ac eraill ar reoli’r tir i’r dyfodol neu i ddarparu buddiannau cymdeithasol ac economaidd yn unol â’r ffordd ymlaen ar gyfer y safle. Er enghraifft, er mwyn cydgysylltu cynefinoedd neu gyfleoedd adloniadol
- Yr ardal ehangach, ble bydd CNC yn ymgysylltu â’r gymuned ehangach sydd â diddordeb yn y safle; yn ymwelwyr, academyddion ac eraill sydd â diddordeb yn y gwaith o reoli Niwbwrch a’r ardal gyfagos i’r dyfodol (h.y. haenau 1, 2 a 3 uchod)
Ffordd Ymlaen ar gyfer Niwbwrch
Tirwedd
Y tirwedd a’r morwedd yn cynnwys tirffurfiau, coedwig, daeareg a geomorffoleg
Mae trwyn deheuol Ynys Môn yn dirwedd a morwedd eiconig o donnau a gwyntoedd, creigiau, tywod a choedwigoedd, gaiff ei werthfawrogi am ei rinweddau naturiol yn ogystal â’i gyfleoedd adloniadol a’i hanes diwylliannol. Mae’r ardal yn rhan allweddol o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn.
Mae dau aber, Afon Menai (ceg y Fenai) ac Afon Cefni, yn ffurfio system arfordirol ddynamig a nodweddir gan dirffurfiau arfordirol neilltuol. Bydd prosesau naturiol – wedi eu gyrru gan rym y gwynt, y tonnau a’r llanw – yn parhau i greu traethau, twyni, llaciau, fflatiau aberol a chefnennau graeanog.
Dyma un o’r mannau gorau ym Mhrydain i astudio creigiau o’r cyfnod cyn-Gambriaidd. Mae’r nodweddion hyn yn agwedd bwysig ar Geoparc Ynys Môn.
Rheoli ar gyfer newid
Gwelir newidiadau ar hyd glan y môr yn Niwbwrch o ganlyniad i newid hinsawdd a chodiad yn lefel y môr. Gall hyn gynnwys colli twyni ar hyd y glannau a morfeydd heli yn yr aberoedd. Byddwn yn rheoli’r morlin er mwyn caniatáu i’r arfordir addasu’n naturiol, ble bynnag y bo modd. Bydd hyn yn cynnwys adlinio ffiniau’r goedwig mewn mannau er mwyn adfer twyni naturiol, sy’n gallu ymateb yn well i’r morlin symudol. Byddwn yn rheoli’r twyni fel system ddynamig, o dwyni symudol a thwyni mwy sefydlog, mewn tirwedd sy’n newid trwy’r amser.
Caiff Cob Malltraeth ei gynnal yn unol â pholisïau’r Cynllun Rheoli Traethlin. Rydym yn cydnabod swyddogaeth bwysig y system arfordirol gyfan yma yn Niwbwrch wrth amddiffyn eiddo mewn ardaloedd fel Malltraeth a Dwyran rhag llifogydd arfordirol.
Byddwn yn parhau i warchod a gwella cymeriad tirweddol eithriadol Niwbwrch.
Cynefinoedd a rhywogaethau
Yn cynnwys cynefinoedd arfordirol a choedwig a’r rhywogaethau cysylltiedig
Mae nodweddion dynodedig y safle’n cynnwys ardaloedd o gynefinoedd glannau creigiog, cefnennau graeanog, aberoedd a thwyni – megis fflatiau llaid, morfeydd heli a blaenau traethau tywodlyd, traethlinau, blaen-dwyni, twyni symudol a thwyni mwy sefydlog, lleiniau o dywod noeth, llaciau twyni gwlyb a rhostir twyni. Ceir hefyd byllau a llynnoedd dŵr clir.
Gall y cynefinoedd hyn amrywio o ran maint a lleoliad mewn ymateb i dirffurfiau sy’n esblygu, ond ni ddylent leihau o ran ansawdd na eangder. Bydd Traeth Llanddwyn yn parhau i fod â dŵr ymdrochi o ansawdd rhagorol a bydd ecoleg ac ansawdd dŵr yr aberoedd, yr afonydd a’r dyfroedd arfordirol cyfagos yn dda hefyd.
Bydd ardal sylweddol o goedwig yn parhau i sefyll yn Niwbwrch, gan ddarparu ystod o fuddiannau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, yn cynnwys adloniant, bywyd gwyllt a phren. Bydd y fforest yn cynnwys amrywiaeth o goed brodorol ac estron a, dros amser, bydd yn tyfu’n fwy amrywiol o ran rhywogaethau ac o ran strwythur. Dylai prysgwydd a choetir twyni, sy’n cynnwys rhywogaethau brodorol yn bennaf, dyfu y tu ôl i leiniau o dwyni agored.
Bydd y safle’n cynnal amrywiaeth cyfoethog o rywogaethau brodorol sy’n nodweddiadol o’r cynefinoedd. Er enghraifft, morwellt yn yr aberoedd, cwtiad torchog yn nythu ar y traethlin, pabi corniog melyn ar y graean, ehedyddion a phryfetach arbenigol yn y twyni, gyda thafolen y traeth a llysiau’r afu petalog yn llaciau’r twyni. Gwelir madfall ddŵr gribog a gele feddyginiaethol mewn rhai o’r pyllau a’r llynnoedd. Bydd yr aberoedd yn cynnal heidiau o adar dŵr a rhydwyr sy’n gaeafu, yn enwedig yr hwyaden lostfain. Dylai’r safle hefyd gynnal brain coesgoch sy’n dod yma i fwydo ar y twyni a’r traethlinau, tra bo’r coetir yn parhau i gynnig lloches i gigfrain yn clwydo a phoblogaethau o ystlumod a thylluanod. Bydd Coedwig Niwbwrch yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth gynnal y boblogaeth o wiwerod cochion ar Ynys Môn.
Rheoli ar gyfer newid
Byddwn yn parhau i ehangu ac adfer cynefinoedd fel twyni, morfeydd heli a choetiroedd fel eu bod yn cydgysylltu’n well ac yn tyfu’n fwy cydnerth.
Caiff pysgodfeydd cregyn yn yr aberoedd eu rheoli er mwyn osgoi difrod i nodweddion dynodedig. Yn draddodiadol, mae Traeth Cefni wedi rheoli hela adar, ac mae Traeth Melynog (Aber Afon Braint) a’r cyffiniau yn cael eu rheoli fel ardal gwarchod a bydd hyn yn parhau.
Byddwn yn parhau i reoli’r goedwig gan ddefnyddio systemau coedwigo addas i drosglwyddo strwythur coetir sydd wedi cyfaddasu’n well i effeithiau newid hinsawdd. Caiff y goedwig ei rheoli’n gynaliadwy, gan gynnwys gwaith teneuo rheolaidd a phlannu rhywogaethau brodorol ac estron ar lawr y goedwig er mwyn helpu i amrywio’r goedwig yn raddol, wedi ei gydbwyso â blaenoriaethau economaidd a chymdeithasol. Bydd y goedwig yn gartref i amrywiaeth o rywogaethau coetir ac anghoetir brodorol, gyda sylw penodol i gadwraeth rhywogaethau pwysig fel y wiwer goch, y bydd poblogaeth fagu ohonynt yn parhau i ffynnu’n y goedwig.
Bydd rheoli’r goedwig yn cynnwys sefydlu coetir twyni, fel rhan o adlinio parhaus y goedwig ger y cynefin twyni arfordirol. Caiff ardal calon y goedwig ei rheoli’n gynaliadwy a’i hamrywio dros amser i ddatblygu coedwig sy’n fwy cymysg. Bydd yn parhau i fod yn goedwig gydnerth a thoreithiog. Byddwn yn talu sylw penodol i reoli rhywogaethau estron goresgynnol fel y wiwer lwyd, rhododendron, creigafal a’r geiriosen ddu.
Pobl
Y gymuned leol, ymwelwyr, diwylliant a threftadaeth, mynediad, adloniant, addysg a dehongli
Mae gan y gymuned leol gysylltiad cryf â’r arfordir, y goedwig a’r twyni yn Niwbwrch. Yn hanesyddol roedd gan bentref Niwbwrch, neu Rhosyr i roi iddo ei hen enw, ddiwydiant moresg llewyrchus. Mae gan Fodorgan, Malltraeth ac Aberffraw gysylltiadau cryfion â’r safle hefyd. Mae hanes maith o gyfraniad cymunedol i’r gwaith o reoli’r safle, a bydd hyn yn parhau. Byddwn yn dal i drafod ein gwaith â’r gymuned leol yn rheolaidd, er mwyn sicrhau y bydd y modd y caiff Niwbwrch ei reoli i’r dyfodol yn ystyried eu gwerthoedd, eu syniadau a’u pryderon. Byddwn yn parhau i egluro ein gwaith rheoli’n rheolaidd.
Mae Niwbwrch yn cael ei werthfawrogi oherwydd ei fod yn cynnig ystod eang o gyfleoedd adloniadol, o bicnics i driathlonau, mewn amgylchedd heddychlon. Mae Niwbwrch yn fwy poblogaidd nag erioed, gan ddenu ymwelwyr sy’n mwynhau amrywiaeth ehangach o weithgareddau nag erioed. Saif mannau agored, eang a golygfeydd panoramig ochr-yn-ochr â cheudyllau a baeau bychain cysgodol. Ar ddyddiau stormus mae’r goedwig yn cynnig cysgod ac ar ddyddiau llonydd mae’n borth i draeth godidog. Mae agosrwydd y goedwig, y twyni, y traeth a’r môr yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y bobl sy’n eu defnyddio.
Mae Niwbwrch wedi ei gysylltu â chymunedau lleol Malltraeth, Niwbwrch a Dwyran gan rwydwaith o lwybrau cyhoeddus. Mae nifer yn cysylltu’n uniongyrchol â’r safle, tra bo eraill yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru sy’n rhedeg trwy’r safle. Mae Cob Malltraeth yn ffurfio rhan o Lôn Las Cefni, llwybr beicio hirbell sy’n cysylltu Niwbwrch â Llangefni, yng nghanol yr Ynys.
Bydd Niwbwrch yn parhau i fod yn un o’r tirweddau diwylliannol gorau yng Nghymru, gyda safleoedd archeolegol yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig, olion Neolithig ar y grib o graig cyn-Gambriaidd ac adfeilion canoloesol Llys Rhosyr. Bydd llawer o bobl yn parhau i ymweld â Niwbwrch i werthfawrogi’r dreftadaeth, i ddysgu am fythynnod y peilotiaid ar Ynys Llanddwyn, chwedl Dwynwen nawdd sant cariadon Cymru, neu hanes adennill y tir ac adeiladu Cob Malltraeth gan Thomas Telford. Bydd myfyrwyr o bob oed yn dal i ddod i Niwbwrch i astudio’r ystod o gynefinoedd a rhywogaethau, i astudio’r ddaeareg ac i brofi’r hanes diwylliannol.
Rheoli ar gyfer newid
Byddwn yn sicrhau bod Niwbwrch yn parhau i fod yn gyrchfan sy’n croesawu ymwelwyr, o bell ac agos, gan ddod â buddiannau economaidd cadarnhaol i’r rhan yma o Ynys Môn. Bydd yn un o uchafbwyntiau Llwybr Arfordir Cymru ac yn un o draethau ymdrochi gorau Ynys Môn.
Rydan ni am i Niwbwrch barhau i gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau mynediad a hamdden, wedi’u hanelu at bobl o bob oed a phob gallu, i gwrdd ag anghenion pawb. Rydan ni’n cydnabod fod gweithgareddau o’r fath yn gallu gwella iechyd meddyliol a chorfforol.
Byddwn yn annog mynediad diogel a chyfrifol i’r safle, gan gynnwys mynediad i bobl o bob gallu lle bo modd. Rydym yn anelu at ddarparu profiad o safon uchel, gan helpu pobl i ddysgu am yr amgylchedd. Byddwn yn annog ymddygiad cyfrifol, gan helpu pobl i weld rhinweddau amgylchedd a reolir yn dda. Bydd ein cyfleusterau wedi’u rheoli’n dda, ac wedi’u hybu drwy wybodaeth glir a dealladwy. Bydd hyn yn ategu mwynhad a hyder pobl, tra’n gwella eu dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol a hanesyddol o’u cwmpas. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio â rheolwyr tir a chymunedau i wella’r cysylltiad rhwng y safle a rhwydweithiau llwybrau a phentrefi cyfagos.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, real a photensial, Niwbwrch i gymunedau lleol a byddwn yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau y caiff buddiannau economaidd eu gwireddu. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol i gynnal a chynyddu cyfranogaeth ar y safle, fel chwilio am gyfleoedd pellach ar gyfer gwirfoddoli a chyflogaeth leol.
Mae cenedlaethau o wyddonwyr wedi astudio daeareg a bioleg yr ardal yma. Byddwn yn hybu astudio gwyddonol a defnydd addysgol o Niwbwrch, a byddwn yn annog ymchwil fydd yn hysbysu ein gwaith rheoli.
Dyma fersiwn drafft o’n Ffordd Ymlaen. Byddem yn croesawu eich barn. Anfonwch y ffurflen sylwadau sydd wedi'i hatodi at: niwbwrch@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Opsiynnau ar gyfer Niwbwrch
- Opsiynnau ar gyfer Niwbwrch - Dyma'r cyflwyniad a roddwyd yn Neuadd PJ ar 6 Rhagfyr 2016. Byddem yn croesawu eich barn ar y cam yma yn ein proses gynllunio. Manylion i gyd yn yr atodiad
- Darllenwch ein hatebion i'ch cwestiynau ar faterion dydd i ddydd o ran rheoli Niwbwrch
- Darllenwch yr holl ymatebion rydan ni wedi'u derbyn ynglyn a'r ddogfen ddrafft Ffordd Ynlaen ar gyfer Niwbwrch
- Darllenwch ein ebost i fudd-ddeiliaid ynglyn a'n cynllun cyfnod prawf ar gyfer ein safle yn Niwbwrch. Bydd y canlyniadau’r astudiaeth yn ffurfio rhan o’r dystiolaeth ar gyfer datblygiad Cynllun Adnoddau Naturiol, gyda’r gobaith o sefydlu rheolaeth gynaliadwy o’r safle yn yr hir dymor