Trosolwg o Rondda

Mae Rhondda yn gartref i amgylchedd naturiol eithriadol ac wedi'i leoli yng nghanol/yng ngogledd Rhondda Cynon Taf. Mae dau brif gwm yn diffinio Rhondda, sef: Rhondda Fawr, y cwm mwyaf, a Rhondda Fach, sy'n gwm llai. Mae'n ffinio â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ychydig filltiroedd i'r gogledd o gwm Rhondda Fawr. Mae oddeutu 60,000 o bobl yn byw yn yr ardal.

Mae Rhondda yn cynnwys cymoedd serth gyda lloriau datblygedig/trefol. Mae'r dirwedd unigryw hon yn golygu ei bod yn gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd, yn cynnwys: ffridd ochr cwm (cynefin cwm yn ne Cymru sydd ag amrywiaeth nodweddiadol yn perthyn iddo), planhigfeydd coed, coetiroedd cynhenid, glaswelltir wedi'i wella, prysgwydd a sgydau. Mae 40% o'r ardal yn rhan o Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ein dull rheoli yn Rhondda

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dull newydd, integredig, sy'n seiliedig ar yr ardal, o reoli'n hadnoddau naturiol yng Nghymru. Bwriedir i'r fframwaith newydd hwn ategu deddfau cynllunio a datblygu cynaliadwy er mwyn sicrhau buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer Cymru.

Er mwyn paratoi ar gyfer y dyletswyddau newydd hyn, rydyn ni wedi bod yn datblygu'r dull yn Rhondda. Er yn gynnar yn 2014, rydyn ni wedi cyfarfod ag amrywiaeth eang o bartneriaid ac wedi gweithio gyda nhw er mwyn helpu i bennu rhai o'r prif flaenoriaethau a chyfleoedd yn yr ardal. Hyd yma, mae'r dull wedi cael ei dderbyn gydag egni a brwdfrydedd mawr gan fudiadau a phobl sy'n awyddus i gymryd rhan ac i weithio gyda ni.

Mae rhai o'r themâu allweddol ar gyfer Rhondda sydd wedi dod i'r amlwg o'n trafodaethau â rhanddeiliaid a'r gymuned yn cynnwys:

  • Iechyd a lles
  • Adfer natur
  • Mynediad i fannau gleision a seilwaith glas
  • Gwytnwch a diogelwch y cymunedau (e.e. perygl o lifogydd, tanau gwyllt, newid yn yr hinsawdd)
  • Ffyniant a chydraddoldeb
  • Rheoli tir sy'n eiddo cyhoeddus

Dogfennau

Manteisio’n Llawn ar yr Asedau sydd gennym yn y Rhondda 1: Creu Rhondda iach ac egnïol gyda’n gilydd.

Manteisio’n Llawn ar yr Asedau sydd gennym yn y Rhondda 2

Manteisio’n Llawn ar yr Asedau sydd gennym yn y Rhondda 3

Crynodeb o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd yn y Rhondda - Haf 2015.

Diweddariad Taf: Rhagfyr 2015

Cyfleoedd i reoli adnoddau naturiol y Rhondda

Astudiaeth achos 1: Llethrau iach
Astudiaeth achos 2: Datrysiadau ar sail natur
Astudiaeth achos 3: Troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Astudiaeth achos 4: Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Newyddion Diweddaraf

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf