Rheoli Adnoddau Naturiol yn ardal Dyfi

Trosolwg o Ardal Dyfi

Mae gan ddalgylch afon Dyfi amgylchedd naturiol arbennig ac mae’n un o’r ardaloedd mwyaf prydferth yng Nghymru. Mae daearyddiaeth yr ardal yn amrywio o fynyddoedd Aran Fawddwy yn ne Eryri, i lefel y môr yn Borth ac Aberdyfi.

Ceir yma ystod eang o gynefinoedd gwahanol, o’r gorgorsydd yn y mynyddoedd, drwy goetiroedd a thiroedd ffermio, i lawr i’r arfordir gyda’i forfeydd heli, fflatiau llaid a thwyni tywod.

Mae pob un o’r cynefinoedd gwahanol hyn yn rhoi ystod unigryw o ‘wasanaethau ecosystem’ sy’n bwysig i bobl sy’n byw yn ac yn ymweld â’r Dyfi.

Rhoddir gwasanaethau fel bwyd a choed gan ffermydd a choetiroedd; mae gorgorsydd yn storio carbon, lliniaru llifogydd ac o fudd i fywyd gwyllt; tra bo twyni tywod yn amddiffyn yr arfordir ac yn lle i hamddena a thwristiaeth.

Mae gan ardal y Dyfi dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol gyfoethog ac roedd mwyngloddio plwm yn arfer bod yn bwysig iawn yma, sy’n heriol o ran ansawdd dŵr. Y prif weithgareddau economaidd yw ffermio, coedwigaeth a thwristiaeth ond mae egni adnewyddadwy yn chwarae rhan gynyddol bwysig. Afon Dyfi a’i llednentydd niferus sy’n dominyddu’r ardal gyda’r gorlifdir yn darparu ardaloedd pori ffrwythlon, cyfleoedd hamddena yn ogystal silfeydd i bysgod - fel eog a sewin.

Prosiectau allweddol:

  • Mapio gwasanaethau geo-system yn ardal Dyfi yn ofodol
  • Mapio’r rhwystrau sy’n atal pysgod rhag mudo yn ardal Dyfi
  • Rhwydwaith cynefinoedd Dyfi – adfer planhigfa 78 hectar ar safleoedd coetir hynafol ar ystâd CNC i greu rhan o rwydwaith ‘cydnerth’ Dyfi
  • Prosiect perygl llifogydd naturiol Pennal i fodelu dalgylch Pennal a gwneud argymhellion ynglŷn â newid y rhwydwaith draenio ar yr ystâd sy’n cael ei rheoli gan CNC
  • Prosiect glaswelltir
  • Mapio’r cyfleoedd sy’n deillio o ecosystem forol a rhynglanwol

Ein dull gweithredu yn ardal Dyfi

Ein tasg yw cynhyrchu:

  • ‘Datganiad ardal’ drafft
  • Dysgu o’r broses a bwydo’n ôl i CNC yn ogystal â helpu i ddarparu tystiolaeth i gyfrannu at ‘Fil yr Amgylchedd’ yng Nghymru (i fod i gael ei gyflwyno yn 2017)

Mae tair prif elfen i’n dull gweithredu hyd yma:

Casglu Tystiolaeth

Rydym wedi casglu tystiolaeth, wedi nodi bylchau ac wedi comisiynu ymchwil i amrywiaeth eang o wasanaethau ecosystem sy’n berthnasol i ardal Dyfi. Rydym hefyd wedi rhoi cynnig ar ddulliau mapio newydd i’n helpu i ddeall ble mae gwahanol wasanaethau ecosystem yn cael eu cyflenwi. Bydd hyn yn helpu CNC a’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am sut i reoli ein hadnoddau naturiol. Bydd hefyd yn help i nodi cyfleoedd er mwyn inni ddefnyddio’n hadnoddau yn well.

Cysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid

Ni allwn wneud hyn yn llwyddiannus ein hunain; mae gweithio gydag eraill yn allweddol er mwyn cyflenwi nifer o fuddion o’n hadnoddau naturiol. Hyd yma, rydym wedi cael trafodaethau gydag Awdurdodau Lleol, cyrff anllywodraethol, partneriaeth Biosffer Dyfi ac eraill, yn ogystal â threfnu digwyddiadau mawr i randdeiliaid.

Caiff yr adroddiad ar ddigwyddiad Gorffennaf i randdeiliaid ei ryddhau yn gynnar ym mis Medi. Byddwn yn ymchwilio’n fanylach i’r materion a nodwyd yn y gweithdy hwn yn ein hail weithdy, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 17 Hydref, 2015. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar y dystiolaeth ac yn trafod yr angen i weithredu, a’r math o gamau gweithredu. Bydd y tîm hefyd yn cynnal rhagor o arddangosfeydd galw heibio dros yr haf, gan fanteisio ar ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal beth bynnag. Hefyd, caiff rhagor o holiaduron eu dosbarthu a’u casglu dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, gyda chrynodeb o’r canlyniadau’n cael ei gyflwyno a’i archwilio yn yr ail weithdy. Byddwn hefyd yn parhau i siarad â phartneriaid, tirfeddianwyr ac unigolion yn ardal Dyfi.

Holiadur Adborth

Hoffwn ni i chi roi adborth ar ein cysylltu a chyfathrebu gan gwblhau’r holiadur hwn.

Bydd eich barn yn ein helpu i benderfynu ar y ffordd ymlaen a bydd yn bwydo i mewn i’r Datganiad Ardal sy’n cael ei gynhyrchu i’r Dyfi fel canllaw i warchod, rheoli a defnyddio adnoddau naturiol yr ardal yn briodol.

Os rhowch eich manylion cyswllt, byddwch yn derbyn diweddariadau yn y dyfodol a gwahoddiad i weithdy ar 17 Hydref.

Y mwyaf penodol y gallwch fod, y mwyaf bydd eich barn yn help i ddylanwadu ar y ffordd ymlaen.

Ar ôl cwblhau’r holiadur, anfonwch at patrick.green@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ei bostio at Patrick Green, Cyfoeth Naturiol Cymru, Powells Place, Powells Lane, Y Trallwng. SY21 7JY.

Prosiectau i lywio'r broses

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi dechrau gweithio ar amrywiaeth o brosiectau fel rhan o’r treial. Mae'r prosiectau yn cyflawni gwelliannau lleol, yn ychwanegu at ein sylfaen dystiolaeth ac yn ein galluogi i ddysgu sut y gallwn gynnwys, hysbysu ac ysbrydoli pobl am eu hamgylchedd naturiol.Mae llawer o'r prosiectau hyn, megis y mapio rhwystrau pysgod, wedi mynnu cydweithio â sefydliadau a rhanddeiliaid trydydd sector.

Astudiaeth Achos – Mapio Rhwystrau sy’n Atal Pysgod rhag Mudo yn Ardal Dyfi

Mae pysgodfa fewndirol iach yn bwysig o ran bioamrywiaeth, hamdden a thwristiaeth. Mae rhwystrau sy’n atal pysgod rhag mudo yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn fater allweddol y mae angen rhoi sylw iddo er mwyn gwella pysgodfeydd mewndirol. Er bod yna beth data o’r blaen nid oedd gennym ddarlun cynhwysfawr o’r rhwystrau a oedd yn atal pysgod rhag mudo yn y dalgylch. Drwy weithio gyda chlybiau pysgota lleol, rydym wedi casglu’r wybodaeth yr oedd ei hangen arnom i benderfynu ar sail tystiolaeth ymhle i ganolbwyntio’n hymdrechion yn yr ardal. Mae’r prosiect wedi canfod ac wedi mapio 126 o rwystrau sy’n atal pysgod rhag mudo, a dynodwyd 44 o’r rhain yn rhwystrau llwyr. Bydd y rhwystrau hyn yn dod yn rhan o gynlluniau gweithredu Afonydd Cymru a CNC.

Astudiaeth Achos – Cydnerthedd Coedwig Pennal

Cynhyrchodd y prosiect astudiaeth hydrolegol yn edrych ar reoli Perygl Llifogydd Naturiol er mwyn helpu i ostwng y llifoedd brig yn y bloc coedwig sy’n cael ei reoli gan CNC uwchlaw pentref Pennal. Byddwn nawr yn ceisio datblygu prosiect i wneud gwaith cyfalaf a monitro’r canfyddiadau, ar lawr gwlad.

Adroddiadau

Mae'r adroddiadau canlynol wedi cael eu cynhyrchu yn ystod treial y Dyfi:

  • Mapio cyfleoedd ar gyfer creu coetiroedd i leihau llygredd gwasgaredig yn Nalgylchoedd Peilot Rheoli Adnoddau Naturiol Integredig (Rhondda, Tawe a Dyfi) - gan Forest Research (Mawrth 2015)
  • Adran Mapiau - Mapio cyfleoedd ar gyfer creu coetiroedd i leihau llygredd gwasgaredig yn Nalgylchoedd Peilot Rheoli Adnoddau Naturiol Integredig (Rhondda, Tawe a Dyfi) - gan Forest Research (Mawrth 2015)
  • Crynodeb Gymhwysol Daeareg y Dalgylch Dyfi - gan Arolwg Daearegol Prydain
  • Darpariaeth gwasanaethau ecosystem (Adnodd Pysgodfeydd) yn System Aber Dyfi - gan Environment Systems Ltd (Gorffennaf 2015)
  • Astudiaeth Draenio Dalgylch I fyny’r afon o Pennal - gan Black a Veatch Limited (Mehefin 2015)

Am gopi o adroddiad, e-bostiwch elizabeth.felton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyfleoedd i reoli adnoddau naturiol ardal Dyfi mewn modd cynaliadwy

I helpu Cymru i baratoi ar gyfer y deddfau yr Amgylchedd (Cymru) a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi sefydlu tri treial rheoli adnoddau naturiol yn y dalgylchoedd Rhondda a Tawe yn Ne Cymru a Dyfi yn y Canolbarth. Mae'r dogfennau isod yn disgrifio'r treialon a'r hyn a ddysgwyd gennym ynglŷn â sut i gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol ar raddfa leol. Mae'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddwy flynedd o weithio gyda sefydliadau, grwpiau cymunedol a thrigolion yn yr ardal, casglu tystiolaeth helaeth a rhannu gwybodaeth.

Nid datganiadau ardal na dogfennau statudol yw’r rhain gan fod y gwaith yn rhagflaenu Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Fodd bynnag, maent yn darparu'r fframwaith lleol ar gyfer y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau, grwpiau cymunedol, busnesau lleol a phobl ddefnyddio i gyfeirio at. Gellir eu defnyddio gan gymunedau a sefydliadau i weithio gyda'i gilydd yn well i sicrhau manteision lluosog. Gallant annog gwell cydweithio rhwng partneriaid drwy ganolbwyntio adnoddau ar y cyfleoedd amlwg a nodwyd, a gellir eu defnyddio i gefnogi cynigion ar gyfer cyllid ar raddfa leol a thirwedd eang.

Cyfleoedd y Dyfi - Cyfrol 1

Cyfleoedd y Dyfi - Cyfrol 2

Manylion cyswllt

Os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch ebost at: patrick.green@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf