Cael gwared â Chored Ynysowen

Pam ydyn ni’n cael gwared â’r gored?

Rhan bwysig o’n gwaith yw gwella ansawdd dŵ ac ecoleg yr afonydd yng Nghymru ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Mae’r gored yn Ynysowen yn rhwystr i bysgod sy’n mudo i fyny yr Afon Taf i silio a chynhyrchu pysgod ieuenctid, sy’n helpu i hybu stociau.

Byddwn yn dymchwel y gored ac yn cael gwared a’r rhwystr, a fydd hefyd yn gwella’r cyfleoedd pysgota drwy wella ansawdd ac argaeledd pysgod yn yr afon.

Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydyn ni a’n partneriaid wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i wella cynefinoedd afonydd fel y gallant gynnal mwy o boblogaethau o bysgod brodorol fel eog, brithyll, llysywod a bwliod a gwella statws ecolegol y Taf o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Ddŵr.

Y gored yw’r rhwystr sylweddol olaf i wireddu manteision y gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn.

Pryd mae hyn yn digwydd?

Bydd y gwaith yn dechrau ar 29 Mai 2018 ac yn cymryd tua 12 wythnos i gwblhau.

Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd rhai o lwybrau’r afon ger y safle wedi’u cau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra yn ystod yr adeg yma.

Byddwn yn gwneud popeth ag y gallwn i leihau’r aflonyddwch i’r gymuned leol tra y byddwn yn gwneud y gwelliannau, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad ac am fod yn amyneddgar.

Budd Risg Llifogydd

Budd ychwanegol o gael gwared â’r gored fydd lleihau risg llifogydd yn yr ardal, a sicrhau na chaiff perygl llifogydd ei gynyddu mewn mannau eraill o ganlyniad i hynny.

Y ddiweddaraf am y gwaith

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith adeiladu ac unrhyw achosion o gau a gwyriadau i'r llwybrau ger y safle adeiladu.

Cysyllwch â ni

Os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch ni:

merthyrvale.weirremoval@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf