Taclo'r Tywi - Ynglŷn â’r prosiect

Gadwraeth Arbennig, yn gartref i ystod ysblennydd o fywyd gwyllt a rhywogaethau planhigion megis y dyfrgi, y Cornicyll Cadwynog Bach a’r Wangen. 

Mae'n cefnogi bywoliaethau lleol fel ffermio, twristiaeth a hamdden. 

Rydym am sicrhau bod modd i Afon Tywi barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - dyma'r grym y tu ôl i Bartneriaeth Taclo'r Tywi.

Beth yw'r sialensiau yn Nalgylch Afon Tywi?

Gwelwyd mwy o bwysau ar Afon Tywi yn ystod y degawdau diweddar ac mae hyn wedi arwain at bryderon am ei chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol. Mae’r meysydd pryder yn cynnwys

  • ansawdd dŵr
  • bioamrywiaeth
  • pysgodfeydd
  • llifogydd

Gan fod ein swyddogaethau niferus yn cynnwys gweithgarwch statudol, rheoleiddiol a masnachol, rydym yn treialu ffordd gynhwysol o weithio er mwyn rheoli'r sialensiau niferus sy'n wynebu tirwedd y mae cymaint o bobl yn dibynnu arni ar gyfer eu byw a'u lles.

Ein nod trwy’r fenter 'Taclo'r Tywi' yw ymgysylltu â phawb sydd â diddordeb a sicrhau cynllun ymarferol ar gyfer rheoli Afon Tywi yn y dyfodol trwy gyfrwng y dull partneriaethol hwn. Bydd hwn yn gynllun sy'n cefnogi pobl a busnesau lleol, gan eu galluogi i ffynnu mewn ffordd gynaliadwy wrth wella'r amgylchedd naturiol a'r gweithgareddau niferus y mae'r Tywi yn eu cefnogi. 

Pwy sy'n cymryd rhan?

Rydym yn bartneriaeth o sefydliadau amgylcheddol, Llywodraeth Leol a grwpiau diddordeb, sy’n cydweithio er mwyn taclo rhai o'r prif sialensiau sy'n wynebu Dalgylch Afon Tywi. Mae ein partneriaid yn cynnwys: 

Yr hyn rydym yn anelu at ei wneud

Rydym am wneud gwelliannau go iawn i ansawdd dŵr a bioamrywiaeth.

Ein nod yw rheoli pob agwedd ar yr amgylchedd, a hynny mewn ffordd fwy cynaliadwy, er mwyn i hwnnw allu parhau i gefnogi amaethyddiaeth, coedwigaeth, bioamrywiaeth, twristiaeth a hamdden heddiw ac yn y dyfodol.

Rydym am weld:

  • Gwell ansawdd dŵr
  • Gwell bioamrywiaeth
  • Llai o rywogaethau planhigion ymledol anfrodorol megis y Ffromlys Chwarennog (Jac y Neidiwr) - Himalayan Balsam
  • Rheoli llifogydd naturiol
  • Mwy o gefnogaeth i ffermwyr ac amaethyddiaeth
  • Gwell diogelwch i fywyd gwyllt lleol
  • Cyfraddau is o erydiad pridd
  • Nifer cynyddol o bysgod
  • Systemau rheoli maethol mwy effeithlon

Taclo’r Tywi- Dewch i wybod mwy am yr hyn rydym ni’n ei wneud 

Darllenwch fwy am y prosiectau rydym yn gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd gyda'n partneriaid, er mwyn gwella Afon Tywi i’r dyfodol.

Newyddion

Ymchwiliad i algâu yn Afon Tywi

Rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau yn ddiweddar am grynodiadau sylweddol o algâu a chwyn dyfrol yn tyfu mewn rhannau o Afon Tywi, yn bennaf rhwng Llangadog a Nantgaredig.

Mae pryder y gallai hyn fod o ganlyniad i ansawdd dŵr gwael (h.y. lefelau uchel o faetholion megis ffosffadau a nitradau) a allai fod yn niweidiol i bysgod. 

Mae’n debygol fod y cyfuniad o lefelau dŵr isel yn ddiweddar a’r tywydd cynnes yn cyfrannu at hyn.

Rydym yn ymchwilio i’r pryderon hyn drwy gymryd samplau ychwanegol, drwy adolygu ein gwybodaeth monitro gyfredol a thrwy adolygu effaith gollyngiadau sy’n cael eu caniatáu yn yr ardal, megis gwaith trin carthion Llanymddyfri, Llangadog a Ffairfach. 

Mae Afon Tywi’n cael ei samplu mewn mannau amrywiol i fesur ansawdd y dŵr a defnyddir y data hwn i ddosbarthu’r afon gan ddefnyddio system ddosbarthu’r Gyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr. 

Mae Afon Tywi yn bodloni’r safon angenrheidiol o safbwynt maetholion ond oherwydd y pryderon diweddar rydym yn ailedrych ar y data i sicrhau ei fod yn rhoi adlewyrchiad cywir o’r sefyllfa yn yr afon. 

Fel arfer daw maetholion mewn afonydd o weithgareddau megis amaethyddiaeth neu waith cwympo coed ar raddfa fawr ac o ollyngiadau elifion o weithfeydd trin carthion.

Er bod rhwydwaith o bwyntiau samplu ar yr afon ar hyn o bryd, ni allant ddweud wrthym o ble yn union y daw’r maetholion. Ar hyn o bryd, rydym yn nghyfnod cynnar y gwaith o ymchwilio i'r mater hwn a bydd angen gwneud llawer iawn o waith i ganfod beth sy'n achosi i'r chwyn dyfu. 

Mae'r gwaith hwn yn debygol o gymryd cryn amser ac mae'n debygol y bydd angen arbenigwyr allanol i'n cynorthwyo i ymchwilio ymhellach i'r mater. Rydym eisoes wedi cael cyngor gan arbenigwr blaenllaw ac mae ef wedi dweud bod gormodedd o algâu gwyrdd mewn sawl afon tua’r adeg yma. Mewn afon sy'n gweithio'n dda, mae'r rhain fel arfer yn diflannu erbyn dechrau'r haf. Eleni, fodd bynnag, mae’n ymddangos eu bod wedi ymddangos yn hwyr ac yn para am gyfnod hwy. Nid yw eu presenoldeb, ynddo'i hun, yn destun pryder ond er hynny dylid ymchwilio i grynodiadau sylweddol sy’n digwydd yn barhaus. 

Byddwn yn parhau i fonitro'r afon yn agos ac yn rhoi diweddariad pan fyddwn yn gwybod mwy.

DIWEDDARIAD 31 Gorffennaf

Mae gwaith arolygu a wnaed gan staff CNC yn ystod mis Mai yn dangos bod paramedrau biolegol (diatomau a macroffytau) ar lefel "statws da" a bod crynodiadau ffosfforws yn is na'r trothwyon sy'n debygol o fygwth statws da.

Yn ogystal â hyn, fel y crybwyllwyd yn y diweddariad olaf, cynhaliwyd arolwg gan arbenigwr annibynnol ar 11 Gorffennaf, a ddaeth i'r casgliad canlynol;

"Mae gan afonydd gylchred naturiol o algâu ffilamentog, â’r rhan fwyaf ohonynt yn gweld gordyfiant ar ddechrau’r gwanwyn. Mae llawer o wahanol fathau o algâu ffilamentog, a dim ond rhai sy'n dynodi lefelau gormodol o faetholion (ffosffadau fel arfer). Roedd algâu a gysylltir amlaf â lefelau uchel o faetholion i’w cael yn unig mewn dwy isafon, ac nid oedd y crynodiadau yn uchel yn yr un o’r ddau achos"

Nawr rydym yn bwriadu cynnal gwaith yn y ddwy isafon hyn lle nodwyd bod poblogaethau anghyffredin o algâu.

Mae ein gwaith arolygu yn cadarnhau bod yr algâu wedi gwywo’n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf, yn unol â'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl drwy brosesau naturiol.

Felly, o ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael, nid yw CNC mewn sefyllfa i ddod i'r casgliad bod y gordyfiant sylweddol o algâu eleni yn deillio’n uniongyrchol o ansawdd dŵr gwael (lefelau uchel o ffosffadau).

DIWEDDARIAD 26 MEHEFIN 2018 

Yn ddiweddar rydym wedi asesu samplau o algâu/chwyn dyfrol mewn deuddeg lleoliad, chwech ar afon Tywi ei hun, a chwech ar isafonydd allweddol. Mae angen ymchwilio ymhellach, ond ar sail y gwaith cychwynnol hwn mae’n debygol nad yw’r algâu/chwyn yn afon Tywi’n cael ei achosi gan ansawdd dŵr gwael. Serch hynny, efallai bod samplau algâu/chwyn a gymrwyd o dair isafon yn dangos lefelau uwch o faetholion.

Yn ychwanegol at y gwaith hwn rydym wedi ymgysylltu ag arbenigwr blaenllaw sy’n darparu cyngor ecolegol arbenigol i’r diwydiant dŵr, er mwyn iddo ymweld ag Afon Tywi. Bydd yn asesu pa un ai a oes prolem gydag ansawdd y dŵr, ac yn rhoi cyngor ychwanegol ar sut y gallwn archwilio’r mater. 

Mae elifiant o dri gwaith trin carthion Dŵr Cymru ar afon Tywi wedi’u gwirio ac maent yn bodloni amodau eu trwyddedau amgylcheddol. 

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau â’r monitro ychwanegol yr ydym wedi ei osod ac rydym yn cydlynnu rhaglen waith yn y tair isafon sydd wedi eu nodi a fydd yn dechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn pan fydd ar gael.

Penodi Swyddogion Cefnogi Amaethyddol

Yn ddiweddar croesawyd Megan Herbert-Evans i’w swydd newydd fel Cynghorydd Amaethyddol arbenigol yn Sir Gaerfyrddin i gefnogi ffermwyr ac amaethyddiaeth yn y sir.

Rôl newydd Megan fydd hyrwyddo nodau partneriaeth Taclo’r Tywi a symud pethau yn eu blaen. Bydd wrth law i gefnogi ffermwyr, gan roi cyngor ynghylch materion fel rheoli slyri a’u helpu i roi arferion gorau ar waith.

* Blog yn dod yn fuan *

Eisiau cymryd rhan?

E-bostiwch Tîm Taclo'r Tywi neu ffoniwch 0300 065 4037.

Diweddarwyd ddiwethaf