Chwilio am ein mamaliaid mwyaf prin
Mae rhai o famaliaid prinnaf Cymru - gan gynnwys pathewod, ystlumod a dyfrgwn - wedi cael eu dilyn a’u gwylio gan fwy na 100 o wirfoddolwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r canfyddiadau’n rhoi darlun gwell o’u lleoliad a’u cynefinoedd, fydd yn helpu i ddiogelu nhw i’r dyfodol.
Roedd y gwaith yn rhan o Brosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy (MISE), sydd ar waith yng Nghymru ac Iwerddon ers 2011.
Mae partneriaid y prosiect yn cyfarfod yfory yn Aberystwyth (dydd Sadwrn 9 Mai), i drafod y canfyddiadau mewn digwyddiad a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent.
Dywedodd Dr Liz Haliwell, Ecolegydd Mamaliaid CNC a Rheolwr Prosiect MISE:
“Rydym wedi canfod llygod yr ŷd mewn safle ar Ynys Môn am y tro cyntaf ac wedi cadarnhau cofnodion blaenorol yng Nghors Geirch ym Mhen Llŷn a Brynddu yng ngogledd Sir Fôn. Rydym wedi darganfod math newydd o wiwer goch Gymreig sy’n unigryw yn enetig, yng ngogledd- ddwyrain Cymru.
A, thrwy osod blychau nythu mewn coetir yn Nyffryn Conwy, rydym wedi dod o hyd i bathewod mewn safle lle nad oedd unrhyw gofnodion ohonynt o’r blaen.”
Fe gasglodd archwilwyr dyfrgwn mwy na 900 sampl o faw dyfrgwn ar hyd yr Afon Dwyryd. Gan ddefnyddio’r dechnoleg DNA ddiweddaraf, gall gwyddonwyr adnabod dyfrgwn unigol o’r baw ac amcangyfrif maint y boblogaeth. Canfyddwyd mai dyfrgwn benywaidd adawodd y rhan fwyaf o’r baw – a bydd ganddon ni ddarlun llawn o’r niferoedd o ddyfrgwn cyn hir.
Rhywogaethau eraill a arolygwyd oedd ystlumod, carlymod, gwencïod a belaod coed. Fe osodwyd synwyryddion ystlumod ar gychod y Stena Line er mwyn dilyn trywydd ystlumod sy’n ymfudo rhwng Cymru a’r Iwerddon yn ystod y gwanwyn a’r hydref. Bydd y cofnodion yn cael eu dadansoddi yn ystod y wythnosau nesaf.
Ychwanegodd Liz :
“Mae’r prosiect yn cyfrannu at warchod a gwella ein mamaliaid brodorol wrth greu cyfleoedd i bobl ddysgu mwy am eu hamgylchedd lleol, drwy gymryd rhan mewn gwaith cadwraeth yn yr awyr agored.”
Fe ariennir MISE yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop dan Raglen Cymru: Iwerddon. Mae partneriaid CNC yn cynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, Athrofa Technoleg Waterford, Cyngor Waterford ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri