Natur am Byth! Adfer rhywogaethau dan fygythiad yng Nghymru

Yr hyn rydym yn ei wneud

Partneriaeth Natur am Byth yw prosiect adferiad gwyrdd blaenllaw Cymru. Mae'n dod â naw elusen amgylcheddol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghyd i gyflwyno rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub nifer o rywogaethau rhag diflannu ac i ailgysylltu pobl â natur.

Dyma’r deg partner craidd:

Rhaid i'r rhaglen gael ei chynnal nawr, yn sgil COVID-19, gan gyflawni agenda’r adferiad gwyrdd i gefnogi llesiant lleol trwy gysylltu pobl â natur.

Bydd ein partneriaeth yn creu gallu sydd fawr ei angen yn y sector treftadaeth naturiol i achub rhywogaethau sydd dan fygythiad. Trwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn creu ton newydd o lysgenhadon natur a dathlu ‘cynefin’ – y dreftadaeth naturiol unigryw sy'n sail i gymunedau ledled Cymru.

Ym mis Mehefin 2021, dyfarnwyd cais Cam 1 llwyddiannus i'r bartneriaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Cydnabyddwyd yr angen hwn am fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru trwy ymrwymiad i Natur am Byth gan y Prif Weinidog a chyllid arian parod i gefnogi ein cais.

Mae Natur am Byth yn rhannu'r un partneriaid â'n prosiectau adfer rhywogaethau yn Lloegr a’r Alban – sef Back from the Brink  a Species on the Edge. Mae dysgu oddi wrthyn nhw, ynghyd â gwerthusiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o’u gwaith, wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni lunio datblygiad Natur am Byth.

Adroddiadau

Mae Arolwg Bryoffyt o Rownton Hill yn diweddaru’r wybodaeth sylfaenol am ehangder a dosbarthiad dau o fwsoglau sydd wedi’u nodi Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) – sef Tortula canescens a Weissia levieri – a phedwar bryoffyt sy’n Brin yn Genedlaethol neu’n Anghyffredin yn Genedlaethol. 

Treftadaeth

Mae partneriaid Natur am Byth wedi nodi'r rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf o ddiflannu ac sydd â phwysigrwydd arbennig i Gymru gan ddefnyddio rhestr adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr treftadaeth naturiol ar draws Cymru a'r DU.

Rydym wedi mapio'r rhywogaethau hyn yn erbyn themâu ac wedi nodi'r tirweddau a'r ardaloedd arfordirol lle byddwn yn targedu ein rhaglen treftadaeth ac ymgysylltu.

Mae Natur am Byth yn unigryw am ein bod yn integreiddio materion rheolaeth ddaearol a morol, gan gefnogi rhywogaethau morol sy'n agor i niwed yn ogystal â'r rhai sydd ar y tir neu mewn dŵr croyw.

Mae ein ardaloedd ffocws fel a ganlyn:

  • Penrhyn Llŷn ac Ynys Môn
  • Sir Benfro
  • Gŵyr a Dinas Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd a Gwastadeddau Gwent Casnewydd
  • Eryri
  • Powys
  • Wrecsam

Yn y rhan fwyaf o’r ardaloedd hyn, byddwn yn defnyddio dull integredig i gyflawni manteision lluosog ar gyfer rhywogaethau prin. Mae rhai lleoliadau'n cynrychioli poblogaethau ynysig sydd ar fin diflannu.

Gweledigaeth a chanlyniadau

Mae ein gweledigaeth 20 mlynedd yn gweld dyfodol i Gymru lle:

  • bydd pobl a bywyd gwyllt yn ffynnu ochr yn ochr â'i gilydd mewn cynefinoedd sy'n adfer
  • bydd pobl o bob cefndir yng Nghymru yn teimlo eu bod yn perthyn i fyd natur, yn ei fwynhau ac yn gofalu amdano
  • bydd sefydliadau o bob rhan o gymdeithas Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ofalu am natur a gwerthfawrogi'r buddion y mae eu cymuned yn eu cael ohoni
  • bydd gennym sector gwydn ym maes cadwraeth natur, yr amgylchedd a rheoli tir sy'n cydweithio i wneud mwy o wahaniaeth i rywogaethau fel rhan o ecosystemau iach

O ganlyniad i'n rhaglen, byddwn:

  • wedi rhoi’r risgiau i rywogaethau sydd dan fygythiad ar yr agenda ac wedi dangos pam fod hyn yn bwysig
  • wedi dangos sut i achub y rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl yn ein cenedl ac wedi eu helpu i'w hadfer trwy ecosystemau gwydn
  • wedi ysbrydoli pobl o bob cefndir yng Nghymru i gymryd camau gweithredu ac wedi ysgogi cymunedau amrywiol i ofalu am y bywyd gwyllt sydd ar stepen eu drws
  • wedi helpu i greu ton newydd o lysgenhadon ac ymarferwyr cadwraeth
  • wedi cydweithio er mwyn darganfod datrysiadau i'r problemau mwyaf dybryd ym maes cadwraeth rhywogaethau yng Nghymru

Amserlen y prosiect

Cam 1: Mis Medi 2021 i fis Chwefror 2023
Cam 2: Cyflwyno fis Mawrth 2023
Cam 2: Mis Medi 2023 i fis Medi 2027

Sut y byddwn yn ymgysylltu â phobl

Er mwyn creu newid parhaol, bydd Natur am Byth yn gwneud y canlynol:

  • ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau er mwyn eu deall yn well
  • hyrwyddo llesiant trwy gysylltu pobl â natur
  • canfod perthnasedd rhywogaethau prin i bobl Cymru

Trwy gyfathrebu â'r cyhoedd, ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a chreu gweithgareddau i wirfoddolwyr, byddwn yn dod â rhywogaethau'n fyw ac yn cynyddu’r gwerth a roddir gan ddiwylliant ac iaith Cymru ar y byd naturiol.

Byddwn yn gweithio gyda diwydiannau creadigol, partneriaid cyflawni a'n cynllun grantiau cymunedol bach ein hunain i sicrhau bod ein rhaglen yn hygyrch i bawb, gyda phwyslais ar gynhwysiant a thargedu cymunedau mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog.

Cyllideb

Mae'r bartneriaeth wedi cyllidebu £8 miliwn ar gyfer cyfanswm cost y prosiect. Rydym wedi sicrhau cyllid ar gyfer y cyfnod datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda’n cais am y cyfnod cyflawni wedi'i drefnu ar gyfer mis Chwefror 2023 am gyfanswm o £5 miliwn.

Sicrhawyd cyllid cyfatebol o £1.7 miliwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â chymorth gan Lywodraeth Cymru.

Bydd cyllideb derfynol a photensial trawsnewidiol y prosiect yn dibynnu ar faint o arian ychwanegol y mae'r bartneriaeth yn ei sicrhau i gyd-fynd â grant Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Os bydd ein cais Cam 2 yn llwyddiannus, byddai'r cyfnod cyflawni pedair blynedd yn cychwyn ym mis Medi 2023 ac yn rhedeg i dymor yr hydref 2027.

Darllenwch ein newyddion a'n blogiau

Cyfleoedd cyffrous i roi help llaw i natur

Cysylltwch â ni

Os bydd angen arnoch fwy o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o'r tîm trwy anfon e-bost at naturambyth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf