Natur a Ni - menter genedlaethol ar ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru

Pa ddyfodol ydyn ni eisiau ar gyfer ein hamgylchedd naturiol?

Rydym yn rhedeg menter genedlaethol, 'Natur a Ni', i chi ddweud eich dweud am ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru a sut y gallwn fynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.

Meddyliwch am yr amgylchedd yr hoffech ei weld yn y dyfodol a'r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud fel unigolion ac fel gwlad i ddiogelu natur.

Ewch i www.naturani.cymru am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan er mwyn helpu i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.

Canfyddiadau'r sgwrs genedlaethol

Cyhoeddwyd canfyddiadau cam cyntaf y sgwrs cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2022.

Gwyliwch y fideo isod i gael crynodeb o'r canfyddiadau, neu gallwch ddarllen Adoddiad Cam 1 Natur a Ni am ragor o wybodaeth.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf