Marram grass

Beth ydym yn ei wneud

Prosiect cadwraeth pwysig yw Twyni Byw / Sands of LIFE sy’n rhedeg tan fis Rhagfyr 2022 a’i nod yw adfywio twyni tywod ledled Cymru. Bydd yn ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac yn adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf prin.

Bydd y prosiect £4 miliwn, sy’n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn adfer mwy na 2400 hectar o dwyni tywod mewn pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru:

Ynys Môn ac Afon Menai

Sir Feirionydd

Bae Caerfyrddin

  • Lacharn - Twyni Pendine
  • Arfordir Pen-bre
  • Twyni Whiteford

Pen-y-Bont ar Ogwr

  • Cynffig
  • Merthyr Mawr

Pam y mae twyni iach yn bwysig

Tirweddau gwyllt eiconig yw twyni tywod. Maent yn gynefinoedd sy’n llawn bioamrywiaeth, lle mae carpedi o degeirianau yn dal i oroesi ochr yn ochr â gloÿnnod byw, adar ac amrywiaeth eang o bryfed sydd dan fygythiad.

Mae ymwelwyr a phobl leol yn trysori twyni tywod oherwydd eu cymeriad unigryw ac maent yn gefnlen i ddiwrnod ar y traeth ac yn fan chwarae naturiol perffaith i bob plentyn.

Mae gan dwyni iach ddigon o dywod moel ac maent yn symud yn gyson. Mae bryniau tywod yn cael eu creu, eu chwythu i ffwrdd a’u hail-greu eto. Mae cymunedau o blanhigion ac infertebratau unigryw ac arbenigol yn ail-gytrefu’r ardal agored yn gyson.

Yn ogystal â bod yn gronfeydd o fioamrywiaeth mae ein twyni yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ehangach drwy ddarparu ateb naturiol wrth amddiffyn yn erbyn llifogydd ac erydiad arfordirol yn ogystal â chynnal llif dŵr a chynorthwyo peillwyr hanfodol megis gwenyn a gloÿnnod byw.

Newidiadau i dwyni tywod

Dros yr 80 mlynedd diwethaf mae oddeutu 90% o’r tywod agored wedi diflannu ac wedi cael ei ddisodli gan laswellt trwchus a phrysgwydd. O ganlyniad mae’r twyni wedi sefydlogi a llonyddu ac mae bywyd gwyllt prin wedi diflannu.

Achoswyd y newid hwn gan ffactorau megis cyflwyno planhigion anfrodorol, diffyg pori traddodiadol, dirywiad ym mhoblogaeth y cwningod a llygredd aer.

Y camau yr ydym yn eu cymryd

Bydd y prosiect yn adnewyddu’r safleoedd twyni tywod hyn sydd o bwys rhyngwladol drwy amrediad uchelgeisiol o gamau gweithredu:

  • ail-broffilio twyni a chreu tywod moel i ganiatáu i’r tywod symud unwaith eto,
  • gostwng arwyneb llaciau twyni sydd wedi sychu (pantiau) i ail greu pyllau a chynefin gwlyb
  • hyrwyddo arferion pori cynaliadwy gan dda byw a chwningod
  • cael gwared o brysgwydd a rhywogaethau anfrodorol goresgynnol sy’n mygu’r twyni ac yn eu sefydlogi

Hefyd, bydd rhaglen fonitro eang cyn-ac-ar-ôl i olrhain cynnydd y prosiect.

Ein gwaith gyda chymunedau

Drwy Twyni Byw/Sands of LIFE, byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth o werth a phwysigrwydd twyni tywod i bobl a’r amgylchedd. Bydd y prosiect hefyd yn galluogi rhannu gwybodaeth am reoli twyni tywod gydag eraill yng Nghymru a thu hwnt,

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu tuag at Nodau Llesiant Cymru trwy:

  • gefnogi arferion ffermio traddodiadol,
  • creu cyfleoedd economaidd i fusnesau
  • hyfforddi a datblygu cenhedlaeth newydd o reolwyr amgylcheddol
  • caniatáu i fwy o bobl ddefnyddio a mwynhau’r twyni, a fydd yn ei dro yn annog ymarfer corff, iechyd a lles

Dysgu mwy am dwyni tywod

Darllenwch ein newyddion a’n blogiau

Gwaith Twyni Byw hanfodol yn parhau yn Aberffraw - 17 August 2022

Diweddariad am waith Twyni Byw ar dwyni’r De yn yr haf a’r hydref - 3 Awst 2022

Rhoi hwb i dwyni Ardudwy yr haf a’r hydref hwn - 1 Awst 2022

Gwaith ffensio i ddiogelu a gwella’r cynefinoedd pwysig yng Nghynffig - 13 Ebrill 2022

Ailganfod tegeirian y fign galchog yn nhwyni Talacharn – Pentywyn - 28 Gorffennaf 2022

Gwaith yn digwydd yn Niwbwrch yr haf hwn - 26 Gorffennaf 2022

Y rhesymau y tu ôl i waith prosiect Twyni Byw i dynnu conwydd o’r twyni yn Nhwyni Whiteford - 21 Medi 2021

Sut y bydd prosiect Twyni Byw yn rhoi hwb i dwyni tywod o gwmpas de Cymru - 16 Awst 2021

Diweddariad ar waith Twyni Byw dros yr haf a’r hydref yn Niwbwrch - 2 Awst 2021

Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod ar ei ffordd i dynnu sylw at bwysigrwydd y cynefin - 21 Mehefin 2021

Twyni tywod yn cael hwb ar safle o bwysigrwydd rhyngwladol ar Ynys Môn - 24 Mawrth 2021

Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf i’w chynnal ar 25 Mehefin 2021- 24 Mawrth 2021

Adroddiad newydd yn dangos y bydd gwaith cadwraeth yn hybu rhywogaeth brin warchodedig ledled Cymru - 16 Mawrth 2021

Diweddariad gwaith Twyni Byw o Niwbwrch - 10 Mawrth 2021

Gwaith gaeaf hanfodol wedi'i gwblhau yn Nhwyni Pen-bre - 23 Chwefror 2021

Gwaith hanfodol Twyni Byw i gefnogi twyni Cynffig - 2 Chwefror 2021

Gwaith Twyni Byw ar fin rhoi hwb i dwyni tywod Tywyn Aberffraw - 8 Rhagfyr 2020

Adroddiad newydd yn taflu goleuni ar boblogaeth madfall y tywod Cymru - 19 Tachwedd 2020

Gwaith pwysig er mwyn adfywio twyni tywod ym Merthyr Mawr - 5 Hydref 2020

Prosiect Twyni Byw am waredu prysgwydd er mwyn adfywio glaswelltir twyni yn Niwbwrch - 3 Medi 2020

Pa effaith y mae’r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar y prosiect Twyni Byw? - 28 Mai 2020

Adfywio ein twyni tywod - 7 Hydref 2019

Adfywio Twyni Cymru - 7 Awst 2018

Yr haf at y twyni tywod - 30 Mai 2018

Gwyliwch ein fideos

Twyni Dynamig

Sut yr ydym yn rheoli twyni tywod mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Gweler Arc-GiS StoryMap Twyni Byw/Sands of LIFE

Gyliwch gwaith y prosiect Twyni Byw i adfywio un o’r llaciau yn Niwbwrch

Gwyliwch ychydig o waith hanfodol y prosiect Twyni Byw yn Nhwyni Pen-bre

Darllenwch ein cylchlythyrau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyrau Twyni Byw

Twyni Byw yn y newyddion

'Important fencing work to begin at Pembrey Burrows', Llanelli Herald (Erthygl yn Saesneg yn unig) - 17 Mehefin 2020 

'Preserving Life', Life in North Wales Magazine (Erthygl yn Saesneg yn unig), Tudalen 29-32 - 29 Medi 2020

'Sands of LIFE - Revitalising Wales Dunes', South Wales Life (Erthygl yn Saesneg yn unig) - 1 Mawrth 2021 

'Robo-mowers to help boost sand dune habitat', Cambrian News (Erthygl yn Saesneg yn unig)​  - 15 Mawrth 2021

'Diwrnod o ddathlu gwerth a phwysigrwydd twyni tywod', BBC Cymru Fyw  - 25 Mehefin 2021

Rhagor o fanylion y prosiect

Darllenwch mwy o wybodaeth fanwl am y prosiect

Adroddiadau technegol

Arolygon o fadfallod y tywod cyn ymyriadau yn Nhywyn Aberffraw a Thywyn Niwbwrch ar gyfer Twyni Byw

Twyni Byw: Arolwg bryoffytau

Twyni Byw: Adroddiad arolwg madfallod dŵr cribog

Twyni Byw: Monitro llystyfiant mewn mannau penodol – adroddiad cyn ymyrraeth

Twyni Byw: Adroddiad Infertebratau – Monitro infertebratau cyn ymyrraeth

Arolwg Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol Twyni Byw

Prosiectau Partner

Dunes2Dunes

Twyni Bae Caerfyrddin

Twyni Dynamig CNC/LIFE

Rhwydwaith Graean Bras a Thwyni Tywod y DU/ UK Sand and Shingle Network

Cysylltu â ni

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu ag aelod o’r tîm, anfonwch e-bost I SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyllid

Mae’r prosiect Twyni Byw / Sands of LIFE (LIFE17 NAT/UK/000023) wedi derbyn 75% o gyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu 25 % o arian cyfatebol. Bydd y prosiect a ddechreuodd ym mis Medi 2018 yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2022. 

   LIFE   Natura 2000    Welsh Govt logo

 

Diweddarwyd ddiwethaf