Perlau mewn Perygl
Mae’r prosiect cyffrous hwn yn ceisio amddiffyn poblogaethau pwysig o Fisglod perl dŵr croyw (margaritifera margaritifera).
Bydd y prosiect yn para’ hyd at diwedd mis Medi 2016. Yn ystod y tair blynedd nesaf bydd gwaith cadwriaethol uniongyrchol yn amlygu ar y ddaear.
Prif amcanion y prosiect yw:
- ADFER cynefin y misglod, eogiaid a brithyll brodorol
- SICRHAU goroesiad hir dymor i’r poblogaethau o fisglod perl dŵr croyw
- CYFATHREBU gyda chynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth o faterion cadwriaethol misglod perl dŵr croyw
Bydd y gwaith yn defnyddio dulliau arfer gorau ar gyfer sicrhau dyfodol i boblogaethau o fisglod perl dŵr croyw. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Adfer cynefin y glannau drwy blannu planhigion brodorol
- Perlau yn y dosbarth – Rhaglen addysgol a fydd yn codi ymwybyddiaeth o fisglod perl dŵr croyw gyda phlant
- Lleihau llygredd gwasgaredig drwy flocio ffosydd a creu gwlypdir
- Cyflogi gwarchodwr afonydd yn yr Alban i leihau troseddau bywyd gwyllt
- Annod y berthynas rhwng larfae misglod perl gyda eogiaid a brithyll brodorol
- Monitro ansawdd dŵr, poblogaethau o fisglod perl a physgod brodorol
- Cynyddu’r ymwybyddiaeth o fisglod perl a’r prosiect ei hun
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar 21 afon ar hyd Prydain. Mae’r afonydd hyn i gyd yn safleoedd NATURA 2000 ac wedi’u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae afon ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi ei phenodi fel rhan o'r prosiect.
Rhagor o wybodaeth
Diweddarwyd ddiwethaf