Prosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn

Organisations that are involved in MISE logos Anglesey and Llŷn Fens LIFE Project logos

 

Ynglŷn â’r prosiect

Mae Prosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn yn ei gwneud yn hawdd gweld sut y gall rheoli adnoddau naturiol fod yn syniadau cymharol syml y gellir eu hymgorffori’n rhwydd yn y gwaith a wnawn.

Mae cyllid prosiect Life+ y Comisiwn Ewropeaidd wedi bod yn hollbwysig – mae wedi ei gwneud yn bosibl i Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru wneud gwahaniaeth i gadwraeth natur, ac o ran cyflawni dull rheoli adnoddau naturiol ar y ffeniau hyn a’u cyffiniau yn Ynys Môn a Phen Llŷn.

Dim ond trwy wrando ar y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y dalgylchoedd hyn, a gweithio gyda hwy, y llwyddwyd i gyflawni’r prosiect yn llwyddiannus.

Beth yw ffen a pham y maent yn arbennig?

Ffen yw math o wlyptir sy’n cael ei fwydo gan ddŵr llawn mwynau. Maen nhw’n cynnal amrywiaeth eang o anifeiliad a phlanhigion, llawer ohonynt yn blanhigion tal y gors yn tyfu’n agos at ei gilydd fel brwyn, hesg neu flancedi o flodau gwylltion. Mae cael un erw o ffen mewn cyflwr da mor brin â gweld gwalch y pysgod yn eich gardd.

Mae’r ffeniau ar Ynys Môn a Phen Llyn yn cael eu dŵr o ffynhonnau sy’n gyfoethog mewn calsiwm a’r gymysgedd hon o’r alcalinaidd a’r asid sy’n eu gwneud mor arbennig, ac mor brin.

Yn y gorffennol y ffeniau oedd anadl einioes y bobl leol ond yn y degwadau diwethaf rydym wedi cael ein gwahanu oddi wrthynt ac maen nhw wedi dioddef oherwydd ein  esgeulustod. ACA Ynys Môn a Phen Llyn yw’r crynoadau mwyaf pwysig a helaeth o gynefin ffen-gyfoethog yng Nghymru a Gorllewin Prydain.

Beth yw’r problemau?

Dirywiad yn eu cyflwr

Mae cyflwr y ffeniau wedi dirywio. Y prif reswm am hyn yw diffyg pori. Mae angen i bob un o’r ffeniau gael eu pori’n fwy gan anifeiliaid fel gwartheg a merlod.

Mae pori wedi gostwng oherwydd arferion amaethyddol mwy dwys a modern sydd wedi cefnu ar borfeydd geirwon traddodiadol. Ni chaiff deunyddiau gorwedd ar gyfer anifeiliaid, bwydydd na gwellt toi mo’u cynaeafu mwyach, gan ychwanegu at y duedd tuag at esgeulustod. Yn hanesyddol câi tân ei ddefnyddio i gael gwared â sbwriel ac annog tyfiant, ond mae’r arfer hon hefyd wedi lleihau.

Swm y dŵr

Mae draenio artiffisial yn gyffredin iawn ar Gorsydd Môn a Llŷn i gyd. Câi hyn ei wneud ar gyfer torri mawn, amaethyddiaeth a dŵr o gynlluniau draenio oddi mewn i ddalgylchoedd y safleoedd. Mae draenio’n arwain at leihau lefelau trwythiad sy’n sychu’r mawn ac yn atal dyfroedd llawn calsiwm rhag cyrraedd ardaloedd lle y ceir llystyfiant ffen alcalin a chalchaidd gwerthfawr.

Ansawdd y dŵr

Mae cyfoethogi o du ffynonellau gwasgaredig a ffynonellau tarddle pwynt yn broblem ar bob un o safleoedd y prosiect. Mae’r ffynonellau’n cynnwys gwrteithiau anorganig, tail organig, slyri a gwaredu gwastraff lladd-dai a gwastraff organig arall ar y safleoedd, yn ogystal â charthion.

 

 

Yr hyn rydym wedi ei wneud...

  • Wedi dangos bod cadwraeth a ffermio yn gallu cydweithio’n dda
  • Wedi symud neu ailbroffilio oddeutu 100,000 tunnell o bridd a oedd wedi'i niweidio, drwy gynnal y prosiectau adfer corsydd ac alcalïaidd mwyaf yn Ewrop mae’n debyg ar dros 15 hectar o fawn diraddiedig
  • Wedi torri a llosgi dros 200 hectar o ffen a oedd wedi gordyfu
  • Wedi cyflwyno dros 500 hectar o dir i’w bori ac i’r economi leol unwaith eto
  • Wedi cael gwared â dros 100 hectar o brysg a oedd yn sychu neu’n bwrw cysgod dros y gors
  • Wedi gwneud cytundebau gyda thirfeddianwyr ar gyfer dros 200 hectar er mwyn i'r tir gael ei reoli mewn ffordd a fydd o fudd i'r ddwy ochr
  • Wedi adfer dros 3.5km o ffrydiau yn codi o'r ddaear, nentydd a dyfroedd yn tryddiferu yn y corsydd sy’n dibynnu ar y dŵr a ddaw ohonynt
  • Wedi cael lefel y dŵr yn iawn ar dros 6km o ffosydd - gan ostwng a chodi lefel y dŵr fel y bo’n briodol i wneud yn siŵr y gall corsydd prin ffynnu heb i hynny effeithio ar dir cymdogion
  • Wedi sicrhau bod dros 200 hectar o dir yn dod o dan system rheoli cadwraeth uniongyrchol a lle bydd mynediad y cyhoedd yn cael ei wella hefyd
  • Wedi cyfrannu at arafu pa mor gyflym y mae llifddwr yn cyrraedd ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac wedi glanhau miliynau o litrau o ddŵr yn ein cyrsiau dŵr
  • Cymru yn cael mwy o gydnabyddiaeth fel gwlad sy’n gallu cyflawni prosiectau cadwraeth ac adfer sy’n bwysig yn rhyngwladol
  • Wedi cydweithio gyda chymheiriaid rhyngwladol i ddarparu animeiddiad a llyfr plant o safon uchel
  • Wedi gwella cynefin y safleoedd ac wedi paratoi'r ffordd ar gyfer ailddarganfod planhigion nad ydynt wedi'u gweld ar y safleoedd am dros 120 o flynyddoedd

Rhagor o wybodaeth am y prosect

Anglesey and Llŷn Fens LIFE Project summary book cover

Mae'r llyfryn yma yn cynnwys nifer o luniau a crynodeb o holl waith y prosiect dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Fe sylweddolwch pam fod y safleoedd yn bwysig i fywyd gwyllt a phobl, beth ddewch o hyd iddo a pham ei fod yn bwysig treulio amser ac adnoddau i’w gwella, ac yna eu cadw fel yna.

Ble nesaf?

Bydd ganddom  nifer o dimau yn delio â gwahanol agweddau ar y gwaith hwn yn y dyfodol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn proses o gynllunio maetholion ar eich tir wrth ymyl gwlyptir neu os ydych chi'n berchen ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac â diddordeb yn ei wella ar gyfer cadwraeth a ffermio, cysylltwch â ni.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf