Cynllun Llifogydd Stryd Stephenson

Cynllun Llifogydd Stryd Stephenson

Cefndir

Rydym wedi penodi’r ymgynghorwyr peirianneg Arup i ddatblygu cynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd ar gyfer Llyswyry, Casnewydd.

Amcan strategol y cynllun yw lleihau’r perygl o lifogydd i’r cymunedau a’r busnesau cyfagos. Yn 2019 cyflwynwyd achos busnes llwyddiannus gennym i sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun.

Mae Arup wedi ymchwilio i wahanol opsiynau yn yr ardal, ac wedi datblygu cynnig i ddarparu gwell amddiffyniad i fwy na 2000 o gartrefi a busnesau yn yr ardal rhag llifogydd.

Dysgwch fwy am y perygl llifogydd a geir ar hyn o bryd yn Llyswyry, a chynigion ar gyfer y cynllun newydd ar ein tudalen prosiect.

Cysylltu

David Garth, Rheolwr y Prosiect

0300 065 3000

strydstephenson@cyfoethnaturiol.cymru 

Diweddarwyd ddiwethaf