Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Porthmadog
Ymgynghori – os gwelwch yn dda dweud eich dweud.
Mae'r ymgynghoriad bellach yn fyw a byddem yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr. Cyflwynwch drwy’r ffurflen adborth hon. Yn ogystal ag ymweld â'n digwyddiadau, gallwch gael mynediad at y deunyddiau a'r ffurflen adborth o fewn yr ystafell rithwir hon a fydd yn fyw tan 1.30pm dydd Llun, 20fed o Chwefror 2023. Diolch yn Fawr.
Cydnabyddiaeth i: NPAS (Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu)
Rheoli llifogydd ym Mhorthmadog
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn archwilio opsiynau i reoli’r perygl o lifogydd i Borthmadog a'r cymunedau cyfagos yn y tymor hir yn fwy effeithiol. Rydym yn awyddus i egluro’r perygl llifogydd tymor hir i'r gymuned a sut mae'r prosiect hwn yn gyfle i fynd i'r afael â'r risgiau hyn. Byddwn hefyd yn chwilio am gyfleoedd amgylcheddol, cymdeithasol, ac economaidd ehangach.
Perygl llifogydd ym Mhorthmadog
Mae cymuned Porthmadog a Thremadog mewn perygl oherwydd llifogydd o afonydd ac o’r môr. Wrth i’n hinsawdd newid, rhagwelir y bydd yr ardal hon, fel nifer o gymunedau eraill ledled Cymru, yn wynebu stormydd amlach a mwy o law trwm yn ogystal â chynnydd yn lefelau’r môr. Bydd cynnal y lefel bresennol o amddiffyniad rhag llifogydd i bobl a chartrefi yn her o ystyried tir isel yr ardal a’r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd, sy’n heneiddio.
Ein gwaith
Mae'r prosiect yn adeiladu ar brosiectau ac astudiaethau blaenorol a bydd yn cynnwys asesu amrywiaeth o opsiynau hirdymor i leihau'r perygl o lifogydd o afonydd ac o’r môr i'r gymuned leol. Byddwn yn ystyried ystod o ffactorau ar gyfer yr opsiynau dan sylw, megis cynaliadwyedd, hyfywedd, a fforddiadwyedd. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda byd natur ac i archwilio cyfleoedd i greu cynefinoedd newydd a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal. Efallai y bydd cyfleoedd i adfywio'r amddiffynfeydd presennol a'r mannau cyhoeddus cysylltiedig, gan ddarparu buddion ehangach i'r gymuned leol. Rydym eisiau cydweithio i ddod o hyd i atebion a all gynnig dyfodol cynaliadwy i Borthmadog.
Bydd unrhyw benderfyniad ynghylch dyfodol amddiffynfeydd rhag llifogydd ym Mhorthmadog a Thremadog yn rhoi ystyriaeth i Gynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru. Mae’r Cynllun Rheoli Traethlin yn darparu’r fframwaith ar gyfer rheoli effeithiau tymor hir llifogydd arfordirol ac ar gyfer Porthmadog, mae’n argymell polisi ‘Cynnal y Llinell’ dros y 100 mlynedd nesaf. Mae ‘cynnal y llinell’ yn golygu adeiladu neu gynnal amddiffynfeydd artiffisial fel bod llinell bresennol y draethlin yn parhau. Mae hyn yn ddibynnol ar fforddiadwyedd a gall olygu newid safonau’r amddiffyniad rhag llifogydd.
Cynnydd hyd yma
Trwy gydol 2022, rydym wedi bod yn diweddaru ein model llifogydd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r perygl o lifogydd. Gan ddefnyddio'r canllawiau diweddaraf, y cofnodion sydd ar gael ar lif afonydd a'r ffotograffau a dynnwyd yn ystod gaeaf 2015, gallwn ragweld y perygl o lifogydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ac ystyried y pwysau cynyddol o ganlyniad i newid hinsawdd.
Mae'r model yn dangos bod mwy o gartrefi a busnesau mewn perygl o ddioddef llifogydd o Afon Glaslyn, o’r Cyt ac o'r môr. Mae hyn yn achos pryder inni oll, a dyna pam y mae CNC yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion cynaliadwy i reoli'r risg.
Cyn diweddaru ein model yn 2021, anfonwyd llythyrau i gartrefi a busnesau yn gofyn am eich profiadau o lifogydd. Mae hyn wedi ein helpu i ddeall eich pryderon yn well a'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi. Ymhlith yr awgrymiadau hyd yma mae uwchraddio amddiffynfeydd cyfredol y dref a chael gwared o lifddwr yn gynt o'r ardal.
Mae ein dealltwriaeth ddiweddaraf o'r perygl o lifogydd yn cyflwyno her o ran cynnal y lefel yr amddiffyniad fel y mae ar hyn o bryd. O'r arfordir, rydym yn rhagweld cynnydd o hyd at un metr yn lefel y môr dros y ganrif nesaf. O afonydd, rydym yn disgwyl mwy o lifddwr a llifogydd eithafol yn fwy aml. Mae’n ymddangos y bydd llwybrau llif newydd yn cael eu creu, a allai osgoi amddiffynfeydd presennol a chysylltu'r Cyt ag Afon Glaslyn.
Drwy weithio gyda'r gymuned a chyda'n partneriaid, byddwn yn asesu opsiynau i reoli'r bygythiad hwn a gweithio tuag at ganfod yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio yn 2023.
Y newyddion diweddaraf
Ymgynghoriad fel rhan o waith rheoli perygl llifogydd ym Mhorthmadog.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal dau ddigwyddiad ymgynghori gydag aelodau’r cyhoedd i rannu canfyddiadau model llifogydd wedi'i ddiweddaru ar gyfer Porthmadog a’r cyffiniau.
Mae hyn yn rhan o waith CNC i leihau perygl llifogydd yn yr ardal a bydd y digwyddiadau, a gynhelir yng Nghanolfan Gymdeithasol Porthmadog ddydd Iau 26 Ionawr a dydd Gwener 27 Ionawr, yn rhoi cyfle i egluro’r canfyddiadau a’r atebion sy’n cael eu hystyried o ran rheoli perygl llifogydd.
Mae mwy na 2,400 o gylchlythyrau’n cael eu hanfon i gartrefi a busnesau yn yr ardal fel rhan o’r ymgynghoriad.
Dewch i’n gweld ni yn y cyntaf o’r digwyddiadau ymgynghori:
Y Ganolfan, y Stryd Fawr, Porthmadog, LL49 9LU
Dydd Iau, Ionawr 26 rhwng 1:30pm a 6:30pm
A
Dydd Gwener, Ionawr 27 rhwng 9:30am a 2:00pm.
Bydd aelodau o dîm y prosiect wrth law i ateb eich cwestiynau a thrafod canfyddiadau’r model llifogydd a sut y gallai hyn effeithio arnoch chi. Rydym hefyd eisiau clywed eich barn ar opsiynau posib ar gyfer rheoli perygl llifogydd a sut y caiff y rhain eu hasesu.
Os na allwch ddod i’r digwyddiadau ymgynghori, bydd y byrddau gwybodaeth a’r ffurflenni adborth ar gael ar-lein o ddydd Iau 26 Ionawr, 1:30pm.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng dydd Iau 26 Ionawr a dydd Llun 20 Chwefror 2023.
Cadw mewn cysylltiad
Byddwn yn rhoi diweddariadau ar y prosiect ar y dudalen we hon.
Cysylltwch os hoffech wybod mwy a rhannu eich syniadau â ni yn ogystal â chofrestru i dderbyn diweddariadau ar gynnydd yn y dyfodol:
E-bost: risgllifogydd.porthmadog@grasshopper-comms.co.uk
Ffôn: Andrew Basford, Rheolwr (Dysgwr Cymraeg) ar 03000 65 3846 neu Sharon Parry, Swyddog Cymorth Tîm y Prosiect (Siaradwr Cymraeg) ar 03000 65 5264.
Gallwch ysgrifennu atom hefyd:
Sharon Parry
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Swyddfa Bangor,
Maes y Ffynnon,
Penrhosgarnedd,
Gwynedd,
L57 2DW