Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn nalgylch Tregatwg
Cefndir
Mae cyfnodau o law trwm dros y blynyddoedd diwethaf wedi amlygu problem llifogydd yn Ninas Powys. Mewn cyfnodau o law trwm, mae sianeli'r afon, draeniau dŵr wyneb a charthffosydd dŵr wyneb yn cael eu llethu, gan achosi llifogydd ar ffyrdd ac mewn gerddi a chartrefi.
Un o'n rolau yw gweld beth y gellir ei wneud i leihau'r risgiau, yn enwedig yn wyneb y newid yn yr hinsawdd, sy'n debygol o gynyddu'r perygl o lifogydd wrth i amser fynd yn ei flaen.
Hanes o lifogydd
Mae gan Afon Tregatwg ac East Brook hanes hir o lifogydd yn y pentrefi. Mae cofnodion sy'n dyddio'n ôl i 1903 yn dangos sawl achos o lifogydd, gan gynnwys ar St Cadoc's Avenue, Greenfield Avenue, Elm Grove Place a Heol Caerdydd.
Roedd y llifogydd sylweddol diwethaf ar 23 Rhagfyr 2020. Ar ôl cyfnod dwys o law, cododd lefelau dŵr yn gyflym gan arwain at lifogydd mewn 98 eiddo. Mae llawer o ddigwyddiadau wedi bod lle bu ond y dim i ni weld llifogydd pan mae’r afon wedi bod yn uchel iawn ond heb achosi llifogydd yn y pen draw.
Mae'r newid yn yr hinsawdd yn achosi tywydd mwy eithafol ac yn rhoi mwy o bwysau ar yr amddiffynfeydd llifogydd, afonydd a systemau draenio presennol. Wrth i'n hinsawdd barhau i newid, byddwn yn wynebu stormydd a glaw trwm yn amlach, a rhagwelir y bydd hyn yn arwain at lifogydd amlach a mwy dinistriol. Mae astudiaethau'n rhagweld y gallai nifer yr eiddo sydd mewn perygl mawr o lifogydd ddyblu dros y 100 mlynedd nesaf.
Rydym wedi archwilio gwahanol opsiynau rheoli perygl llifogydd. Yn 2021, cyhoeddwyd yr Achos Busnes Amlinellol yn canolbwyntio ar ardal storio llifddwr ger Cwm George, rhwng Casehill Wood a Hales Wood. Cafodd yr opsiwn hwn gryn wrthwynebiad gan y cyhoedd oherwydd ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol fel colli coed. Gan gydnabod hyn, penderfynon ni beidio â bwrw ymlaen â'r opsiwn hwn. Felly, mae dulliau amgen o liniaru llifogydd bellach yn cael eu harchwilio.
Trosolwg o’r Prosiect
Rydym bellach yn archwilio opsiynau i leihau'r perygl o lifogydd i bobl, eiddo a seilwaith yn East Brook a Dinas Powys, heb gael effaith andwyol ar gymunedau i lawr yr afon.
Mae hyn yn cynnwys ystyried defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i reoli llifogydd ac atebion peirianyddol ar raddfa fach, gan ystyried adborth blaenorol ar ôl ymgynghori â'r gymuned.
Mae gennym gyllid gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ymarferoldeb gwaith Rheoli Llifogydd yn Naturiol “a Mwy” (NFM+).
Beth yw Rheoli Llifogydd yn Naturiol a Mwy?
Rheoli Llifogydd yn Naturiol yw pan ddefnyddir prosesau naturiol i leihau'r perygl o lifogydd drwy adfer troeon mewn afonydd, newid cyflymder llif y dŵr mewn afonydd a'r ffordd y caiff tir ei reoli fel y gall pridd amsugno mwy o ddŵr.
Nid yw'n cynnwys defnyddio seilwaith amddiffyn rhag llifogydd traddodiadol fel rhwystrau neu argaeau.
I gael mwy o wybodaeth am Reoli Llifogydd yn Naturiol, dilynwch y dolenni hyn:
- Natural flood management – part of the nation’s flood resilience - GOV.UK (www.gov.uk)
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Mapiau ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol
Yn ogystal â Rheoli Llifogydd yn Naturiol, efallai y bydd atebion peirianyddol ar raddfa fach a all weithio ochr yn ochr â phrosesau naturiol i helpu i fynd i'r afael â phroblemau llifogydd.
Mae dulliau eraill yn cynnwys y potensial ar gyfer manteision lleol ychwanegol, fel helpu i adfer a gwella cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr a gwella lles ac iechyd y gymuned leol.
Cynnydd hyd yn hyn
Rydym yn gweithio gyda’r ymgynghorwyr Arup, sy'n ymgymryd ag agweddau technegol yr astudiaeth hon sy'n cwmpasu dalgylchoedd Afon Tregatwg, East Brook a'u hisafonydd (Cold Brook, Bullcroft Brook a Wrinstone Brook)
Hyd yma, rydym wedi cynnal rhywfaint o waith i asesu ymarferoldeb ac wedi ymweld â dalgylchoedd ardal yr astudiaeth er mwyn deall y mathau o atebion a allai weithio orau.
Cyfleoedd i reoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch Tregatwg
Nodweddion Gwanhau Dŵr Ffo
Gall y rhain leihau briglifoedd mewn cyrsiau dŵr drwy arafu llif dros y tir.
Buddion:
- lleihau perygl llifogydd
- cefnogi cynhyrchiant y tir
- cefnogi infertebratau a phlanhigion arbenigol
- addasu i newid yn yr hinsawdd
Malurion pren mawr mewn sianeli afonydd
Gall hyn annog llifddwr i orlifo dros y glannau a’i rwystro rhag llifo ymlaen.
Buddion:
- gwella maetholion a chyflwr y pridd
- lleihau perygl llifogydd
- cefnogi cynhyrchiant y tir
- gwella amrywiaeth cynefin yr afon a bioamrywiaeth ddyfrol
- gwella strwythur y sianel
- gwella ansawdd dŵr
- addasu i newid yn yr hinsawdd
Adfer neu optimeiddio gorlifdiroedd
Gall hyn storio symiau mawr o ddŵr i leihau perygl llifogydd.
Buddion:
- gwella bioamrywiaeth a chynefin dyfrol, ansawdd dŵr, maetholion y pridd a chyflwr y pridd
- cefnogi cynhyrchiant y tir
- lleihau perygl llifogydd
- gwella strwythur y sianel
- addasu i newid yn yr hinsawdd
Cynyddu gorchudd coed
Mae hyn yn dal y dŵr ar ganopi'r coed ac yn cynyddu gallu'r pridd i ddal dŵr. Gall anwedd-drydarthiad o goed aeddfed fod yn bwysig hefyd.
Buddion:
- arafu dŵr ffo ar yr wyneb
- annog ymdreiddiad i’r pridd
- gwella maetholion a chyflwr y pridd
- gwella bioamrywiaeth
- gwella ansawdd dŵr
- addasu i newid yn yr hinsawdd
- lliniaru newid yn yr hinsawdd drwy amsugno carbon deuocsid a storio carbon
Plannu lleiniau clustogi
Gall plannu lleiniau clustogi ar bwys cyrsiau dŵr, e.e. llwyni neu leiniau o laswellt, arafu dŵr ffo.
Buddion:
- gwella ymdreiddiad effeithiol i’r pridd
- arafu llifoedd ar yr wyneb
- gwella bioamrywiaeth
- gwella ansawdd dŵr
- addasu i newid yn yr hinsawdd
- lliniaru newid yn yr hinsawdd drwy amsugno carbon deuocsid a storio carbon
Aredig gyda’r cyfuchliniau
Mae hwn yn arfer ffermio sy'n golygu aredig / plannu ar draws llethr, gan ddilyn ei gyfuchliniau naturiol. Mae'r gwrymiau’n helpu i storio dŵr ffo a lleihau'r perygl o lifogydd.
Buddion:
- lleihau colledion o ran pridd a maetholion
- helpu i gadw dŵr
- lleihau perygl llifogydd
- gwella bioamrywiaeth
- gwella ansawdd dŵr
- addasu i newid yn yr hinsawdd
Camau nesaf
Mae gweithio'n agos gyda'r gymuned leol, yn enwedig eiddo a thirfeddianwyr, yn allweddol i weithredu mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol a Mwy a lleihau'r perygl o lifogydd. Ar hyn o bryd rydym yn cyfarfod â ffermwyr, tirfeddianwyr a thenantiaid lleol i archwilio'r cyfleoedd.
Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn y prosiect i rannu eu gwybodaeth leol, eu syniadau a'u pryderon.
Byddwn yn ceisio cydweithio â'r gymuned leol drwy ymateb i ymholiadau, ystyried heriau, ac archwilio cyfleoedd posib i Reoli Llifogydd yn Naturiol.
Penodwyd Grasshopper Communications i’n cefnogi gyda’r holl waith ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid.
Os hoffech roi unrhyw adborth, llenwch ffurflen ar-lein erbyn 31 Gorffennaf 2022. Rydym yn eich annog i adael eich manylion cyswllt fel y gallwn gysylltu i drafod eich adborth ymhellach.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein hymgysylltiad â'r gymuned, gweler yr adran 'Newyddion Diweddaraf'.
Manylion cyswllt
Gallwch gysylltu â’r tîm ar e-bost neu ar y ffôn.
E-bost: dinas.powys.nfm.plus@grasshopper-comms.co.uk
Ffôn: 02920 108716
Newyddion diweddaraf
Cynhaliwyd digwyddiadau gyda ffermwyr a thirfeddianwyr eraill ym mis Mai 2022 i ddysgu am eu tir, ei nodweddion ac i drafod cyfleoedd ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol a Mwy (NFM+).
Gwyliwch y weminar i dirfeddianwyr ar rheoli llifogydd yn naturiol - Mai 2022.